Cymharu perfformiad ŵyn ar wndwn a helyg
Mae’r prosiect hwn yn archwilio a allai helyg gynnig ateb naturiol, cost effeithiol i broblemau diffyg cobalt mewn ŵyn wedi’u diddyfnu ar ffermydd yng Nghymru. Mae diffyg cobalt yn broblem hysbys ymysg nifer o ddiadelloedd arfordirol, gan arwain at dwf gwael a’r angen am ychwanegion drud megis bolysau a drensh.
Bydd y prosiect yn cymharu pedair system bori wahanol ar gyfer ŵyn wedi’u diddyfnu:
- Gwndwn llysieuol amlrywogaeth
- Gwndwn llysieuol amlrywogaeth gyda helyg ychwanegol
- Gwndwn parhaol (eich system bresennol)
- Gwndwn parhaol gyda helyg ychwanegol
Pam helyg? Mae dail helyg yn uchel mewn cobalt, ac yn flasus i ŵyn. Trwy ymgorffori helyg, rydym yn gobeithio y gallwn waredu’r angen am ychwanegion cobalt drud, gan arbed amser ac arian i chi, a hybu twf ŵyn iachach mewn ffordd fwy naturiol.
Mae gennym ddiddordeb hefyd i weld sut mae gwndwn amlrywogaeth yn cymharu gyda gwndwn parhaol o ran iechyd a chynhyrchiant ŵyn, a pha fath o wndwn, os o gwbl, sy’n gweithio orau wrth ei gyfuno gyda helyg.
Y tu hwnt i berfformiad ŵyn, byddwn yn monitro cyfrif wyau ysgarthol a dadansoddiad mwynau yn y gwaed i gael darlun cyflawn o iechyd yr ŵyn.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
- Tirweddau naturiol gwarchodedig
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Defnyddio adnoddau’n naturiol
- Ecosystemau cydnerth