11 Rhagfyr 2024


Bydd enillion bychain a gyflawnir o ganlyniad i nifer o ffactorau, yn amrywio o gynyddu’r canrannau sganio a magu ŵyn i’w pesgi’n gynt, yn cyfuno i leihau allyriadau a chynyddu proffidioldeb mewn diadelloedd yng Nghymru.

Mae nifer o’r dangosyddion perfformiad allweddol sy’n pennu cynhyrchiant diadelloedd hefyd yn rhai sy’n gostwng allyriadau carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrus, yn ôl gweminar Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y milfeddyg Fiona Lovatt, o gwmni Flock Health Ltd, a Hugh Martineau, Cyfarwyddwr Technegol Cynaliadwyedd yn y busnes mewnwelediad yn seiliedig ar ddata, Map of Ag.

“Nid yw lleihau allyriadau yn rhywbeth sy’n digwydd ar wahân i bopeth arall,” meddai Mr  Martineau sydd hefyd yn cadw diadell ddefaid ar ei fferm ym Mannau Brycheiniog.

“Ceir tueddiad i feddwl amdano fel mesuriad unigol, ond mewn gwirionedd mae’n un o ganlyniadau system gynhyrchiol neu anghynhyrchiol, gan ddibynnu ar gyfeiriad yr allyriadau.”

Y dangosyddion perfformiad allweddol y mae wedi’u gosod ar ei ddiadell ei hun yw lleihau pwysau’r famog o 75kg i 70kg, cynyddu’r ganran sganio o 160% i 180% a’r ganran fagu o 137% i 155%, gan hefyd gyflymu’r cyfnod pesgi ŵyn i 190 diwrnod yn hytrach na 230 diwrnod.

Ond efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio ar un fferm yn gweithio ar fferm arall, felly wrth addasu arferion ffermio, mae’n bwysig bod pob fferm yn canolbwyntio ar y newidiadau hynny sy’n addas ar gyfer eu busnesau eu hunain.

“Peidiwch â chael eich temtio i gymharu ar draws nifer o fusnesau eraill, canolbwyntiwch ar yr hyn sy’n addas i chi,” meddai Mr Martineau.

“Gallwch feincnodi yn erbyn systemau tebyg, ond bydd gwahanol flaenoriaethau ar wahanol ffermydd a gwahanol systemau, ac mae angen ystyried hynny yn y ffordd yr ydych chi’n defnyddio gwahanol adnoddau mesur carbon.”

Ychwanegodd y dylech dderbyn y bydd enillion bychain ar draws sawl maes – peidiwch â disgwyl i un ffactor unigol sicrhau lleihad o 20% mewn allyriadau.

“Mae’n debygol y bydd nifer o bethau y gallwch eu gwneud i addasu’r system i leihau allyriadau tuag at yr isafswm damcaniaethol.

Cyfeiriodd at sicrhau bod mamogiaid yn cyrraedd y cyflwr delfrydol ar gyfer hyrdda, sicrhau bod y famog yn cael maeth digonol drwy gydol ei beichiogrwydd, canrannau sganio a magu a defnyddio mewnbynnau mewn modd effeithlon.

“Os ydych chi mewn sefyllfa lle’r ydych yn dod â mewnbynnau i mewn i’r system, sicrhewch eu bod yn cael eu defnyddio’n effeithlon, fel yr ydych eisoes yn ei wneud rwy’n siŵr, gan eu bod yn dueddol o fod yn gostus,” meddai.

Bu 22 o ffermwyr sy’n aelodau o grwpiau trafod defaid lefel uwch ledled Cymru yn cymryd rhan mewn prosiect dan oruchwyliaeth Dr Lovatt. Roedd y prosiect yn golygu mewnbynnu data i adnodd “What if” Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr gan Map of Ag. Roedd newid unrhyw baramedrau’n galluogi pob fferm i edrych ar eu diadelloedd eu hunain a’u harferion ffermio, ac i ystyried yr hyn  y byddent yn gallu ei wneud i wneud gwahaniaeth o safbwynt dwysedd allyriadau.

Ymysg cyfranogwyr y prosiect oedd Peter ac Anne Cattell o fferm Coed Derw, Llandyrnog, sy’n cadw 150 o famogiaid Llŷn a 50 o ŵyn ar 45 erw. Yn 2022/23 llwyddodd y ddiadell i gyflawni canran sganio o 177 gyda 2.7% o famogiaid gwag, a chyfradd fagu o 170%.

