3 Mawrth 2022

 

Dr Emma Davies: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Gall gwyndonnydd llysieuol wella gwerth maethol glaswelltir yn sylweddol o gymharu â glaswelltiroedd rhygwellt parhaol a meillion.
  • Gellir defnyddio rhywogaethau glaswelltir sy’n cynnwys lefelau uchel o fetabolion eilaidd, yn enwedig taninau, o fewn rhaglenni rheoli parasitiaid i leihau beichiau parasitiaid yn effeithiol a lleihau’r ddibyniaeth ar gyfansoddion gwrthlyngyr cemegol.
  • Mae gan wyndonnydd llysieuol y potensial i wella perfformiad ŵyn yn sylweddol tra’n lleihau’r angen am fewnbynnau megis gwrtaith a phorthiant atodol.

 

Heddiw, mae'r rhan fwyaf o laswelltir cynhyrchiol iawn wedi'i wella yn cynnwys llai na phum rhywogaeth wahanol o blanhigion. Mae glastiroedd yn aml yn cynnwys rhygwellt parhaol a meillion gwyn sydd wedi'u bridio ar gyfer y cynhyrchiant mwyaf posibl. Mae’r glastiroedd hyn wedi dod yn boblogaidd gyda chynhyrchwyr da byw oherwydd maent yn flasus iawn, yn dra threuliadwy, ac mae ganddynt werthoedd cymharol uchel o ran cynnwys sych, protein crai ac egni metaboladwy, gan ddarparu porthiant ffres a silwair o ansawdd uchel. Mae glaswelltir sy’n cynnwys cymysgeddau o rygwellt lluosflwydd hefyd yn sefydlu’n gyflym, gan hwyluso rheolaeth optimaidd ar laswelltir. Fodd bynnag, wrth ddefnyddio porfeydd ungnwd o’r fath, erys dwy brif her sy’n effeithio ar gynnydd pwysau byw dyddiol ŵyn. Yr heriau hyn yw sicrhau ansawdd maethol digonol trwy borthiant, heb ddibynnu'n sylweddol ar ddwysfwydydd, a rheoli beichiau parasitiaid yn effeithiol. Mae’r heriau hyn yn arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd ucheldirol lle mae’r tymor tyfu yn gymharol fyr, ac mae amodau amgylcheddol yn cyfyngu ar dyfiant glaswellt ac yn cynnal mwy o barasitiaid.

Er mwyn helpu i liniaru effeithiau’r heriau hyn, mae ffermwyr yn mynd ati fwyfwy i ystyried defnyddio gwyndonnydd llysieuol yn eu systemau pori. Nodweddir gwndwn llysieuol, a elwir hefyd yn borfa aml-rywogaeth, gan gyfuniad o 15-40 o wahanol rywogaethau o laswellt, codlysiau a pherlysiau. Mae gwyndonnydd llysieuol wedi'u cysylltu ag amrywiaeth o fanteision o ran iechyd a chynhyrchiant i dda byw.

Mae’r manteision hyn yn cael eu defnyddio ar nifer cynyddol o ffermydd, ac yng Nghymru, aeth un prosiect Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd ati i ymchwilio i ganfod a yw gwyndonnydd llysieuol yn effeithio ar iechyd a pherfformiad ŵyn sy’n tyfu, o gymharu â phorfa fwy confensiynol sy’n cynnwys rhygwellt a meillion.

 

Sut gall gwyndonnydd llysieuol helpu?

Un o’r heriau mwyaf i gynhyrchwyr da byw cnoi cil yw nifer yr achosion o lyngyr parasitig mewnol, oherwydd mae perfformiad ŵyn sy’n pori yn cydberthyn yn wrthdro â baich parasitiaid, ac mae ymwrthedd i gynhyrchion gwrthlyngyr fferyllol yn cynyddu. Gall ymwrthedd i gynhyrchion gwrthlyngyr mewn defaid gynyddu marwoldeb ŵyn ac achosi gostyngiad o hyd at 50% mewn cynhyrchiant. Mae’n annhebygol y darganfyddir grwpiau cemegol gwrthlyngyr effeithiol newydd i’w defnyddio yn y sector amaethyddol, felly mae’n hanfodol mabwysiadu dulliau amgen o reoli parasitiaid.  

Mewn systemau pori, mae cynyddu bioamrywiaeth tir glas yn un strategaeth i leihau'r ddibyniaeth ar gynhyrchion gwrthlyngyr cemegol. Credir bod glaswelltiroedd llysieuol amrywiol yn gweithredu trwy dri dull gwahanol i leihau baich parasitiaid. Mae’r rhain yn cynnwys 1) darparu rhwystrau ffisegol i oroesiad a haint parasitiaid, 2) effeithiau gwrthlyngyr uniongyrchol ar barasitiaid, a 3) cynyddu gwerth maethol glaswelltir.

