Sut mae gwyndwn llysieuol yn effeithio ar iechyd a pherfformiad ŵyn sy’n pori

Mae gwyndonnydd llysieuol, a elwir hefyd yn borfeydd aml-rywogaeth, yn cynnwys cyfuniad o laswelltau, codlysiau a pherlysiau. Mewn systemau pori, mae cynyddu bioamrywiaeth y borfa yn un strategaeth bosibl a allai leihau dibyniaeth ar anthelminitigau cemegol, gan fod codlysiau a pherlysiau’n llawn cyfansoddion gyda rhinweddau anthelminitig posib. Credir y gallai gwyndonnydd llysieuol gynorthwyo i: 

  1. leihau baich llyngyr mewn ŵyn sy’n pori
  2. cynnal/gwella cynnydd pwysau byw
  3. lleihau’r angen ar gyfer gwrtaith

Nod y prosiect hwn, sy’n cynnwys tri ffermwr o Geredigion a Sir Gâr, yw asesu effaith defnyddio gwyndwn llysieuol o’i gymharu â gwyndwn rhygwellt a meillion mwy confensiynol, a’i effaith ar gynnydd pwysau byw dyddiol a baich llyngyr ŵyn sy’n tyfu.

 

Cynllun y Prosiect

  • Bydd un cae ar bob un o’r tair fferm yn cael ei rannu’n ddwy lain o faint cyfartal (yn amrywio o 1Ha i 3Ha fesul llain). Bydd un llain yn cael ei hau gyda gwyndwn confensiynol yn seiliedig ar rygwellt, a bydd yr ail yn cael ei hau gyda gwyndwn llysieuol. Bydd y lleiniau wedyn yn cael eu rhannu’n chwarteri i gael eu pori ar system bori cylchdro.
  • Bydd ŵyn yn pori’r lleiniau ar system bori cylchdro o ddiddyfnu hyd at ddiwedd Hydref, gan bori o 2500 kgDm/Ha heb fynd yn is na 1500 kgDm/Ha.
  • Bydd yr ŵyn yn cael eu pwyso a bydd samplau ysgarthion yn cael eu casglu bob pythefnos drwy gydol y cyfnod. Bydd prawf cyfri larfau hefyd yn cael ei gynnal ddwywaith i fesur baich llyngyr ar y borfa.
  • Bydd y lleiniau’n cael eu mesur ar gyfer cynnyrch deunydd sych trwy gydol y tymor tyfu a bydd samplau o laswellt ffres hefyd yn cael eu casglu i asesu gwerth maethol y ddau fath o wyndwn.
  • Bydd y data o’r tair llain ar draws y tair fferm wedyn yn cael ei ddadansoddi a’i gymharu er mwyn asesu manteision ac anfanteision y ddau fath o wyndwn o ran perfformiad ac iechyd anifeiliaid, cynnyrch ac ansawdd y borfa.

Mae llawer o drafodaeth yn digwydd ynglŷn â defnyddio gwyndwn llysieuol o ran perfformiad da byw a nodweddion anthelminitig, ac mae rhywfaint o waith wedi cael ei wneud yn edrych ar wyndonnydd llysieuol, ond nid ar raddfa cae masnachol. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar effeithiau posibl defnyddio porfa lysieuol ar gynhyrchiant ŵyn ar sail fasnachol yng Nghymru.