Haydn Evans, Rural Advisor Ltd

Mae Haydn wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin, ac mae'n gallu teithio ledled Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Mae gan Haydn ddealltwriaeth gref o'r sector amaethyddol, oherwydd ochr yn ochr â'i swydd fel ymgynghorydd, dechreuodd ei fusnes ffermio 20 mlynedd yn ôl hefyd. Felly, mae'n deall yr heriau sy'n wynebu ffermwyr ac yn gallu uniaethu â gwahanol sefyllfaoedd. Mae gan Haydn brofiad blaenorol o hwyluso cyfarfodydd ar ôl bod yn rheolwr banc gyda banc mawr ar y stryd fawr o'r blaen.