Joseph Angell, llawfeddyg milfeddygo o Filfeddygfa Wern yn trafod y canlyniadau o brosiectau EIP oedd yn ymchwilio i ofynion elfennau hybrin mewn defaid. Mae deuddeg o ffermwyr wedi bod yn edrych i wella eu cynlluniau maeth mewn defaid magu, gan ymchwilio i anghenion elfennau hybrin eu diadell tra’n ceisio cydbwyso hyn yn erbyn achosion eraill posib o berfformiad gwael.
Yn ychwanegol i’r prif ganfyddiadau o’r prosiect, mae Joseph hefyd yn trafod:
- Y dechneg o gymryd biopsi byw o’r iau o’r mamogiaid
- Pwysigrwydd o sgorio cyflwr corff defaid er mwyn helpu gyda rheolaeth maethol
- Atchwanegiad elfennau hybrin: beth sydd eu hangen a phryd