Math o fferm: Mae Eurig Jenkins a'i deulu yn lloia mewn bloc yn y gwanwyn ar 316ha (780 erw) yn Llanbedr Pont Steffan yng ngorllewin Cymru. Maent yn godro 420 o wartheg Friesian o Seland Newydd, ac yn cyflenwi First Milk.
Oriau gwaith: Mae'r oriau a'r dyddiau'n hyblyg ond byddwn yn edrych ar 40 awr yr wythnos. Godro am 5:30am a 3pm.
Lleoliad: Pentrefelin, Talsarn, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8QE
Cyflog: £12.21 / yr awr (Cyflog Byw Cenedlaethol cyfatebol ar gyfer yr oedran)
Dyddiad cychwyn: Bwriedir i'r swydd hon ddechrau ar 1 Chwefror 2026 ac mae’r dyddiad gorffen yn hyblyg.
Llety: Ar y safle, cegin ac ystafell wely gydag ystafell ymolchi yn yr ystafell wely.
Rydym yn chwilio am
Ymgeisydd sydd â diddordeb brwd yn y sector llaeth sy'n barod i ddysgu, yn cymryd y cam cyntaf, ac yn gallu integreiddio'n barchus i'n tîm presennol. Mae ymrwymiad i safonau gwaith uchel a chadw at brotocolau iechyd a diogelwch yn orfodol bob amser.
Disgrifiad swydd
Mae'r lleoliad hwn yn cynnig cyfle dysgu ymarferol o fewn ein busnes llaeth o safon uchel sy’n lloia yn y gwanwyn. Byddwch yn cael cwblhau hyfforddiant cynhwysfawr gan weithio ochr yn ochr â staff profiadol yn ystod y cyfnod lloia hollbwysig, gan sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol.
Prif gyfrifoldebau a chyfleoedd dysgu:
- Magu lloi: Yn gyfrifol am fwydo a gofalu am loi ifanc yn gyffredinol.
- Rheoli dwysfwyd: Cynorthwyo gyda melino, cymysgu a dosbarthu dwysfwyd i'r fuches.
- Iechyd y fuches: Gweithio'n agos gyda staff ar drefn ddyddiol sy'n hanfodol ar gyfer cynnal da byw iach ar draws pob grŵp oedran.
- Pori a symud gwartheg: Cynorthwyo gyda rheoli buchod pan fyddant dan do ac wrth symud i borfa, yn dibynnu ar y tywydd a'r cynllun pori ar gyfer y gwanwyn.
- Dyletswyddau fferm cyffredinol: Cynorthwyo’r tîm gyda thasgau amrywiol sy'n hanfodol ar gyfer gweithrediad dyddiol fferm laeth brysur.
Eich rheolwr
Eurig Jenkins yw pumed genhedlaeth ei deulu i ffermio Pentrefelin. Mae'r cyfle hwn yn cynnig y cyfle i weithio ochr yn ochr ag Eurig, ffermwr llaeth blaengar ac uchelgeisiol a gymerodd y busnes teuluol o dan ei adain drwy'r Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiad. Mae Eurig wedi llywio rhaglen ehangu a datblygu isadeiledd sylweddol, gan gynyddu nifer y buchod yn llwyddiannus wrth sicrhau proffidioldeb hirdymor. Yn raddedig o Gelli Aur a Harper Adams gyda phrofiad rhyngwladol yn gweithio yn Seland Newydd am chwe mis a phrofiad masnachol ym maes caffael, mae Eurig hefyd wedi elwa o dair blynedd fel fferm arddangos Cyswllt Ffermio, gan gael mynediad at gyngor arbenigol. Mae'n gwneud yn dda iawn ac wedi’i gydnabod am hynny, ar ôl ennill cystadleuaeth Byrnau Mawr Gymru Gyfan FWGS yn ddiweddar, ac mae'n gyfrannwr rheolaidd i Farmers Weekly, lle gall ymgeiswyr ddarllen ei erthyglau diweddar i ddysgu mwy am weithrediadau'r fferm ar-lein. Mae Eurig yn gwerthfawrogi dysgu parhaus, yn cymryd rhan weithredol yng ngrŵp trafod Merlin, ac mae’n agored i syniadau a thechnoleg newydd, gan greu amgylchedd delfrydol i newydd-ddyfodiaid ennill profiad ymarferol a datblygu eu sgiliau rheoli fferm.