Nodweddion Ffisegol

Mae gwyndonnydd llysieuol sy’n cynnwys llawer o rywogaethau planhigion gwahanol yn darparu nodweddion glaswelltir ffisegol sy’n fwy anaddas o ran gallu larfau parasitiaid i ddatblygu, goroesi a mudo nag o gymharu â glastir ungnwd. Rhestrir enghreifftiau cyffredin o rywogaethau planhigion a gynhwysir mewn gwyndonnydd llysieuol yn Nhabl 1.

Tabl 1: Rhywogaethau cyffredin a gynhwysir mewn gwyndonnydd llysieuol.

Glaswellt

Codlysiau

Perlysiau

Peiswellt (F. pratensis)

Pys y ceirw (L. corniculatus)

Ysgellog (C. intybus)

Rhygwellt lluosflwydd (L. perenne)

Pys y ceirw mwyaf (L. pedunculatus)

Wermod (A. absinthium)

Rhygwellt Eidalaidd (L. multiflorum)

Maglys (M. sativa)

Beidiog lwyd(A. vulgaris)

Byswellt (D. glomerata)

Codog (O. viciifolia)

Gwyddlwyn (S. minor)

Rhonwellt (P. pratense)

Sulla (H. coronarium)

Llyriad (P. major)

 

Meillion coch (T. pratense)

Persli (P. crispum)

 

Meillion gwyn (T. repens)

 

Mae gwyndonnydd llysieuol yn cynnwys llawer o rywogaethau planhigion gwahanol, â deunydd deiliog sy’n amrywio o ran uchder ei lystyfiant, felly mae parasitiaid yn cael eu rhwystro rhag trawsleoli o ddeunydd ysgarthol i ddeunydd deiliog ac mae amlyncu parasitiaid sy'n byw ar lefel y ddaear yn cael ei leihau i raddau helaeth. Mae presenoldeb rhywogaethau tal o fewn glastir heterogenaidd hefyd yn lleihau’r cynefin tir trwchus sydd ei angen ar gyfer cynnal haenau lleithder, sy’n angenrheidiol ar gyfer atgenhedlu a mudo optimaidd parasitiaid. Mae rhywogaethau tal hefyd yn cynyddu amlygiad parasitiaid i'r elfennau, gan gynyddu'r tebygolrwydd o ddysychiad, oherwydd mae nematodau yn agored i dymheredd eithaf.

<}0{>Cymharodd un astudiaeth, a oedd yn ymchwilio i p’un a yw strwythur planhigion yn effeithio ar boblogaethau parasitiaid, pys y ceirw ac ysgellog â rhygwellt. Canfu’r astudiaeth fod gan bys y ceirw ac ysgellog y potensial i sicrhau lleihad o >58% a 63% yn y drefn honno ym meichiau larfau parasitiaid cyfnod heintus, o gymharu â rhygwellt parhaol, sy’n dangos bod strwythur y glastir yn effeithio’n sylweddol ar allu nematodau parasitig i oroesi a mudo.

Mae planhigion megis meillion coch ac ysgellog (chwith), a phys y ceirw (dde), yn cael eu cynnwys yn gyffredin mewn gwyndonnydd llysieuol ar gyfer da byw sy’n pori.

 

Rhinweddau Gwrthlyngyr

Mae planhigion glaswelltir yn ffynhonnell arbennig o gyfoethog o fetabolion eilaidd planhigion, ac mae gan lawer ohonynt briodweddau gwrthlyngyr. Y rhain yw’r rhywogaethau codlysiau a astudir amlaf, ac maent yn uchel mewn metabolion eilaidd o'r enw taninau cyddwys. Dangoswyd bod gan daninau cyddwys weithgarwch gwrthlyngyr cryf mewn astudiaethau labordy, trwy effeithiau cryf ar symudedd larfau a’u gallu i fudo. Pan gânt eu hamlyncu, credir bod taninau yn rhyngweithio â phroteinau nematodau ac yn atal cynhyrchu ensymau, gan addasu'r amgylchedd organeb letyol-nematod, atal gweithrediad nematodau a lleihau goroesiad, twf ac atgenhedlu parasitiaid.

