Hysbysiad Preifatrwydd Cyswllt Ffermio
Cyflwyniad/Cefndir
Nod Cyswllt Ffermio yw cyflwyno rhaglen arloesol i gefnogi'r diwydiant ffermio i sicrhau mwy o gynaliadwyedd, gwell cystadleurwydd a gwell perfformiad amgylcheddol i fusnesau ffermio yn unol ag amcanion rheoli tir cynaliadwy. Nod y rhaglen yw meithrin trosglwyddo gwybodaeth ac arloesedd mewn amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig.
Er mwyn derbyn cymorth gan Cyswllt Ffermio, bydd angen i chi roi rhywfaint o ddata personol i ni. Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion prosesu a phenderfynu ar eich cymhwysedd Cyswllt Ffermio a cheisiadau am wasanaethau, monitro rhaglenni ac adrodd a chofnodi datblygiad personol parhaus. Gallwch gymryd rhan yn rhaglen Cyswllt Ffermio fel y mynnoch.
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a roddwch i’r rhaglen Cyswllt Ffermio.
Y Proseswyr Data yw Menter a Busnes a Lantra Cymru, contractwyr trydydd parti sy'n darparu'r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.
Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu?
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol a gesglir yw ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i Lywodraeth Cymru.
Pa wybodaeth bersonol sydd angen i ni ei phrosesu?
Bydd angen eich enw llawn, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt arnom i brosesu eich cofrestriad/cais.
Pam mae angen i ni brosesu eich data personol?
Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion prosesu i gofnodi ac adrodd am weithgarwch y cyfranogwyr drwy'r rhaglen:
- Ffurflen gofrestru ar gyfer cymhwysedd
- Ffurflenni cais ar gyfer cymeradwyaeth gwasanaeth
- Datblygiad Personol Parhaus - Storfa Sgiliau
- Monitro ac adrodd ar raglenni.
O bryd i'w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn penodi gwerthuswyr ac ymchwilwyr i'n helpu i asesu perfformiad rhaglen Cyswllt Ffermio. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu data personol yn ddiogel gyda'r contractwyr hyn i'w galluogi i gynnal cyfweliadau neu arolygon o gyfranogwyr presennol a chyn-gyfranogwyr fel rhan o'r gwerthusiadau ffurfiol hyn. Efallai y cysylltir â chi i’ch gofyn i gymryd rhan mewn gwerthusiad o'ch profiad personol o weithgaredd dysgu. Os cysylltir â chi, bydd pwrpas y cyfweliad neu'r arolwg yn cael ei egluro i chi a byddwch yn cael yr opsiwn i ddweud ie neu na i gymryd rhan. Bydd contractwyr yn defnyddio'ch manylion at ddibenion cynnal y gwerthusiad yn unig ac yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR). Yna, bydd eich manylion yn cael eu dileu unwaith y bydd y contract gwerthuso wedi'i gwblhau.
Bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth gyswllt i anfon cylchlythyr Cyswllt Ffermio atoch neu i roi gwybod i chi am wasanaethau neu ddigwyddiadau y credwn y bydd gennych ddiddordeb ynddynt fel cwsmer Cyswllt Ffermio. Os hoffech ddatdanysgrifio o'r cylchlythyr, e-bostiwch cyswlltffermio@menterabusnes.co.uk
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r cofrestriad/cais am 7 mlynedd, ac ar ôl hynny byddwn yn sicrhau ei bod yn cael ei gwaredu'n ddiogel yn unol â Pholisi Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru.
Disgwylir i raglen Cyswllt Ffermio gael ei hadolygu yn 2025. Os caiff ei disodli gan raglen arall gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu gwasanaethau cymorth i'r diwydiant ffermio, byddwn yn parhau i brosesu eich data personol yn y ffordd a sefydlwyd yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn (lle mae'n briodol gwneud hynny) i'n galluogi i barhau i'ch cefnogi chi a'ch busnes.
A fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu?
Bydd y data personol yn cael ei rannu gyda sefydliadau a gontractiwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r rhaglen Cyswllt Ffermio yn unig sef:
- Menter a Busnes
- Lantra Cymru
- Contractwyr dethol ac isgontractwyr Menter a Busnes a Lantra Cymru.
Gall timau archwilio, archwiliad mewnol Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru gael mynediad at y data; dim ond i wirio gweinyddiaeth rhaglen Cyswllt Ffermio y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio.
Bydd y data personol yn cael ei rannu gyda'r asiantaethau canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- APHA
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- 22 Awdurdod Lleol Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
- DEFRA a swyddfeydd amaeth eraill Llywodraeth y DU
- Adrannau eraill Llywodraeth Cymru
Gellir rhannu gwybodaeth gyda'r asiantaethau uchod am y rhesymau canlynol:
- Adnabod tirfeddianwyr/defnyddwyr mewn achosion o argyfyngau e.e. rheoli clefydau ac achosion o dorri rheolaethau;
- Diogelu diddordeb ymgeiswyr mewn cadwraeth tir a materion a allai godi oherwydd ymholiadau am gyllid;
- Caniatáu i sefydliadau partner gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.
Bydd y data personol yn hygyrch i Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (KAS) ar gyfer ymchwil, dadansoddi ystadegol (ni ellir adnabod unigolion ohono), monitro cyfleoedd cyfartal a chwblhau adroddiadau o ddata cyfanredol i'w gwneud ar gael i'r cyhoedd drwy dudalennau rhyngrwyd Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i gefnogi unrhyw geisiadau a wnewch o dan fecanweithiau cymorth eraill.
Eich hawliau:
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol:
- I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
- I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
- I ‘ddileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau); a
- Chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion Cyswllt
Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yng Nghymru:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth — Cymru, 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH. Rhif Ffôn 0330 414 6421. E-bost: wales@ico.org.uk Gwefan: www.ico.gov.uk
Mae Menter a Busnes a Lantra Cymru yn prosesu'r cofrestriad/cais ar ran Llywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth am sut mae Menter a Busnes a Lantra Cymru yn prosesu eich data, gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol:
Menter a Busnes Lantra Cymru
Uned 3 Maes Sioe Frenhinol Cymru
Parc Gwyddoniaeth Llanelwedd
Aberystwyth Llanfair ym Muallt
Ceredigion Powys
SY23 3AH LD2 3WY
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales