Llyn Rhys, Llandegla, Wrecsam

Prosiect Safle Ffocws: Ymchwilio i botensial gweddillion treuliad anaerobig fel gwrtaith amaethyddol / Potensial ar gyfer defnyddio Meillion Balansa yng Nghymru

Ymchwilio i botensial gweddillion treuliad anaerobig fel gwrtaith amaethyddol

Nodau'r prosiect:

O ganlyniad i’r pwysau i gynyddu cynnyrch er mwyn bwydo poblogaeth sy’n tyfu’n sydyn, bydd ein priddoedd yn dod o dan bwysau cynyddol i berfformio mewn modd cyson o flwyddyn i flwyddyn. Gallai cynnyrch i gymryd lle gwrtaith, megis gweddillion treuliad anaerobig, sef sgil gynnyrch peiriannau Treulio Anaerobig (AD), gynnig dewis amgen addas yn hytrach na gwrtaith cyfansawdd. Gallai’r opsiwn yma hefyd ymdrin â gofynion masnachol ac amgylcheddol drwy gynnig effaith amgylcheddol isel, gydag atebion effeithiol a chynaliadwy drwy gylchedu maetholion.

Mae nifer y safleoedd AD ar gynnydd, felly mae ffermwyr yn cael cynnig gweddillion treuliad anaerobig am brisiau cystadleuol rhwng £5-7.00 y dunnell, er mae hynny’n ddibynnol ar leoliad a phellter o’r safle AD. Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddarparu gwybodaeth bellach i ffermwyr ynglŷn â defnydd posibl o weddillion treuliad anaerobig fel bio-wrtaith ac fel dewis amgen i wrtaith artiffisial, yn ogystal ag arferion gorau er mwyn hybu twf glaswellt a lleihau effaith amgylcheddol.

Bydd y prosiect yn gwerthuso manteision defnyddio gweddillion treuliad anaerobig o’i gymharu â gwrtaith cyfansawdd, ac yn cymharu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd 3 gwahanol gyfradd wasgaru. Bydd glaswellt yn cael ei fesur ar gyfer pob cyfradd wasgaru, yn ogystal ag ar lain rheolaeth a llain gwrtaith artiffisial er mwyn cymharu cynhyrchiant.  Bydd samplau glaswellt ffres hefyd yn cael eu casglu yn ystod y prosiect, a bydd priddoedd yn cael eu profi ar ôl i’r arbrawf ddod i ben.

Gobeithiwn y bydd y prosiect hefyd yn rhoi cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynglŷn â ffrwythlondeb pridd, er mwyn i ffermwyr ystyried opsiynau ar gyfer gwella perfformiad pridd mewn modd cynaliadwy, megis defnyddio deunyddiau sy’n garedig i’r amgylchedd i wella proffil maetholion a chyflwr priddoedd.


Potensial ar gyfer defnyddio Meillion Balansa yng Nghymru

Nodau’r prosiect:

  • Astudiaeth dichonolrwydd yn edrych ar addasrwydd meillion Balansa i hinsawdd ac amodau tyfu yng Nghymru i’w bori ac i’w borthi o’i gymharu â chnydau porthiant eraill.
  • Mae Meillion Balansa FIXatioN yn godlys blynyddol sy’n gallu gwrthsefyll amrywiaeth o briddoedd ac yn gallu cynhyrchu llawer iawn o fiomas. Mae ei batrwm tyfiant siâp roset yn ei alluogi i wrthsefyll pori dwys a thorri. Mae meillion Balansa hefyd yn gallu gwrthsefyll amodau oer a sych. O ran gwerth fel porthiant, gall meillion Balansa gynhyrchu hyd at 5,882 kg/ha DM a 28% protein crai ar sail deunydd sych.
  • Bydd y prosiect hefyd yn gwerthuso potensial defnyddio cymysgeddau hadau amrywiol fel awyryddion pridd biolegol mewn systemau da byw’n seiliedig ar laswellt yng Nghymru. Gall y dull hwn wella strwythur a ffrwythlondeb y pridd pan fo diraddiad pridd yn dod yn fwy a mwy o broblem.
  • Mae’r cymysgedd hadau awyru biolegol yn cynnwys ceirch gwanwyn, Radis Daikon, Meillion Gwaetgoch, Ffacbys y Gaeaf, mwstard gwyn, gwenith yr hydd, Phacelia, rhygwellt Eidalaidd, meillion Balansa a Meillion Frosty Berseem, sydd â strwythurau gwahanol iawn i’r gwreiddiau. Bydd y prosiect yn gwerthuso pa mor dda fydd y rhywogaeth a’r gymysgedd yn perfformio yng Nghymru.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefnllan
Neil Davies Cefnllan, Llangamarch, Powys Meysydd allweddol yr
Pendre
Tom a Beth Evans Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth
Moor Farm
Andrew Rees Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd Prif Amcanion