Fferm Henbant Bach - Cyflwyniad i’r prosiect

Amaeth-goedwigaeth yw’r arfer o dyfu cnydau a choed gyda’i gilydd, a chaiff ei dderbyn yn fyd-eang fel dull integredig o ddefnyddio tir yn gynaliadwy. Yng Nghymru, caiff amaeth-goedwigaeth ei ystyried yn gyfle i ddwysáu’r defnydd o dir ffermio mewn modd cynaliadwy, er mwy gwella cynhyrchedd, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, rhywbeth sy’n cael lle amlwg iawn yn yr agenda gwleidyddol ar hyn o bryd. 

Mae Henbant yn fferm fechan 31 hectar (80 erw) yng ngogledd orllewin Cymru. Saif y fferm ddwy filltir o’r arfordir i’r gorllewin ac ychydig filltiroedd yn unig o fynyddoedd Eryri i’r dwyrain. Mae tir isaf y fferm yn 80m uwchlaw lefel y môr, ac mae’n ymestyn i fyny llethr Bwlch Mawr gan cyrraedd 120m. Mae’r fferm yn wynebu tua’r gogledd yn bennaf, ond ceir golygfeydd i sawl cyfeiriad yno. Mae’r prif bridd yn lôm tywodlyd dros raean.

Bydd y prosiect yn cynnwys dull bio-ddwys ac ecolegol heb unrhyw waith trin tir, gan ddefnyddio egwyddorion paramaethu i sefydlu tyfu aml-haenog. Mae dull amaeth-goedwigaeth o gynhyrchu bwyd yn cynnig manteision defnyddio tir yn gynaliadwy, ac mae hefyd yn cyfrannu at iechyd anifeiliaid a dal a storio carbon. Gall coed addasu tymheredd a chyflymder y gwynt, a bydd hynny’n darparu lloches a phorthiant ac yn fuddiol o safbwynt lles anifeiliaid. Credir bod gan systemau amaeth-goedwigaeth fwy o botensial i ddal a storio carbon oherwydd eu gallu canfyddadwy i ddal a storio mwy o olau, maetholion a dŵr a gwneud mwy o ddefnydd ohonynt, o gymharu â systemau ble tyfir un rhywogaeth yn unig. 

Mae cyflwyno rhesi o goed sy’n cynhyrchu ffrwythau pen coed a ffrwythau meddal ymhlith porfa sy’n cael ei rheoli’n holistaidd a gardd farchnad fio-ddwys heb unrhyw drin tir yn ddull o arallgyfeirio a chreu cydnerthedd ar fferm fechan.
 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol:

Archwilio unrhyw fuddion o safbwynt sefydlu planhigion a’u cryfder a’u twf o ganlyniad i’r tyfu aml-haenog.

Darparu gwybodaeth ynghylch unrhyw fuddion ychwanegol sy’n deillio o’r dull amaeth-goedwigaeth, megis planhigion yn cael eu hamddiffyn yn well a mwy o borthiant i dda byw.

  • Deunydd organig pridd (trwy ddadansoddi maeth pridd/profi pridd, cynllunio rheoli maetholion)
  • Bioamrywiaeth h.y. bywyd y pridd, pryfed, adar
  • Proffidioldeb
  • Mewnbwn o ran amser a chostau 
  • Ennyn diddordeb y gymuned

Darparu gwybodaeth yn ymwneud â’r canlynol:

  • Busnes proffidiol – ceisio cynyddu cyflogaeth
  • Mwy o fioamrywiaeth - bywyd y pridd, pryfed, adar
  • Gwelliant o ran twf y pridd/gallu’r pridd i ddal a storio carbon
  • Llai o ddibyniaeth ar fewnbynnau a brynir
  • Mwy o ddiddordeb gan y gymuned                                                                                                                                           

Llinell Amser a Cherrig Milltir: 

2019

Rhagfyr - Cael cyngor ynghylch trefn caeau a rhywogaethau ffrwythau pen coed.

 

2020

Ionawr - Cael cyngor ynghylch coed ffrwythau meddal a’r isdyfiant. Plannu rhesi coed ffrwythau pen coed. Profi’r pridd. Cael cyngor ynghylch y cynllun plannu llysiau.

Chwefror - Paratoi compost a llwybrau ar gyfer yr ardd farchnad. Ffensio’r coed sy’n cynhyrchu ffrwythau pen coed a phlannu’r isdyfiant. Plannu coed sy’n cynhyrchu ffrwythau pen coed yn yr ardd farchnad. Plannu rhesi o goed i’w brigbori.

Mawrth - Cynhyrchu llysiau yn cychwyn. Codi ail dwnnel polythen o bosibl. Profi pridd y gwelyau ar ôl gwneud addasiadau.

Ebrill - Cychwyn tyfu

Mai - Tyfu a phori

Mehefin - Cychwyn rhannu blychau.

Gorffennaf - Adolygu cynnydd y prosiect erbyn hynny a pharatoi at ddiwrnod agored.

Awst - Cyflawni’r prosiect a chynnal diwrnod agored.

Medi - Diwedd y prosiect