Defnyddio biosymbylydd gwymon i wella ansawdd y borfa
Bydd y prosiect yn ymchwilio i wella ansawdd y borfa ac iechyd y pridd gan ddefnyddio biosymbylydd gwymon Car-y-Môr. Bydd y biosymbylydd yn cael ei chwistrellu i’r pridd gyda chodwr tywyrch, sydd hefyd yn helpu i leihau cywasgiad y pridd. Bydd arbrofion yn cael eu gwneud mewn dau gae, gyda phob un wedi’i rannu’n dair ardal: un yn derbyn y biosymbylydd gwymon yn unig, un yn derbyn y biosymbylydd yn ogystal â gypswm hylifol, a llain reoli heb unrhyw driniaeth. Bydd pob ardal sy’n derbyn triniaeth hefyd yn cael ei hawyru. Nod y prosiect yw asesu effaith y biosymbylydd ar ansawdd y gwndwn a’r pori, yn ogystal â’r effaith ar gywasgiad a bioleg y pridd.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Storio carbon
- Lleihau risg llifogydd a sychder
- Ecosystemau cydnerth
- Defnyddio adnoddau’n effeithlon