Diweddariad prosiect Bodwi: Adolygu’r fenter bîff drwy ystyried manteision posib cnydau cartref

Ers iddyn nhw gael eu diddyfnu ganol mis Hydref, mae’r 75 llo gwryw ar fferm Bodwi wedi addasu’n dda i’w diet o silwair glaswellt a haidd mâl wedi’i drin.  Cafodd yr haidd cartref ei drin â phelenni Home n’ Dry, triniaeth amonia i greu Alkagrain, deunydd alcalin, uchel mewn startsh gyda mwy o brotein gan ddilyn cyngor y maethegydd, Iwan Vaughan. Cafodd samplau haidd eu dadansoddi cyn ac ar ôl y driniaeth amonia, ac mae canlyniadau’r protein crai wedi eu crynhoi yn Ffigwr 1.

 

Ffigwr 1. Cynnwys Protein crai (%) haidd cartref a) heb ei drin, a b) wedi’i drin â phelenni Home n’ Dry.

 

Ar gyfartaledd, roedd y lloi gwryw’n pwyso 287kg adeg eu diddyfnu. Silwair byrnau mawr (ad-lib) a 3kg/y pen o Alkagrain ddwywaith y dydd yw eu porthiant ar hyn o bryd. Cyflenwir mwynau a fitaminau yn ôl yr angen. 

Mae’r teirw bîff wedi cael eu pwyso’n fisol ers eu diddyfnu, ac ar hyn o bryd, maen nhw’n llwyddo i ennill 1.5kg o bwysau’r dydd (DLWG). Mae hyn yn cyd-fynd â’r targed o 1.5-1.6kg o gynnydd mewn pwysau dyddiol rhwng diddyfnu a phesgi a osodwyd gan Iwan Vaughan. Dangosir eu perfformiad ers eu diddyfnu yn Ffigwr 2.

Ffigwr 2. Perfformiad teirw bîff o adeg eu diddyfnu i’r presennol ar sail cyfartaledd pwysau/y pen (kg). 

 

Bydd perfformiad y teirw bîff yn cael ei fonitro’n barhaus hyd eu pesgi. Bydd effaith ariannol cyflwyno haidd cartref i’r diet pesgi ar gostau cynhyrchu hefyd yn cael ei gyfrifo.