Pam fyddai Martine yn fentor effeithiol
- Ers 2006, mae Martine wedi rhedeg ei busnes bach ei hun, gan ddarparu cymorth gweinyddol i fusnesau fferm sydd eisiau help i brosesu ffurflenni TAW, paratoi ar gyfer arolygiadau Sicrwydd Fferm, ceisiadau SAF a chadw cofnodion ar-lein eraill.
- Mae hi hefyd yn diwtor TGCh medrus, ac yn darparu'r gwasanaeth hwn i ffermwyr yn eu cartrefi eu hunain drwy raglen sgiliau a mentora Cyswllt Ffermio. Mae hyn yn cynnwys pob agwedd ar TGCh, gan gynnwys meddalwedd ffermio penodol, cymorth cyfrifon a chymorth cyffredinol gyda sgiliau cyfrifiadurol a rheoli busnes.
- Mae ganddi agwedd gadarnhaol, ymarferol iawn ac mae'n drefnus iawn, felly mae'n gallu cynnig cefnogaeth a strwythur i unrhyw un sy'n chwilio am arweiniad cyfrinachol, sicrwydd a mentora gan sicrhau bod eu holl nodau'n realistig ac yn bosibl.
- Mae Martine yn gyfathrebwr ac yn wrandäwr da, ac mae ei phrofiad trefnu, ei gwybodaeth, ei hamynedd a’i dull gonest oll yn sgiliau sydd wedi helpu nifer o ffermwyr yng Nghymru - gan gynnwys y rhai sy'n cael trafferthion fel dyslecsia a dyspracsia – i weithio’n hyderus ac effeithlon.
- Gall hefyd roi cymorth i gwblhau’r gweithlyfr Rheoli Llygredd Amaethyddol i’ch helpu i fodloni gofynion cadw cofnodion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
Busnes presennol y fferm
- Ffermwyr tenant ar ddaliad cyngor 100 erw ger Clas-ar-wy
- Buches fasnachol o 10 o wartheg bîff
- Diadell fasnachol o 250 o ddefaid
- Diadell bedigri o ddefaid Texel
- Mae'n rhedeg busnes gweinyddol ei hun ar gyfer ffermydd ac yn darparu sesiynau tiwtora TGCh ochr yn ochr â'i rôl rheoli gyda chwmni cyflenwadau amaeth lleol
Cymwysterau/cyflawniadau/profiad
- 2006 hyd yma: Tiwtor TGCh cymwysedig ar gyfer Cyswllt Ffermio a pherchennog gwasanaeth cymorth gweinyddol i ffermwyr
- Medi 2015 – Gorffennaf 2018: Coleg Henffordd a Llwydlo, Henffordd AAT L3 (Diploma Uwch) mewn Cyfrifeg ac ar hyn o bryd yn gorffen arholiadau mewn Cyfrifeg Broffesiynol AAT L4, sy'n cynnwys pob agwedd ar gyfrifeg (gan gynnwys hyfforddiant meddalwedd cyfrifiadurol)
- Tachwedd 2001 –Mehefin 2003: Cymhorthydd Cludo a Danfon – Brecon Pharmaceuticals, Y Gelli Gandryll
- Medi 1999 – Medi 2000: Y Cynllun Prentisiaethau Ifanc, wedi hyfforddi fel bugail ar ddaliad 180 erw ger Aberhonddu - yn gyfrifol am reoli diadell o 500 o ddefaid, gan gynnwys cneifio a dipio a phob agwedd ar redeg a chynnal fferm. NVQ Lefel 3 mewn Rheoli Defaid, sêl efydd mewn cneifio, NVQ Lefel 2 mewn cneifio.
- Mawrth 2019 - Mae Martine yn hyfforddwr cofrestredig ar gyfer meddalwedd cyfrifeg Xero, ac yn hyfforddwr cymwys ar gyfer meddalwedd a rhaglenni ffermio eraill, gan arbenigo mewn dysgwyr â dyslecsia a dyspracsia.
Prif gynghorion ar gyfer llwyddo mewn busnes
"Rydw i bob amser yn annog ffermwyr i feddwl y tu allan i'r bocs ac i geisio canfod ffordd heb lawer o straen a mwy hylaw o ddod o hyd i atebion i'w problemau."
"Unwaith y byddwch chi'n dechrau credu ynoch chi'ch hun, byddwch chi'n gallu gwneud pethau gydag agwedd 'gallu-gwneud' fwy cadarnhaol, bydd modd datrys rhwystrau tybiedig, a chyrraedd eich nodau yn sydyn!"
"Fe allwch chi os ydych chi'n meddwl y gallwch chi! Os ydych chi'n meddwl y gallwch chi, fe wnewch chi!"