Canfu un astudiaeth a wnaeth broffilio cyfansoddion gwrthlyngyr dwy ar bymtheg o rywogaethau glaswelltir cyffredin mai’r gwyndonnydd llysieuol oedd yn darparu’r lefelau uchaf o gyfansoddion gwrthlyngyr lluosog oedd y rhai a oedd yn cynnwys planhigion â lefel uchel o daninau megis maglys, codog cyffredin, ac ysgellog. Mae maglys a chodog cyffredin hefyd yn cynnwys cyfansoddion eraill megis saponinau, asid caffeig, thymol, a geraniol, sy'n lleihau heintiad parasitig trwy leihau goroesiad wyau a symudedd larfau a pharasitiaid yn eu llawn dwf.

Mae llawer o astudiaethau wedi amlygu effeithiau rhywogaethau gwyndonnydd llysieuol ar feichiau parasitiaid mewn anifeiliaid cnoi cil. Ymchwiliodd un astudiaeth benodol, gan ddefnyddio saith deg dau o ŵyn Llŷn, i effaith bwydo un rhywogaeth lysieuol ar faich parasitiaid. Cymharwyd cnydau ungnwd o ysgellog a phys y ceirw â chymysgedd o rygwellt cyffredin a meillion gwyn. Roedd yr ŵyn a gafodd eu porthi ag ysgellog yn sylweddol drymach, gyda sgôr cyflwr corffol sylweddol uwch ar ôl 35 diwrnod o borthi, na’r ŵyn hynny a gafodd eu bwydo â phys y ceirw a rhygwellt gyda meillion gwyn. Roedd gan yr ŵyn hynny a gafodd bys y ceirw ac ysgellog lai o wyau ysgarthol a llai o barasitiaid yn yr abomaswm a’r coluddyn bach na’r ŵyn hynny a gafodd rygwellt lluosflwydd gyda meillion. Er bod yr astudiaeth hon wedi defnyddio cnydau ungnwd yn hytrach na glastir cymysg, arfer na fyddai’n cael ei ailadrodd ar fferm, mae’r canlyniadau’n dangos bod gan y planhigion hyn y potensial i gyfrannu at gyfundrefnau rheoli parasitiaid.

Statws maethol

Wrth bori gwyndonnydd llysieuol, bydd cynnydd ym mherfformiad da byw yn cael ei briodoli’n aml i weithgarwch gwrthlyngyr y gwyndwn. Fodd bynnag, gall cynnydd mewn perfformiad hefyd ddeillio o ansawdd maethol gwell y glastir. O'u cymharu â chymysgeddau cyffredin o rygwellt lluosflwydd a meillion, yn aml, bydd gan wyndonnydd llysieuol well cyfansoddiad mwynau ac elfennau hybrin. Er enghraifft, bydd lefelau potasiwm, sodiwm, calsiwm, sylffwr, magnesiwm, a sinc yn aml yn uwch mewn ysgellog, llyriad, dant y llew, a thafol y cŵn na rhygwellt lluosflwydd a meillion gwyn.

Gall cynyddu bioamrywiaeth planhigion yn y glastir hefyd gynyddu’r  biomas a gynhyrchir. Fe wnaeth un astudiaeth ddangos sut y gwnaeth cynnwys 20% o hadau llyriad mewn cymysgedd hadau rhygwellt lluosflwydd a meillion coch arwain at gynnydd o 9.5% ar gyfartaledd yng nghyfanswm y deunydd sych a gynhyrchwyd. Gall gwyndonnydd llysieuol hefyd ddarparu'r gofynion protein crai ar gyfer ŵyn sy'n tyfu trwy gynnwys rhywogaethau codlysiau. Mae rhywogaethau megis codog yn cynnwys cyfanswm uchel o brotein crai dwodenol defnyddiadwy ac maent yn flasus iawn i ddefaid pan fyddant yn cael eu porthi naill ai'n ffres neu wedi'u silweirio. Er nad yw rhywogaethau codog fel arfer yn darparu’r un lefel o egni metaboladwy â rhygwellt lluosflwydd (sy’n darparu 11.7 MJ/Kg DM ar gyfartaledd) gall planhigion megis codog ddarparu 9.5 MJ/Kg DM o egni metaboladwy, sy’n debyg i’r lefelau a ddarperir gan rywogaethau glaswellt megis rhonwellt, perwellt, peiswellt coch a maeswellt gwyn.  

Gall taninau hefyd effeithio’n uniongyrchol ar dreuliadwyedd. Mae rhwymo taninau i broteinau yn atal diraddio proteinau yn y rwmen, heb effeithio ar synthesis protein microbaidd, gan gynyddu faint o brotein sydd ar gael i'w amsugno yn y coluddyn bach. Mae'r argaeledd uwch hwn o brotein yn cynyddu gwerth maethol y glastir. O'u cyfuno â gwell statws mwynau ac elfennau hybrin, disgwylir i laswelltiroedd llysieuol cymysg wella ymateb imiwnedd yr organeb letyol i feichiau parasitiaid.

