Cyflwyniad Prosiect Bodwi: Asesu effaith ychwanegu sylffwr ar gynnyrch ac ansawdd silwair

Safle: Bodwi, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd

Swyddog Technegol: Non Williams

Teitl y Prosiect: Asesu effaith ychwanegu sylffwr ar gynnyrch ac ansawdd silwair

 

Cyflwyniad i'r prosiect: 

Yn gyffredinol, mae sylffwr yn cael ei ystyried yn faetholyn eilaidd, ar ôl nitrogen, ffosfforws a photasiwm. Serch hynny, mae'n bresennol ym mhob cnwd ac yn chwarae rhan allweddol yn nhwf a datblygiad planhigion. Mae ei bwysigrwydd yn cael ei gydnabod a'i ddeall yn gynyddol oherwydd ei effaith ar effeithlonrwydd nitrogen a ddefnyddir, ac o ganlyniad, cynhyrchiant glaswellt. Mae mwy o gynnyrch deunydd sych glaswellt yn golygu bod cyfran uwch o'r nitrogen sy’n cael ei ychwanegu yn cael ei ddefnyddio gan y cnwd, gan gynyddu effeithlonrwydd defnydd y nitrogen a ddefnyddir. Gall gwella cymeriant nitrogen leihau trwytholchiad nitradau yn y pen draw.

Roedd ansawdd byrnau mawr silwair glaswellt y llynedd (2020) yn foddhaol ar fferm Bodwi. Ystyrir fod gwella ansawdd silwair yn flaenoriaeth eleni er mwyn sicrhau gwerth maethol uwch a lleihau gofynion o ran cnydau grawn (wedi’u tyfu neu wedi’u prynu i mewn) dros y gaeaf. 

Gan weithio gyda chwmni Yara, darparwr maetholion cnydau sy’n arbenigo mewn gwrteithiau nitrogen, nod y prosiect hwn fydd asesu effaith ychwanegu gwrtaith sy’n cynnwys sylffwr ar gynnyrch ac ansawdd silwair oddi ar dir sydd â photensial i dyfu cynnyrch canolig-uchel, o’i gymharu ag effaith gwrtaith nad yw’n cynnwys sylffwr.

 

Amcanion y prosiect:

Nod cyffredinol y prosiect fydd asesu dylanwad ychwanegu y cyfraddau a argymhellir o sylffwr ar gynnyrch ac ansawdd silwair glaswellt. Caiff y prosiect hwn ei ailadrodd ar draws tri o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio; Bodwi a Rhiwaedog (safleoedd arddangos cig coch), a Mountjoy (safle arddangos llaeth).

Mae amcanion y prosiect fel a ganlyn:

  • Asesu effaith gwrtaith sy'n cynnwys cais sylffwr ar gynnyrch deunydd sych glaswellt ar lefel y fferm (o'i gymharu â chynnyrch gwrtaith nitrogen (N) yn unig)
  • Asesu effaith ychwanegu sylffwr ar ansawdd silwair glaswellt (o’i gymharu â defnyddio cynnyrch gwrtaith N yn unig)

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:

  • Cynyddu deunydd sych (DM)% silwair glaswellt o 25% yn 2020 i 30 -35% yn 2021
  • Cynyddu cynnwys protein crai silwair glaswellt o 14% yn 2020 i 15 -16% yn 2021
  • Cynyddu cynnwys egni metaboladwy silwair glaswellt o 10 MJ/kg yn 2020 i> 11 MJ/kg yn 2021


Llinell Amser a Cherrig Milltir: