Diweddariad Prosiect Ein Ffermydd ar IVF - Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Cynhyrchodd yr heffrod 4.6 embryo fesul rhoddwr, gan berfformio’n well na’r gwartheg

  • Roedd cyfradd trosi wygelloedd i embryonau’n dda iawn – oddeutu 35% (mewn heffrod); gyda semen â’r rhyw wedi’i bennu, disgwylir iddo fod yn 20% ar gyfartaledd

  • Sganiwyd heffrod ar ddiwedd mis Awst 2024, ac roedd 7 o’r 29 wedi beichiogi, sy’n gyfwerth â chyfradd feichiogi o 25% sy’n gadael rhywfaint o le i wella yn erbyn y dangosydd perfformiad allweddol o 45%

  • Mae’n anodd cyfrif elw economaidd ar fuddsoddiad ar gyfer y prosiect hwn oherwydd y buddion hirdymor i’r fuches ar fferm Moor Farm o ran cynnydd mewn nodweddion penodol, a bridio o dda byw mwy elitaidd 

  • Yn y tymor byr, gan fod 7 o’r heffrod yn feichiog gyda semen â’i ryw wedi’i bennu o’r prosiect embryonau, roedd hyn yn gyfwerth â gwerth £1,184.70 fesul heffer a enir. Fodd bynnag, bydd y cynnydd genetig cyflymach yn cynyddu potensial y fuches dros yr ugain mlynedd nesaf.

Cefndir:

Gan fod llawer o fuchesi llaeth yng Nghymru wedi trosglwyddo naill ai i batrwm lloia mewn bloc yn y gwanwyn neu floc yn yr hydref i wneud y gorau o gontractau llaeth, ynghyd â’r defnydd gorau posibl o borfa a phorthiant, mae ffrwythlondeb y fuches wedi dod yn fwyfwy pwysig er mwyn cynnal bloc lloia tynn o 6-12 wythnos gan ddibynnu ar y math o fuwch a’r system y maen nhw’n ei gweithredu.

Mae amcanion a phrotocolau bridio o fewn y diwydiant felly’n canolbwyntio’n gryf ar wella ffrwythlondeb i gynnal bloc lloia tynn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Rhys, ynghyd â’i rieni Dei a Heulwen Davies, wedi bod yn cynnal profion genomig ar eu stoc ifanc i amcangyfrif eu potensial genetig ac i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch bridio ar gyfer eu buches.

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys dewis rhoddwyr sy’n heffrod R2 elitaidd 13-14 mis oed o ran eu sgôr genomig ar gyfer % protein, % ffrwythlondeb, % Cyfrif Celloedd Somatig (SCC) a nodweddion cynnal, gan hefyd werthuso hanes teuluol yr heffrod. Cafodd buwch a oedd yn lloia am y tro cyntaf hefyd ei dewis ar fferm Moor Farm, gan ei bod yn y 200 uchaf o ran system rancio Mynegai Proffidioldeb Oes (PLI) AHDB ym mis Ebrill 2024.

Diben y gwaith:

  1. Gwella potensial rhinweddau geneteg buchesi sy’n lloia mewn bloc i wella effeithlonrwydd a chynalialdwyedd y fuches (yn yr achos hwn, gwelliant sylweddol o ran mynegai lloia’r gwanwyn (SCI))
  2. Dangos potensial technoleg IVF ar gyfer casglu wygelloedd o heffrod ifanc elitaidd sydd wedi cael eu profi o ran genomeg mewn buchesi sy’n lloia mewn bloc
  3. Dangos sut y gellir gweithredu amserlen IVF a throsglwyddo embryonau heb effeithio’n gyffredinol ar ffrwythlondeb y fuches a chynnal y bloc lloia

Yr hyn a wnaed:

Paratowyd chwe rhoddwr sy’n heffrod elitaidd a phedair buwch a'u dewis i dderbyn chwistrelliad o Folltropin, hormon sy'n ysgogi ffoligl (FSH). Casglwyd yr wygelloedd ar y fferm ar 22 Mai 2024. Cafodd yr wygelloedd eu casglu trwy “sugniad ffoliglaidd” – triniaeth nad yw'n llawdriniaeth a gymerodd 15 munud fesul anifail (Ffig 1).

