Shordley Hall Farm, Shordley Road, Hope, Wrecsam

Prosiect Safle Ffocws: Effaith ac amlder haploteipiau ffrwythlondeb a diffyg colesterol o fewn y brid du a gwyn.

Nod y prosiect:

Prif fwriad y prosiect yw ymchwilio i effaith ac amlder yr haploteipiau ffrwythlondeb (HH1, HH2, HH3, HH4, HH5) sydd wedi cael eu darganfod o fewn DNA y brid du a gwyn. Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i ddylanwad y gennyn HCD (Haploteip Diffyg Colesterol) ar gyfradd marwolaeth lloi. Mae technoleg sgrinio genetig newydd a’i argaeledd masnachol wedi datgelu rhai anhwylderau arwyddocaol i’r diwydiant a oedd yn anhysbys o fewn y brid Du a Gwyn yn y gorffennol. Mae’r term “haploteip” yn cyfeirio at grŵp o ddangosyddion SNP (amryffurfedd niwlcleotid sengl) sydd wedi’u lleoli’n agos ar y cromosom ac yn cael eu hetifeddu gyda’i gilydd fel arfer. Mae haploteipiau’n cael eu trosglwyddo gan y fam a’r tad, ac mae eu heffaith, p’un ai’n achosi niwed neu’n dda, yn dibynnu sut mae’r haploteipiau hyn wedi cael eu trefnu yn y lloi. Gan ei bod bellach yn bosibl i adnabod miloedd o haploteipiau ar bob cromosom, mae gan bob un gysylltiad positif, niwtral neu negyddol gyda chynhyrchiant, cyfansoddiad, iechyd a ffrwythlondeb. Mae’n bwysig adnabod a deall pa haploteipiau sy’n achosi effaith negyddol er mwyn bridio o gwmpas hynny i sicrhau nad yw’r effeithiau hyn yn cael eu trosglwyddo.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Penlan
Fferm Penlan, Cenarth, Castell Newydd Emlyn Prosiect Safle Ffocws
Fferm Pied House
Fferm Pied House, Trefaldwyn, Powys Prosiect Safle Ffocws
Trefnant Isaf
Trefnant Isaf, Y Trallwng Prosiect Safle Ffocws: Manteision pwyso