Gorchudd Glaswellt ar fferm Dolygarn

Mae’r tabl isod yn dangos y mesuriadau gorchudd glaswellt cyfartalog a gofnodwyd ar fferm Dolygarn rhwng mis Mawrth a mis Awst, 2019.

 

Mae’r graff isod yn dangos gorchudd glaswellt (ar yr wyth prif badog cynhyrchiol yn y system gylchdro) ar fferm Dolygarn ar hyn o bryd, ynghyd â gofynion yr anifeiliaid. Fel y gallwch weld o’r graff, mae cyflenwad y glaswellt gwirioneddol yn uwch na gofynion yr anifeiliaid, felly mae’n dangos nad yw Dolygarn yn cael ei stocio’n ddigon dwys yn ystod y cyfnod pori yn yr haf. Bydd angen gwneud penderfyniadau deallus nawr o ran p’un ai dylid cynhyrchu rhagor o silwair neu gynyddu niferoedd stoc er mwyn sicrhau nad yw ansawdd y glaswellt yn dirywio.