Mae Coed Derw yn defnyddio system mewnbwn uchel - allbwn uchel. Cyn ŵyna, mae’r ŵyn yn cael eu bwydo ar ddogn cymysg cyflawn (TMR) yn cynnwys silwair o ansawdd uchel wedi’i dyfu gartref, ffa soia, betys siwgr a thriog, gan gyflwyno dwysfwyd ar ôl ŵyna. Mae ŵyn yn cael eu bwydo ar ddwysfwyd pan fyddant yn bythefnos i dair wythnos oed cyn eu gwerthu’n bedair i bum mis oed.

Er bod y teulu Cattell yn cofnodi’r defnydd uchaf o borthiant ar draws y 22 diadell, y ganran fagu uchaf a’r nifer lleiaf o ddyddiau ar gyfer ŵyn wedi’u pesgi ar y fferm, roedd yr allyriadau a gyfrifwyd ar gyfer eu diadell ar lefel gyfartalog o fewn y grŵp.

Ar ôl rhoi cynnig ar nifer o wahanol senarios o fewn y model, roedd Dr Lovatt yn cynghori y dylid newid i brynu porthiant o ffynonellau cynaliadwy ar draws eu mewnbynnau porthiant, a nodir o fewn yr adnodd fel ‘dim newid i’r defnydd tir’, i leihau dwysedd allyriadau’r ddiadell o 27.18 kg CO2 a’i gyfatebol fesul kg o bwysau ar y bach (dwt) i 25.73kg CO2 a’i gyfatebol fesul kg dwt.

O ran ‘dim newid i’r defnydd tir’, dywed Mr Martineau mai ystyr allyriadau newid defnydd tir yw’r allyriadau sy’n cael eu priodoli i borthiant o ganlyniad i newid mewn defnydd tir ar yr ardal lle mae’r porthiant hwnnw wedi cael ei dyfu.

Mae’n rhaid i gyfrifianellau allyriadau gynnwys yr ardaloedd o dir sydd wedi’u datgoedwigo o fewn yr 20 mlynedd diwethaf i dyfu cnydau neu borthiant at ddefnyddiau eraill.

“Mae’r allyriadau a gynhyrchir o ganlyniad i ddatgoedwigo yn cael eu rhannu gyda’r allbwn cnydau ac yna’n cael eu dyrannu i allyriadau’r cynnyrch cig oen,” eglurodd Mr Martineau.

Bu Dafydd Owen, sy’n ffermwr cyfran gyda Coed Coch Farms, Abergele, lle mae’n cadw diadell o 2,000 o famogiaid Romney ar system bori yn unig, hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect.

Roedd yr adnodd “What if” yn dangos bod dwysedd allyriadau’r ddiadell ar gyfer 2023/24 yn CO2 a’i gyfatebol fesul kg o bwysau ar y bach.

Trwy gynyddu’r ganran sganio i 182% a’r ganran fagu i 150% gan hefyd leihau cyfradd marwolaeth mamogiaid i 3%, byddai modd lleihau’r ffigwr hwnnw i 25.2kg, yn ôl yr ymarfer modelu.

Ond er y gallai hynny fod yn ddyhead, dywed Mr Owen nad yw hynny’n apelio o reidrwydd o fewn ei system, gan y byddai’n arwain at ormod o dripledi sy’n gofyn am fwy o fewnbynnau, gan atgyfnerthu’r neges bod angen i unrhyw newidiadau a gyflwynir gan ffermwyr fod yn addas ar gyfer eu systemau unigol eu hunain.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwyr Sir Benfro yn mynd i'r afael â TB trwy waith tîm
07 Ebrill 2025 Mae ffermwyr ar draws Sir Benfro yn profi, hyd yn
Mentor Cyswllt Ffermio ac arweinydd Agrisgôp, Caroline Dawson, yn rhan o gyfres ddiweddaraf o Our Dream Farm ar Channel 4
03 Ebrill 2025 Dewch i weld hynt a helynt y rhai a gyrhaeddodd
Cyswllt Ffermio yn Cyflwyno 9 Cwrs Hyfforddiant Ychwanegol i Ffermwyr
02 Ebrill 2025 Mae Cyswllt Ffermio wedi ehangu ei raglen