Yn dilyn yr ymweliad, cludwyd yr wygelloedd ffres i labordy AB a'u ffrwythloni â semen tarw uchel ei statws ar y Mynegai Lloia yn y Gwanwyn (SCI) am 7 niwrnod mewn dysgl petri. Y teirw a ddefnyddiwyd oedd Waterpark Jack gyda Mynegai Bridio Economaidd genomig uchel, a VH Shuba, Holstein Sgandinafia gyda chanran uchel o ran iechyd a phrotein. Dewiswyd y teirw hyn gan ddefnyddio offeryn graddio Mynegai yn y Gwanwyn AHDB, gan ganolbwyntio ar ganran y protein llaeth, canran ffrwythlondeb, canran Cyfrif Celloedd Somatig a nodweddion cynnal. 

Gan fod un embryo wedi byrstio, cafodd cyfanswm o 29 o embryonau IVF â’r rhyw wedi’i bennu eu mewnblannu ar 19 Mehefin mewn 26 o heffrod a oedd yn iach, wedi tyfu'n dda ac â sgôr cyflwr y corff da. Roeddent hefyd wedi’u gwirio a'u sganio ymlaen llaw gan y milfeddyg dan sylw a'u rhaglennu ar gyfer cydamseru gan ddefnyddio'r protocol PRID ac Estrumate 10 diwrnod. Cafodd y tri embryo arall eu mewnblannu mewn 3 buwch a oedd yn gofyn tarw ar y diwrnod hwnnw.

Cafodd y rhoddwyr sy’n heffrod yn cael eu harsylwi a'u ffrwythloni pan oeddent yn gofyn tarw ochr yn ochr â'r grŵp nad oedd yn cael unrhyw driniaeth arbennig.

Canlyniadau:

  • Casglwyd cyfanswm o 114 o wygelloedd, a chynhyrchodd un o'r rhoddwyr, Ryden Miriam 2317 o deulu un o’r buchod mwyaf ffrwythlon ar Moor Farm, 38 o wygelloedd.

  • Y gyfradd trosi o wygelloedd wedi’u prosesu i embryonau rhewedig oedd 30.2%, y disgwylir ei gweld os defnyddir semen confensiynol. Ond ar gyfer semen â’r rhyw wedi’i bennu, roedd disgwyl iddo fod tua 25%, felly roedd y prosiect wedi perfformio'n uwch na'r disgwyl.

  • Cafodd 30 o embryonau hyfyw eu rhewi mewn hydoddiant nitrogen hylifol; daeth 13 o Ryden Miriam 2317 a chawsant eu storio yn y labordy nes eu bod yn barod i'w mewnblannu.

  • Perfformiodd yr heffrod yn well na’r gwartheg yn y prosiect gan gynhyrchu 4.6 embryo fesul rhoddwr

  • Roedd y gyfradd drosi o wygelloedd i embryonau’n dda iawn – oddeutu 35% (mewn heffrod); gyda semen â’r rhyw wedi’i bennu, disgwylir iddo fod yn 20% ar gyfartaledd

  • Sganiwyd yr heffrod ar ddiwedd mis Awst, ac roedd 7 o’r 29 wedi beichiogi, sy’n gyfwerth â chyfradd feichiogi o 25% sy’n gadael rhywfaint o le i wella yn erbyn y dangosydd perfformiad allweddol o 45%. 

Sut i roi’r uchod ar waith ar eich fferm:

1.       Cynnal profion genomig i ganfod yr anifeiliaid gyda’r rhinweddau geneteg uchaf yn y fuches 

2.       Creu cynllun bridio ar gyfer gwaith y prosiect gyda chwmni bridio arbenigol

3.       Paratoi a dewis da byw (fel rhoddwyr a derbynwyr) fisoedd ymlaen llaw fel y byddant wedi tyfu’n dda, yn ffit, yn iach, ar y pwysau a’r cyflwr cywir i geisio sicrhau llwyddiant ar gyfer y prosiect. Dylid llunio cynllun maeth penodol i fodloni targedau. 

4.       Dilyn y cynllun bridio a nodwyd ar gyfer echdynnu wygelloedd a ffrwythloni i greu embryonau cyn eu mewnblannu yn y da byw a ddewiswyd.

5.                 Sganio da byw i werthuso llwyddiant y prosiect

Ffigur 1.  Casglu wygelloedd trwy’r wain

Ffigur 2. Mewnblannu embryonau mewn heffrod llawn dwf

Ffigur 3. Offer ar gyfer mewnblannu’r embryonau ar Moor Farm