Ffermwyr Sir Drefaldwyn yn Elwa ar Daith Astudio Cyswllt Ffermio

16 Ionawr 2019

Teithiodd y grŵp, dan arweiniad Cath Price, i Belfast ar daith amaethyddol tri diwrnod gyda nawdd Teithiau Astudio Cyswllt Ffermio. Roedd yr aelodau sydd eisoes yn rhan o grŵp Agrisgôp, yn awyddus i edrych ar arferion ffermio yng Ngogledd Iwerddon a chlywed barn ffermwyr blaengar oedd yn fodlon rhannu eu profiadau o fewn y diwydiant.

Rhoddwyd y cyflwyniad cyntaf gan Neville Graham, Pennaeth Gwasanaethau Ffermwyr yn Dale Farm. Rhoddodd Neville gipolwg o sector llaeth Gogledd Iwerddon ac esboniodd sut mae eu cwmni’n gweithredu.  Mae’r cwmni llaeth blaengar yn eiddo i fenter gydweithredol o 1,300 o ffermwyr llaeth ac mae’n cyflogi mwy na 1,000 o bobl.  Mae’r cwmni’n gweithredu cadwyn gyflenwi integredig iawn gyda nifer o is-gwmnïau, er enghraifft, busnes melin borthiant a gwasanaeth cysylltwyr fferm.  Mae’r cwmni’n cynnig nifer o becynnau prisiau i ffermwyr yn cynnwys pris sefydlog am laeth a chynlluniau bonws.

Meddai Ben Davies, aelod o’r grŵp: “Roeddwn yn falch o glywed bod gan y cwmni agwedd gyfrifol tuag at gynyddu cynhyrchiant llaeth.”  Esboniodd Neville fod y busnes yn cynyddu ei alw am laeth ac yn annog ffermwyr i gynyddu’n araf trwy gynnig bonws am laeth ychwanegol a gynhyrchir dros nifer o flynyddoedd.

Ar ôl cinio anelodd y grŵp am County Antrim i Goleg Amaethyddol y wlad, CAFRE (Coleg Amaethyddiaeth, Bwyd a Mentrau Gwledig).  Cawsant eu cyfarch gan Reolwr y Fferm, Michael Graham a’r Rheolwr Fferm Cynorthwyol,  Jim Fulton a ddangosodd eu Canolfan Laeth i’r grŵp.  Mae’r adran amaethyddiaeth yn gweithredu dros dair uned; llaeth, eidion a defaid iseldir ac uned fferm fynydd lle cedwir buches sugno a 1,000 o ddefaid masnachol.  Aeth Michael a Jim â’r grŵp o amgylch y fferm laeth gan ddangos y parlwr, yr adran famolaeth, y corlannau lloia, ardaloedd porthi a gorffwyso ac unedau lloi a stoc ifanc.  Crëwyd argraff dda ar y ffermwyr gan y systemau a ddefnyddid i sicrhau diogelwch gweithwyr, er enghraifft, bylchau diogel rheolaidd i’r gweithwyr mewn corlannau, systemau trin anifeiliaid a llefydd i fuchod unigol loia’n ddiogel a thawel.  Elfennau eraill o’r fferm a greodd argraff y grŵp oedd y systemau awyru, glendid y fferm a chynllun yr adeilad.

Meddai Sion Watkin, aelod o’r grŵp: “Roedd yn braf gweld mai myfyrwyr oedd y brif flaenoriaeth, gyda chyfarpar arloesol a chyfleusterau trin anifeiliaid ar gael i fyfyrwyr ddysgu gyda diogelwch y defnyddwyr a lles anifeiliaid yn dra phwysig.”

