Cymharu perfformiad ŵyn ar wahanol wndwn – Adroddiad terfynol

Prif ganlyniadau

  • Llwyddodd yr ŵyn ar y gwndwn amlrywogaeth fagu 1.2kg yn fwy fesul oen na’r rhai a fu’n pori’r gwndwn glaswellt gyda llawer o siwgr dros y cyfnod monitro 25 diwrnod.
  • Gwelwyd llai o faich llyngyr ymysg yr ŵyn a fu’n pori’r gwndwn llysieuol o’i gymharu â’r rhai a fu’n pori’r gwndwn glaswellt gyda llawer o siwgr.

Diben y gwaith

Prif nod y prosiect hwn oedd cymharu perfformiad ŵyn ar wahanol fathau o wndwn a sefydlwyd eisoes ar y fferm yn ystod y flwyddyn flaenorol, i ganfod y cyfansoddiad mwyaf effeithiol ar gyfer sicrhau’r perfformiad gorau ar gyfer ŵyn ar ôl diddyfnu.

Yr hyn a wnaed

Sefydlwyd gwndwn amlrywogaeth a glaswellt gyda llawer o siwgr ar gaeau a oedd wedi cael eu rheoli’n debyg yn y gorffennol. Rhestrir y cymysgeddau hadau a ddefnyddiwyd yn Nhabl 1:

Tabl 1: Rhestr cynnwys rhywogaethau’r gwndwn amlrywogaeth a’r gwndwn glaswellt gyda llawer o siwgr

Gwndwn amlrywogaeth

Gwndwn glaswellt gyda llawer o siwgr Aber (HS4)

AberGreen – Rhygwellt parhaol (3kg)

AberZeus - Rhygwellt parhaol (3kg)

AberClyde - Rhygwellt parhaol (3kg)

Comer - Rhonwellt (1kg)

Agric Tonic - Llyriad (0.75kg)

AberClaret – Meillion coch (1.5kg)

Endure - Ysgellog (0.25kg)

Puna II - Ysgellog (0.25kg)

Liflex – Meillion gwyn (0.15kg)

AberDai - Meillion gwyn (0.2kg)

AberAce - Meillion gwyn (0.05kg)

AberLasting - Meillion gwyn (0.15kg)

AberPearl - Meillion gwyn (0.1kg)

AberSwan - Meillion gwyn (0.35kg)

AberWolf – Rhygwellt Parhaol Canolradd (3kg)

AberZeus Rhygwellt Parhaol Canolradd (4kg)

AberClyde Rhygwellt Parhaol Canolradd (2kg)

AberLee Rhygwellt Parhaol Hwyr (1.5kg)

AberGain Rhygwellt Parhaol Hwyr (3.5kg)

Torrwyd silwair o’r ddau wndwn, gyda’r gwndwn amlrywogaeth yn cynhyrchu 9.7 bwrn/erw (toriad cyntaf) a 5.1 bwrn/erw (ail doriad), a’r gwndwn glaswellt gyda llawer o siwgr yn cynhyrchu 9 bwrn/erw a 4.9 bwrn/erw, yn y drefn honno.

Yn dilyn haf anarferol o wlyb, cafodd ŵyn benyw penfrith eu cyflwyno i’r gwndwn rhwng 1 Hydref a 25 Hydref i gasglu data perfformiad. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd pwysau’r ŵyn a baich llyngyr eu monitro.

Canlyniadau

Dangosodd y prosiect fod yr ŵyn yn perfformio’n well ar y gwndwn amlrywogaeth ar y cyfan. Mae’r enillion pwysau byw uwch a ddangosir yn ffigur 1 a’r budd ychwanegol o lai o faich llyngyr ar yr ŵyn yn dangos effeithiolrwydd y cyfansoddiad hwn. Llwyddodd yr ŵyn a fu’n pori’r gwndwn amlrywogaeth i fagu cyfanswm o 1.2kg yn fwy fesul oen na’r rhai a fu’n pori’r gwndwn glaswellt gyda llawer o siwgr yn ystod y cyfnod monitro.
 

 

Ffigur 1: Effaith gwndwn amlrywogaeth a gwndwn glaswellt gyda llawer o siwgr ar enillion pwysau byw ŵyn

Mae gwndwn amlrywogaeth yn hybu perfformiad o ganlyniad i synergedd rhwng iechyd a maetholion. Mae astudiaethau eraill hefyd wedi dangos bod cynnwys perlysiau fel ysgellog a llyriad yn cynnig dau brif fudd:

  1. Llai o faich llyngyr: Mae astudiaethau wedi dangos bod y cyfansoddion bioweithredol (tanin cywasgedig) mewn perlysiau’n gallu arwain at ostyngiad o hyd at 78% mewn cyfrif wyau ysgarthol ar gyfer ŵyn a aned yn nhymor y gwanwyn.
  2. Argaeledd micro-faetholion: Mae perlysiau gyda gwreiddiau dwfn yn cloddio am fwynau hanfodol (e.e. cobalt a seleniwm).

Mae fferm Treforgan wedi integreiddio mwy o wndwn amlrywogaeth yn y system gylchdro, gan gydnabod eu bod yn rhan werthfawr o system amrywiol o sawl cyfansoddiad gwndwn:

  • Mae gwndwn amlrywogaeth angen cyfnodau gorffwys hirach, yn enwedig dros y gaeaf, i gynnal amrywiaeth y rhywogaethau ac osgoi difrod i gorun y planhigion.
  • Mae gan wndwn glaswellt gyda llawer o siwgr allbynnau uchel, gan gynnig potensial i gynhyrchu silwair o ansawdd uchel a phori mwy dwys.
  • Mae porfeydd parhaol yn cynnig porfeydd gwydn, yn enwedig yn ystod misoedd heriol.

Bydd y fferm hefyd yn parhau i fonitro perfformiad ŵyn gan y gallai’r gwndwn hyn berfformio’n wahanol wrth i gyfansoddiad y gwndwn newid yn y porfeydd llysieuol dros amser. Wrth i ddyfalbarhad y perlysiau leihau, bydd y glaswellt yn dominyddu’r gwndwn yn rhannol. Mae’r newid hwn mewn cyfansoddiad yn effeithio ar ansawdd a chyfaint y porthiant, ac mae’n rhaid ystyried yr elw ar fuddsoddiad yn hyn o beth.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm

  1.  Ystyriwch fanteision sefydlu gwndwn gyda gwahanol gyfansoddiadau, gan gynnwys glaswelltau, perlysiau a chodlysiau – mae gan bob un ei rôl o fewn y system.
  2. Sicrhewch fod gwndwn amlrywogaeth yn cael eu pori’n ofalus i osgoi difrod – mae angen cyfnodau gorffwys hir arnynt, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf.
  3. Mae gwndwn amlrywogaeth yn cynnig nifer o fuddion o ran lleihau baich llyngyr ac o safbwynt argaeledd micro-faetholion, felly dylid eu hystyried yn wndwn addas ar gyfer pesgi ŵyn.
  4. Mae gan laswelltau gyda llawer o siwgr hefyd rôl i’w chwarae o fewn y system, yn enwedig o ran cynhyrchu porthiant o ansawdd uchel ar gyfer y gaeaf. Mae modiwl e-ddysgu ar gael yn trafod buddion glaswelltau gyda llawer siwgr - mewn gofnodwch i’r system BOSS am ragor o fanylion.