Gweithredu rheolaeth ar lefel uwch ar faethiad yn y diwydiant defaid yng Nghymru
Y maethiad gorau posibl yw’r sail ar gyfer cynhyrchu da byw yn effeithiol ac effeithlon. Efallai na fydd glaswellt ar ei ben ei hun yn cynnig yr holl elfennau maethol sy’n ofynnol gan famogiaid ac weithiau mae angen ategu maetholion i wella cynhyrchiant. Yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r penderfyniad i ategu yn seiliedig ar brofi’r glaswellt/porthiant, pridd neu’r defaid. Ond, yr unig ffordd i asesu a yw’r defaid yn cael eu cynnal yn faethol yw ymchwilio i’r crynhoad o faetholion yn y ddafad a chymharu hynny â’r lefelau arferol. Yn draddodiadol yn y Deyrnas Unedig mae hyn wedi cael ei gyflawni trwy gymryd samplau gwaed o sampl o ddefaid. Gall y crynhoad yn y gwaed ymateb i newidiadau mewn diet o fewn dyddiau a gall prosesau afiechydon hefyd ddylanwadu arnynt. Oherwydd hyn, dim ond rhan o’r stori gewch chi wrth seilio’r canlyniadau ar y gwaed yn unig.
Mae biopsi iau anifeiliaid byw yn rhoi gwybodaeth wahanol i waed gan ei fod yn rhoi amcangyfrif tymor hwy hanesyddol o statws yr elfennau hybrin. Gwelwyd bod y dechneg yn gyflym, diogel a dibynadwy.
Mae dadansoddi gwaed yn dal yn ddefnyddiol ar y cyd â hyn gan y gall roi gwybodaeth tymor byr sy’n rhoi amcan o’r cyflenwad presennol a’r ymateb, yn ogystal â gwybodaeth am y gystadleuaeth rhwng elfennau. Y samplau gwaed ac iau gyda’i gilydd sy’n rhoi’r arwydd mwyaf cynhwysfawr o statws elfennau hybrin hanesyddol a phresennol a’r wybodaeth orau i ffurfio cyngor rheoli ar gyfer addasiadau i’r diet yn y dyfodol.
Yn y prosiect hwn defnyddiodd deuddeg o ffermydd ar draws Gogledd Cymru y dull sampl deublyg hwn yng nghyd-destun defaid, ynghyd â dadansoddiad o’r porthiant sydd ar gael. Nod y prosiect oedd i ddefnyddio dull deallus a blaengar i gynllunio maethiad mamogiaid magu.
Deilliannau’r prosiect
- Mae gwelliannau mawr i’w gwneud wrth reoli maethiad ar ffermydd defaid ac un ymyriad allweddol fyddai bod ffermwyr yn dechrau sgorio cyflwr corfforol yn rheolaidd, gan addasu pori er mwyn i’r defaid gyrraedd targedau a osodwyd ymlaen llaw ar adegau allweddol o’r flwyddyn.
- Mae parasitedd yn nodwedd bwysig o hyd ar reoli praidd ac mae angen monitro rhaglenni rheoli yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n effeithiol.
- Mae clefydau heintus yn achosion cyffredin o broblemau cynhyrchiad; gall ymchwilio rhagweithiol sicrhau y cymerir camau priodol yn y dyfodol.
- Elfennau hybrin
- a. Mae elfennau hybrin yn gydran bwysig mewn cynllunio maethol rhagweithiol ac optimaidd ond maent yn llawer llai pwysig o’u cymharu ag argaeledd cyffredinol porthiant a chyflwr corfforol y mamogiaid.
- b. Roedd y technegau a ddefnyddiwyd yn y prosiect hwn yn ddefnyddiol dros ben i bennu anghenion elfennau hybrin y mamogiaid ac wrth fonitro’r ymateb i atchwanegiad.
- ‘Os nad allwch ei fesur, ni allwch ei reoli’ ac ‘nid yw popeth bob amser fel yr ymddengys’: crybwyllwyd y dywediadau hyn yn aml drwy gydol y prosiect hwn. Wrth i ffermydd dyfu o ran maint ac wrth symud i ganolbwyntio ar optimeiddio cynhyrchiad, bydd angen parhau i ddatblygu perthynas waith agos rhwng ffermwyr a gwasanaethau milfeddygol ac ymgynghorol er mwyn i ffermwyr gyrraedd y nodau hyn.