Ar ôl treulio’r noson ym Melfast parhaodd y grŵp â’u taith yn eiddgar drannoeth.  Aethant i County Armagh i ymweld â Ffermwr Cymysg y Flwyddyn y Farmers Weekly 2018/19, Matthew Brownlee i gael hanes ei fusnes ffermio cymysg.  Estynnodd Matthew groeso i’r grŵp i’w gartref a disgrifiodd ei gefndir a’i rôl gan esbonio sut oedd ei fusnesau wedi’u strwythuro ac yn cael eu gweithredu.  Ar ei dir ei hun ynghyd â thir rhent, mae Matthew yn cadw buches sugno, mae'n gorffen gwartheg stôr, ac yn y tair blynedd diwethaf mae wedi dechrau cadw moch a buchod llaeth; gan godi dwy uned foch sy’n cadw cyfanswm o 1,200 o foch a buches laeth.  Ar hyn o bryd mae 65 o fuchod yn cael eu godro ac mae'n anelu at gynyddu’r nifer i 120.  Pan ofynnwyd i aelodau’r grŵp beth oedd y prif negeseuon a ddysgwyd ar ôl clywed a gweld agwedd Matthew at fusnes, dyma’r ymateb:

  • Strwythur busnes a gweithrediadau – disgrifiodd Matthew ei brofiadau a’i wybodaeth am strwythur busnes a sefydlu yn y ffordd briodol i sicrhau’r proffidioldeb gorau posibl a lleihau risg.
  • Ffocws ar y dyfodol – pwysleisiodd Matthew bwysigrwydd lledaenu’r risg ac roedd wedi buddsoddi’n benodol mewn moch a buchod llaeth i gynyddu sefydlogrwydd ei incwm o fentrau gyda chytundeb sicr.
  • Erwau a ddefnyddir – esboniodd Matthew fod tir yn brin ac yn gostus ac felly roedd wedi gwneud defnydd o’i dir drwy amrywiaeth o fentrau werth uchel (afalau), dwys (moch) ac eidion (helaeth).
  • Cyfrifoldeb busnes – mae Matthew yn 28 oed ac roedd ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am fusnesau’r fferm.  Roedd hefyd yn gwneud y penderfyniadau o ddydd i ddydd ac yn y tymor hir.  Roedd yn braf gweld ei fod yn gyfrifol am ei ddyfodol ei hun.
  • Ffocws ar DGA/Data – roedd Matthew yn awyddus i wneud penderfyniadau’n seiliedig ar ddata a defnyddio cyfarpar a allai gipio data.  Er enghraifft, yn ddiweddar buddsoddodd y fferm mewn robot llaeth Lely.  Esboniodd Matthew sut roedd y robot yn cipio data o bob teth unigol, yn monitro faint o laeth a gynhyrchir a’r tymheredd oedd yn rhoi arwydd cynnar o fastitis.
  • Gosod targedau – mae Matthew yn  anelu at gael 10 buwch yn sych bob mis i gynnal lefel y llaeth yn gyson ar hyd y flwyddyn a defnyddio capasiti’r robotiaid llaeth Lely.
  • Defnyddio ei sgiliau ei hun – cyfaddefodd Matthew nad oedd ganddo lawer o ddiddordeb mewn peiriannau a’r fenter afalau ac esboniodd ei bod yn bwysig gwneud yr hyn yr ydych yn ei fwynhau.  Er enghraifft, nid oes raid iddo yrru tractor yn aml yn ei fusnes gan fod yr holl silwair yn cael ei osod ar gontract ynghyd â hanner ei waith slyri hefyd.  Mae'n mwynhau bod gydag anifeiliaid a dyma lle mae'n neilltuo ei amser a’i ffocws yn y busnes yn ogystal â thasgau angenrheidiol eraill.

