Efa Jones

Bala, Gwynedd

Mae cael ei magu ar fferm ddefaid ei theulu ym Maes y Waen wedi ysbrydoli Efa Jones i ystyried gyrfa ym maes meddyginiaeth filfeddygol yn y dyfodol.

Mae Efa ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU yn Ysgol Godre'r Berwyn, Y Bala, ond mae'n disgrifio ei hun fel “merch fferm'' sy'n mwynhau popeth o hyfforddi cŵn defaid i wyna a lapio gwlân. “Yn sicr, nid oes gennyf ofn baeddu fy nwylo!” meddai.

Mae hi’n defnyddio ei chymeriad cystadleuol ar y cae rygbi, yn gapten ar y tîm dan 16, Gwylliaid Meirionnydd, ac yn cynrychioli Gogledd Cymru hefyd. Mae hi hefyd yn chwarae hoci gyda'r tîm lleol.

Yn ogystal â chwaraeon, mae Efa yn cymryd rhan mewn cystadlaethau fel aelod o CFfI Maesywaen, yn y Rali, yr Eisteddfod ac mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus.

Mae'n canu gyda Chymdeithas William Mathias, ac yn aml yn cymryd rhan mewn cyngherddau elusennol ac yn perfformio yng nghartrefi henoed y Bala.

Mae Efa’n disgrifio’r cyfle i ymweld â'r Iseldiroedd gyda Rhaglen Iau yr Academi Amaeth fel “profiad unwaith mewn oes”.

“Bydd yn anhygoel gweld sut mae’r Iseldiroedd yn ffermio, ac i ddod â syniadau adref i’w rhannu gyda’r teulu."

“Mae gen i gymaint mwy rwyf am ei ddysgu, dyma pam mae'r Rhaglen Iau yn berffaith i mi. Credaf y bydd y profiadau a gaf yn cyfoethogi fy sgiliau ac yn fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith ac yn caniatáu i mi ddysgu pethau nad wyf wedi gallu eu dysgu gartref ar y fferm.''