Gwella cynaliadwyedd cynhyrchu cig gafr yng Nghymru drwy ymchwilio i effeithiolrwydd cyfraddau dos llyngyr a argymhellir ar gyfer geifr cig.

To improve the sustainability of goat meat production in Wales by investigating the efficacy of recommended wormer dose rates for meat goats.

Mae ymwrthedd gwrthlyngyrol wedi bod yn broblem gynyddol ers sawl blwyddyn ac mae’n cael effaith sylweddol ar gynaliadwyedd cynhyrchu cig gafr a chig defaid. Mae defaid a geifr yn gynhalwyr i'r un parasitiaid gastroberfeddol (GI). Ar hyn o bryd, nid oes cyfradd ddos gyhoeddedig ar gyfer trin geifr ar gyfer llyngyr ac yn lle hynny, tybir ei bod yn debyg i'r gyfradd ar gyfer gwartheg a defaid. Fodd bynnag, gallai gallu’r rhywogaeth gafr i fetaboleiddio tocsinau yn gyflymach na defaid ac o bosibl gwartheg, o bosibl hybu ymwrthedd gwrthlyngyrol o fewn gyrroedd o eifr, gan arwain at lai o effeithiolrwydd cyffuriau gwrthlyngyrol ar draws y rhywogaeth.

Daeth pedwar ffermwr geifr ar draws canolbarth a de Cymru ynghyd yn y prosiect dwy flynedd hwn i sefydlu ateb technegol i’r diffyg eglurder ynghylch y gyfradd dos gywir sy’n addas ar gyfer geifr. Mesurwyd hyn gan ddefnyddio profion FEC (Cyfrif Wyau Ysgarthol) cyn rhoi'r gwrthlyngyryddion ar wahanol adegau o'r flwyddyn, a phe byddai angen y gwrthlyngyrydd, prawf FEC ar ôl drensh ar ôl yr egwyl a argymhellir.

Diben yr astudiaeth hon oedd rhoi syniad o 'arfer gorau' ar gyfer rhoi moddion llyngyr a sefydlu cyfradd dosau a threfn fwy effeithiol ar gyfer trin geifr cig rhag llyngyr y gellir eu rhannu â'r diwydiant. Gall trefn ddosio fwy effeithiol wella cynnydd pwysau byw dyddiol yr anifail ac felly leihau'r amser nes iddynt fynd i’w lladd. Os daw bwyta cig gafr yn fwy poblogaidd, mae'n bosibl y bydd cynllun gofal iechyd da byw pellach yn esblygu.


Canlyniadau'r Prosiect:

  • Profodd Sgorio Cyflwr y Corff yn arf hynod effeithiol fel system rhybudd cynnar i ymchwilio i FEC mewn geifr.
  • Cafodd hyd y borfa effaith ddramatig ar faich llyngyr o fewn y grŵp/gyr, gyda geifr yn cael llai o gysylltiad â larfa gyda phorfa hirach. 
  • Profodd triniaeth gwrthlyngyrol yr angen i gael ei fonitro trwy ddefnyddio FEC i sicrhau bod y driniaeth yn effeithiol.