Effaith dull sefydlu gwndwn llysieuol ar gynhyrchiant ac iechyd pridd

Bydd y prosiect hwn yn cymharu dau ddull ar gyfer sefydlu gwndwn llysieuol mewn cae 2 hectar: aredig a drilio uniongyrchol, y ddau gan ddefnyddio cymysgedd pori amlrywogaeth Germinal. Bydd y prosiect hefyd yn cymharu llain lle bydd Calcifert yn cael ei wasgaru gyda  llain lle nad yw Calcifert yn cael ei wasgaru. Bydd y gwaith casglu data yn gynhwysfawr, gan ganolbwyntio ar gyfraddau egino, gorchudd y tir, presenoldeb a dwysedd chwyn, cyfrif pryfed genwair, cyfraddau ymdreiddio dŵr a sgôr strwythur y pridd (VESS). Yn ogystal, bydd y prosiect yn asesu cyfansoddiad rhywogaethau’r gwndwn ac yn olrhain yr holl gostau mewnbwn, gan gynnwys tanwydd, llafur, hadau, gwrtaith a glyffosad. Bydd cewyll atal stoc yn cael eu defnyddio er mwyn hwyluso’r broses o gasglu data.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Dŵr glân
  • Lleihau risg llifogydd a sychder
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Ecosystemau cydnerth
  • Defnyddio adnoddau’n naturio