Yn County Antrim oedd ymweliad olaf y daith astudio, ac yno cyfarfu’r grŵp â Gary Fitzpatrick a John Toland sy’n magu lloi.  Y prif nod yn y busnes fferm yma oedd cadw lloi a ddeuai o nifer o ffermydd yn iach a sicrhau perfformiad arbennig.  Pan ddechreuwyd y busnes, dywedodd Gary fod y banciau’n anfodlon benthyca arian iddynt gan nad oedd ffermwyr yn gwneud elw o gadw lloi du a gwyn.  O ganlyniad roedd yn rhaid i’r ddau ddatblygu’r busnes yn araf a dod o hyd i ffyrdd iddo weithio.  Canolbwyntiwyd ar ddatblygu’r rwmen yn dda yn ystod y camau cynnar er mwyn cryfhau’r system imiwnedd maes o law.  Roedd y ddau’n magu 15,000 - 16,000 o loi'r flwyddyn.  Deuai’r lloi yn bennaf o ffermydd llaeth drwy Ogledd Iwerddon, yna byddai’r lloi’n cael eu hallforio neu eu gorffen/lladd yn y DU.  Yn ystod y daith dysgodd aelodau fod system awyru’n ffordd syml ond effeithiol i wella iechyd lloi’n gymharol gyflym a rhad.  Cawsant argraff dda hefyd gan y ffordd yr oedd Gary a John yn gallu addasu - roeddent wastad yn fodlon gwneud newidiadau a threialu cynnyrch a chyfarpar i wella eu proses.

Roedd agwedd Gary a John at fusnes yn arbennig o fudd i aelodau’r grŵp.  Holodd Gary y grŵp gan ofyn a oeddent yn profi eu silwair - dywedodd y rhan fwyaf o’r grŵp eu bod yn gwneud hynny.  Yna gofynnodd a oedd aelodau’r grŵp yn profi’r porthiant yr oeddent yn ei brynu i mewn, a’r ateb gan bawb oedd ‘na’.  Dywedodd: “Felly rydych yn ymddiried mewn eraill ond nid ynoch eich hun”.  Roedd hwn yn bwynt dilys ac esboniodd ei fod yn werth ei wneud o’i brofiad personol ef.

Dyma a ddywedodd Hywel Bennett, aelod o’r grŵp: “Roedd ffocws Gary a John ar ddatblygiad cynnar i sicrhau’r perfformiad gorau wedi gwneud i mi feddwl, ac er mai trafod magu lloi oeddem ni, mae’r un egwyddor yn berthnasol i ffermwyr fel fi sy’n cadw unedau ieir maes.  Credaf y dylwn fod yn trefnu fy amser ar sail bob cytiad o ieir a blaenoriaethu fy amser i roi sylw i’r cytiad yn ystod y cyfnod dodwy cyntaf yn hytrach na gofalu am un cytiad nes eu bod yn gorffen dodwy; dyma newid y byddaf yn ei wneud.“

Ar nodyn mwy cyffredinol, roedd y grŵp yn credu bod y daith o gwmpas Gogledd Iwerddon yn ddiddorol; cawsant gyfle i weld y tir a sut roedd ffermydd a thai wedi’u sefydlu.  Sylwodd y grŵp fod maint ffermydd ar gyfartaledd yn llawer llai yng Ngogledd Iwerddon o’i gymharu â Phrydain.  Cawsant eu synnu hefyd gan brisiau uchel y tir a phrisiau rhent yno o’i gymharu â Phrydain.  Wrth siarad efo’r ffermwyr, roedd yn ymddangos nad oedd llawer o dir ar werth o dan £10,000/erw a dywedodd Matthew Brownlee, y ffermwr oedd yn ein tywys, mai ei ardal ef o Ogledd Iwerddon oedd y ddrutaf, gyda phrisiau tir ar gyfartaledd yn £13,500/erw.

Gwybodaeth am Nawdd y Daith Astudio 

Gall treulio amser yn ymweld â busnesau eraill fod yn ffordd werthfawr o ddarganfod gwell dulliau gweithio, gweld arfer gorau ar waith a dod â syniadau newydd adref i arloesi yn eich busnes.

Gall grwpiau o ffermwyr a choedwigwyr cymwys wneud cais am hyd at £3,000 y grŵp i ariannu taith astudio o fewn y DU am gyfnod o hyd at 4 diwrnod. 

Rhaid i bob grŵp gyflwyno ffurflen gais i wneud cais am arian ac mae disgwyl iddynt gadw cofnod o’u canfyddiadau i rannu gydag eraill ar ôl iddynt ddychwelyd. 

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais (yn cynnwys y telerau llawn) o dudalen Teithiau Astudio ar wefan Cyswllt Ffermio.