“Mae bod yn rhan o Academi Amaeth Cyswllt Ffermio wedi dysgu pwysigrwydd derbyn cyfrifoldeb am hyrwyddo ein diwydiant ac ansawdd ein cynnyrch, yn ogystal â rhoi'r hyder a'r gallu i mi allu gwneud hynny. Fe fydden i’n annog unrhyw un sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant amaeth, bwyd neu goedwigaeth i ymgeisio,” meddai Abi Reader, 34, sy'n rhedeg fferm gymysg dros 323 hectar yng Ngwenfô, ger Caerdydd. 

 “Mae’r fferm yn tyfu 60ha o gnydau âr, yn cynnal 150 o ddefaid, ynghyd â buches laeth 100 o wartheg Holstein Friesian a 100 o Fuchod Llaeth Byrgorn, felly mae’n ymrwymiad llawn amser, ond mae wastad digon o amser am fwy!  

Mae’r cysylltiadau rhwydweithio, y sgiliau a’r proffil a enillais trwy’r profiad Academi Amaeth wedi rhoi ffocws newydd i mi o ran yr hyn yr wyf yn dymuno ei gyflawni, yn ogystal ag ochr arall i’m sgiliau, ac rwyf eisoes wedi’u defnyddio mewn sawl ffordd.

Mae Abi, sydd yn gadeirydd sirol NFU Cymru Sir Forgannwg, ac yn aelod o bwyllgor Sioe Amaethyddol Sir Forgannwg, wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â nifer o bwyllgorau amaethyddol dylanwadol eraill, ac mae’n rhoi clod i’r Academi Amaeth am godi ei phroffil.

“Rwyf yn aelod o Grŵp Arloesedd Ffermydd Llaeth Cymru; yn lysgennad Ffermwyr Llaeth Cymreig ar ran AHDB Dairy; yn aelod penodedig o Fwrdd Llaeth yr NFU ac yn ymwneud â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) trwy eu fforwm aelodau ifanc. Rwyf hefyd yn aelod o bwyllgor Cynghori Morgannwg ar ran CAFC.  Dyfarnodd CAFC ysgoloriaeth i mi’n ddiweddar i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen, a oedd, fel yr Academi, yn gyfle gwych i rwydweithio, ac rwyf ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda rhai o brif ffigyrau'r diwydiant ynglŷn ag amrywiaeth o faterion.”

Ac wrth edrych tua’r dyfodol, a pharhau i ddatblygu’n broffesiynol, mae Abi nawr hefyd yn rhan o Sefydliad Ffermwyr y Dyfodol Tesco (Tesco Future Farmer Foundation) ac mae’n bwriadu ymwneud mwy gyda’r grŵp Ffermwyr Dyfodol Cymru.

Lansiwyd y rhaglen ddatblygu proffesiynol arloesol hon yn 2012 gan Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiadau Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen bellach yn nesau at ei phedwaredd blwyddyn, a chyda bron i 80 o gyn aelodau, mae'r Academi Amaeth yn cynnwys tair elfen ar wahân.   Dewiswyd Abi i gymryd rhan yn y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sy'n anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr gwledig.  Ceir hefyd raglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth sy’n cynnig datblygiad busnes a phersonol, yn ogystal â Rhaglen yr Ifanc, mewn cydweithrediaid â CFfI Cymru, sy’n agored i bobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed sy’n dymuno ystyried gyrfa yn y diwydiant bwyd, ffermio neu goedwigaeth.

Mae’r tair rhaglen yn dod â rhai o bobl mwyaf addawol y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw ynghyd, gan roi’r ysbrydoliaeth, yr hyder, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd arnynt eu hangen i fod yn arweinwyr gwledig y dyfodol, yn bobl fusnes proffesiynol ac yn entrepreneuriaid.

“Mae cymaint o wahanol elfennau o fewn y rhaglen sydd nid yn unig wedi rhoi rhwydwaith o ffrindiau a mentoriaid i mi y byddaf yn cadw cysylltiad rheolaidd â hwy, ond hefyd yr hyder i gymryd rôl weithredol o fewn fy nghymuned leol yn ogystal ag o fewn y diwydiant yng Nghymru a’r DU.

“Yn ystod ein hymweliad â'r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, fe ddysgais i siarad yn strategol ac yn ystyrlon gyda gwleidyddion, ac roedd yn brofiad mor fuddiol i weld gyda'm llygaid fy hun sut all trafodaethau gonest gydag arweinwyr polisi effeithio ar y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru.

“Roedd yr hyfforddiant sgiliau a chyfryngau hefyd yn uchafbwynt, ac er nad wyf erioed wedi diystyrru pwysigrwydd ymgysylltu â’r cyfryngau, mae dysgu sut i wneud y gorau o gyfweliad ac i gyfleu eich neges mewn modd cyflym a chryno eisoes wedi profi'n sgil gwerthfawr iawn," meddai Abi.

Eglurodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes, fod fformat yr Academi Amaeth o gynnig tri chyfnod astudio byr ond dwys, a hynny fel arfer dros benwythnos, bellach wedi profi'n ddefnyddiol iawn o ran arwain y ffordd i lwyddiant ar gyfer ei gyn-aelodau, gyda nifer ohonynt yn rhoi clod i'r rhaglen lawn o sgiliau a hyfforddiant cyfryngau, mentora busnes, teithiau astudio, cefnogaeth ac arweiniad am eu llwyddiant presennol ynghyd â chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer Academi Amaeth eleni erbyn y dyddiad cau sef 1af Ebrill 2016. Am fwy o fanylion ynglŷn â their rhaglen yr Academi, manylion cymhwysedd, dyddiadau cyfnodau astudio ac er mwyn lawr lwytho ffurflenni cais, ewch i dudalen yr Academi Amaeth.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites