Castell Crugiau Diweddariad Terfynol
Canlyniadau allweddol:
- Dangosodd ŵyn a gafodd eu bwydo â dail helyg lefel lawer uwch o fitamin B12 yn eu gwaed na'r grŵp a oedd heb ei drin
- Nodwyd lefelau copr a seleniwm uwch yn y ddau grŵp o’i gymharu â dechrau'r arbrawf, er bod y grŵp y rhoddwyd y porthiant helyg iddo wedi dangos mwy o gynnydd
- Mae'n ymddangos bod defnyddio porthiant helyg yn adnodd rheoli defnyddiol ar yr amod y gellir dod o hyd i ffordd effeithlon a hawdd o’i roi i anifeiliaid.
Cefndir:
Mae Marc a'r teulu wedi bod yn archwilio a all porthiant helyg atchwanegu cobalt yn naturiol i ŵyn, gan ddisodli bolysau a drenshis costus. Maent wedi sylwi bod ŵyn yn bwyta dail helyg yn hawdd, ac mae helyg yn tyfu'n dda ar y fferm. Yn aml, nid yw ŵyn ar borfa yn cael digon o gobalt, yn enwedig yn yr haf, a all effeithio ar eu twf. Gyda chyngor a gwasanaeth ymgynghori gan Angus Wyse o filfeddygon Castle House, cymharodd y treial hwn iechyd a thwf ŵyn ar wndwn amlrywogaeth a hynny yn sgil ychwanegu porthiant helyg ar gyfer pori a heb ei ychwanegu. Cafodd y llwyth parasitiaid a lefelau mwynau gwaed eu monitro i werthuso'r hyn a oedd gan borthiant helyg i’w gynnig. Yn y pen draw, pwrpas y treial oedd ymchwilio i ffordd gynaliadwy ac iddi gost isel o wella iechyd a pherfformiad y ddiadell.
Pwrpas y gwaith:
- Bwydo helyg i ŵyn: pa effaith mae'n ei gael ar gyfraddau twf a mwynau yn y gwaed
- Harneisio maetholion porthiant coed: a fydd cynaeafu helyg yn cynnig ateb cynaliadwy a chost isel?
Yr hyn a wnaethom:
- Rhannwyd grŵp o 32 o ŵyn stôr gwrywaidd gydag amrywiad tebyg o ran eu pwysau yn 2 grŵp o 16
- Pwyswyd yr holl ŵyn a thynnwyd samplau o’u gwaed ar 4 Awst, gan gymryd samplau cyfrif wyau ysgarthol ychwanegol o’r grŵp, a chawsant eu trin ag anthelmintig sbectrwm eang
- Roedd un grŵp o 16 ŵyn yn pori gwndwn amlrywogaeth
- Roedd yr ail grŵp o 16 ŵyn yn pori gwndwn amlrywogaeth ynghyd â phorthiant helyg ychwanegol a oedd wedi'i gynaeafu; cafodd hyn ei fwydo trwy rwystr porthiant, a chafodd ei ailgyflenwi bob hyn a hyn
- Pwyswyd ŵyn 6 wythnos yn ddiweddarach (wedi'u gwahaniaethu â thagiau EID),
Canlyniadau:
Lefelau mwynau a fitaminau
- Cobalt a fitamin B12: Ar ddechrau'r arbrawf, dangosodd profion gwaed fod gan 10% o'r ŵyn ddiffyg cobalt. Erbyn diwedd yr arbrawf, ni nodwyd diffyg o'r fath yn unrhyw un o'r ŵyn. Fodd bynnag, dangosodd y grŵp y rhoddwyd porthiant helyg iddynt lefelau sylweddol uwch o Fitamin B12 o’i gymharu â'r grŵp a oedd heb ei drin, sy'n awgrymu bod atchwanegu â helyg yn gwella statws cobalt yn effeithiol.
- Copr a seleniwm: Dangosodd y grwpiau a gafodd borthiant helyg a’r rhai heb eu trin lefelau uwch o gopr a seleniwm erbyn diwedd yr arbrawf. Gwelwyd cynnydd mwy sylweddol yn y ddau fwyn yn y grŵp a gafodd borthiant helyg. Yn ogystal, arhosodd lefelau copr a oedd eisoes ychydig yn uchel ar ddechrau'r arbrawf yn uchel drwyddo draw. Mae hyn yn codi pryder posibl am wenwyndra copr os rhoddir atchwanegiadau sy'n cynnwys copr i ŵyn neu os ydynt yn cael eu bwydo â diet llawn dwysfwyd yn y dyfodol.
Cyfraddau twf
Ar y cyfan, roedd cyfraddau twf ŵyn yn is na'r disgwyl, o ganlyniad i haf sych iawn gyda thyfiant glaswellt gwael. Fodd bynnag, enillodd yr ŵyn yn y grŵp a gafodd borthiant helyg un cilogram yn fwy ar gyfartaledd na'r grŵp a oedd heb ei drin dros y cyfnod o chwe wythnos.
Casgliad
Mae'r canlyniadau'n awgrymu bod rhoi porthiant helyg i ŵyn yn adnodd rheoli buddiol a all wella statws cobalt yn sylweddol a chael effaith gadarnhaol ar lefelau copr a seleniwm. Gallai manteision diet a atchwanegir â helyg fod hyd yn oed yn fwy amlwg os nad yw prif ddiet yr anifeiliaid yn dod o wndwn llysieuol, gan fod gwndwn llysieuol yn tueddu i fod â chynnwys uwch o elfennau hybrin o’i gymharu â chymysgeddau glaswellt-meillion traddodiadol. Mae'r rhywogaethau amrywiol mewn gwndwn llysieuol, megis planhigion porfa fel ysgellog a llyriad, a chodlysiau, yn naturiol yn cynnwys lefelau uwch o nifer fawr o'r elfennau allweddol hyn, a all wella iechyd a pherfformiad da byw. Er bod y treial yn dangos effaith gadarnhaol ar dwf, mae angen ymchwilio pellach i ddull ymarferol ac effeithlon ar gyfer bwydo helyg i ŵyn.
Sut i roi hyn ar waith ar eich fferm chi:
- Ydych chi'n credu bod gennych ddiffyg elfennau hybrin? Cymerwch sampl FEC cyfunol i leihau effaith llyngyr ar berfformiad ŵyn.
- Casglwch samplau gwaed o bob oen (neu ganran) ar gyfer dadansoddiad cychwynnol i ddod o hyd i waelodlin.
- Penderfynwch sut y gallwch chi roi’r porthiant helyg i’r anifeiliaid: torri a darparu canghennau helyg ffres, gellir defnyddio rhwystr porthiant syml i atal sathru a gwastraff. Ailgyflenwi'r helyg bob hyn a hyn i sicrhau mynediad cyson. Gallech hefyd ganiatáu i’r anifeiliaid bori’r coed yn rhydd mewn padog.
- Os ydych chi am ganfod effaith helyg ar berfformiad eich ŵyn eich hun, dylech bwyso'r ŵyn cyn cyflwyno porthiant helyg ac eto cyn eu gwerthu neu pan fyddant ar y pwysau gorau posibl fel ŵyn benyw.
Llun 1. Roedd ŵyn yn tynnu'r dail helyg yn hawdd trwy rwystrau porthiant.
Llun 2. Porthiant helyg wedi’i gynnig ar y ddaear.