Allyriadau nwyon tŷ gwydr defaid (GHG) - Beth petai?

Gosododd Llywodraeth Cymru darged i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. Mae lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ffermydd yn amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac mae’n golygu edrych o’r newydd ar y system gyfan. Gellir lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan hefyd gynnal a gwella proffidioldeb ffermydd yn aml.

Nod y prosiect hwn yw grymuso ffermwyr defaid Cymru i ddeall a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr eu diadelloedd. Trwy ddefnyddio’r offeryn “Beth Petai” a chydweithio mewn grwpiau trafod, gall ffermwyr gael dealltwriaeth werthfawr a rhoi strategaethau ar waith i leihau eu hôl troed amgylcheddol.

Cymerodd cyfanswm o 116 o ffermwyr ran mewn arolwg cychwynnol i gael dealltwriaeth o’u diddordeb a’u dealltwriaeth o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Gellir gweld y canlyniadau isod, gydag 1 yn isel a 10 yn uchel. 

 

Bydd pedwar ar bymtheg o ffermwyr, gydag arweiniad gan Flock Health UK, yn casglu rhagor o ddata ac yn ei fewngofnodi trwy offeryn “What if” Map of Ag trwy ap ar-lein. Mae’r offeryn ar-lein hwn yn gadael i ffermwyr:

  • Gynnal dadansoddiad wedi ei addasu trwy newid paramedrau amrywiol sy’n benodol i’w fferm. 
  • Archwilio gwahanol sefyllfaoedd sy’n ymwneud â’r mathau o borthiant, rheoli tail, arferion pori, dwyster stocio, gwrteithiau, a rheoli maetholion.

Bydd yr offeryn “What if” yn pennu a allant ddynodi gweithgareddau a all leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr eu diadell yn y dyfodol. Ar ôl cael y wybodaeth trwy’r ap ar-lein, gofynnir i’r ffermwyr ddynodi meysydd allweddol ar eu fferm ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gosod nodau SMART eu hunain.  

Ar ôl i’r gwaith casglu data a’i fewnbynnu ddod i ben, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael y manteision canlynol - 

  • Dealltwriaeth o ôl troed nwyon tŷ gwydr penodol eu fferm. 
  • Archwilio strategaethau lleihau allyriadau posibl. 
  • Gosod nodau y gellir eu cyflawni ar gyfer gwella cynaliadwyedd eu fferm. › Cyfrannu at ymdrech ar y cyd i leihau effaith amgylcheddol diwydiant defaid Cymru.