 

Effeithiau ar gynhyrchiant

Gall oen sy'n tyfu'n gyflym ennill pwysau byw dyddiol o 250g. I gynnal hyn, mae ar famog angen deunydd sych sy’n cyfateb i 3-4% o bwysau ei chorff bob dydd, ac ar ôl diddyfnu, bydd ar yr oen angen deunydd sych sy’n cyfateb i 4% o bwysau ei gorff bob dydd. Os na all glaswelltir fodloni’r cymeriant dyddiol angenrheidiol ar gyfer twf, bydd angen porthiant atodol i gynnal twf. Er bod cymysgeddau rhygwellt lluosflwydd a meillion gwyn yn gynhyrchiol iawn os ceir mewnbynnau nitrogen uchel, gall fod yn anodd cyflawni’r cynnyrch mwyaf posibl mewn ardaloedd lle nad yw’r mewnbynnau nitrogen uchel yn ddelfrydol, megis ar borfeydd yr ucheldir. Fodd bynnag, gall glaswelltiroedd amlrywogaeth gynhyrchu cnwd cyfatebol o ddeunydd sych â thriniaethau nitrogen cymharol isel. O'u cyfuno â'u priodweddau gwrthlyngyr, gall gwerth maethol uwch gwyndonnydd llysieuol effeithio’n sylweddol ar gynhyrchiant.

Er enghraifft, dangoswyd wrth bori meillion coch, o gymharu â rhygwellt parhaol a meillion gwyn, y gall cynhyrchiant llaeth mamogiaid gynyddu 24%, a gall cyfraddau twf ŵyn wedi’u diddyfnu gynyddu 20%. Dangoswyd bod ŵyn sy’n pori cymysgeddau o berlysiau a meillion, sy’n cynnwys ysgellog, llyriad, meillion gwyn a meillion coch, yn cyflawni mwy o gynnydd pwysau dyddiol, pwysau byw uwch a phwysau carcas uwch o’u cymharu ag ŵyn sy’n pori tiroedd pori parhaol traddodiadol sy’n cynnwys cymysgedd o rygwellt a meillion. Canfu un astudiaeth a gymharodd berfformiad rhygwellt lluosflwydd, rhygwellt lluosflwydd gyda meillion gwyn, glastir chwe rhywogaeth, a glastir naw rhywogaeth, fod gan y mamogiaid a oedd yn pori’r glaswelltir chwech a naw rhywogaeth bwysau byw trymach a sgôr cyflwr corffol gwell na mamogiaid a oedd yn pori rhygwellt lluosflwydd. Roedd ŵyn a oedd yn pori’r glastir chwe rhywogaeth hefyd yn sylweddol drymach nag ŵyn ar bob math arall o laswellt, tra bod ar ŵyn a oedd yn pori rhygwellt parhaol angen y nifer uchaf o ddiwrnodau i gyflawni pwysau lladd. Hefyd, roedd angen llai o driniaethau gwrthlyngyr ar ŵyn a oedd yn pori’r glaswelltiroedd chwech a naw rhywogaeth nag ŵyn a oedd yn pori glaswelltiroedd rhygwellt lluosflwydd a rhygwellt lluosflwydd gyda meillion gwyn.

Mae llawer o astudiaethau wedi casglu bod bwydo rhywogaethau codlysiau a pherlysiau gwerth uchel yn galluogi cyfraddau twf o tua 250g y dydd yn ystod yr haf yn achos ŵyn, mewn cyferbyniad â chyfartaledd o 80-150g y dydd ar rygwellt lluosflwydd a meillion gwyn yn unig. Mae enghreifftiau o’r cynnydd mewn pwysau byw dyddiol a gyflawnir gan wahanol rywogaethau o blanhigion a gynhwysir yn gyffredin mewn gwyndonnydd llysieuol wedi’u cynnwys yn Nhabl 2.

 

Tabl 2: Enghreifftiau o gynnydd ym mhwysau byw ŵyn yn pori rhygwellt a meillion gwyn o gymharu â rhywogaethau codlysiau a/neu berlysiau.

Rhywogaethau Porthi

Cynnydd pwysau byw cyfartalog (g/dydd)

Rhygwellt lluosflwydd tetraploid a meillion gwyn

119

Ysgellog, llyriad, meillion gwyn a choch

247

Meillion gwyn

311

Meillion coch

292

Pys y ceirw

258

Ysgellog

311

Maglys

222

 

Mae llawer o’r cynnydd ym mhwysau byw dyddiol a welwyd mewn defaid wedi digwydd pan fo planhigion â chynnwys taninau cyddwys sy’n uwch na 3% o ran deunydd sych, megis sulla, codog, pys y ceirw, pys y ceirw mwyaf ac ysgellog, wedi cael eu pori. Fodd bynnag, yn achos crynodiadau uchel, adroddwyd bod taninau yn lleihau cymeriant bwyd gwirfoddol ac yn lleihau treuliadwyedd maetholion. Felly, mae cynnwys tanin sydd rhwng 3 ac 8% o ddeunydd sych yn ddelfrydol i gydbwyso blasusrwydd, treuliadwyedd, a chymeriant gwirfoddol y rhywogaethau hyn â'u heffeithiau gwrthlyngyr.

 Mewn llawer o astudiaethau, mae’r effeithiau ar gynnydd pwysau byw dyddiol mewn ŵyn yn pori gwyndonnydd llysieuol wedi’u cyflawni trwy ganiatáu cymeriant anghyfyngedig i ŵyn trwy sicrhau nad oedd y glaswelltir yn gostwng o dan 5cm o uchder. Gan fod hyn yn ystyriaeth bwysig o safbwynt rheoli wrth ddefnyddio gwyndonnydd llysieuol, i sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl, strategaeth rheoli pori cylchdro sy’n ddelfrydol.

Mae da byw yn cael eu cynhyrchu’n gyffredin ar laswelltir sy’n cynnwys rhygwellt lluosflwydd a meillion (chwith). Gall cynyddu amrywiaeth y glastir (ar y dde) ddarparu buddion gwerthfawr a all wella perfformiad mamogiaid ac ŵyn.

Buddion ychwanegol gwyndonnydd llysieuol

Mae cynyddu nifer y rhywogaethau sy’n sefydlogi nitrogen yn y glaswelltir yn cynyddu cynnwys nitrogen y pridd ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar wrtaith cemegol neu slyri. Mae'r defnydd o wahanol rywogaethau glaswellt, codlysiau a pherlysiau hefyd yn gwella ansawdd y pridd ac yn cynyddu ymwrthedd y borfa i sychder a llifogydd oherwydd yr amrywiad yn nyfnder y tir a'r gwreiddiau. Dangoswyd bod ychwanegu maglys at borfa, er enghraifft, yn cynyddu’r deunydd sych a gynhyrchir, oherwydd gall maglys echdynnu dŵr o rannau dyfnach o’r pridd. Mae ymwrthedd i amodau megis sychder yn nodweddion cynyddol bwysig mewn glaswelltiroedd oherwydd mae amodau sychder, sy’n debygol o ddigwydd yn amlach, yn cyfyngu ar gynhyrchiant cymysgeddau rhygwellt lluosflwydd a meillion.

Gall cynyddu bioamrywiaeth glaswelltiroedd hefyd effeithio’n llesol ar allyriadau methan, gan gynyddu cynaliadwyedd cynhyrchu da byw, oherwydd mae cyfran yr egni a gollir fel methan yn is yn achos anifeiliaid sy’n pori codlysiau o gymharu â rhywogaethau glaswellt. Mae ŵyn sy’n cael eu magu i’w pwysau lladd yn gyflymach hefyd yn bwyta llai o borthiant ac felly’n fwy effeithlon, gan gynhyrchu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae cynyddu bioamrywiaeth glaswelltir hefyd yn cynyddu argaeledd cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer amrywiaeth o bryfed peillio, adar a mamaliaid bychan. Llwyddodd un prosiect Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd o’r enw ‘porfa ar gyfer peillwyr’ i ddefnyddio gwyndonnydd llysieuol i gynyddu’r cynefin a oedd ar gael i bryfed peillio ar ffermydd.

 

Crynodeb

Mae cynnwys amrywiaeth o rywogaethau gwahanol o laswellt, codlysiau a pherlysiau mewn glastir yn cynnig y potensial i gynyddu ansawdd maethol, priodweddau gwrthlyngyr, a chynhyrchiant glaswelltiroedd. Er bod ychwanegu dim ond un rhywogaeth ychwanegol at laswelltir rhygwellt lluosflwydd yn fuddiol, cynyddu nifer y rhywogaethau i gynnwys amrywiaeth eang o wahanol blanhigion sy’n cynnig y budd mwyaf sylweddol.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth