mentro logo 1

19 Medi 2018

 

Mae tîm Mentro Cyswllt Ffermio yn cynorthwyo ffermwr ifanc llaeth a bîff sy’n edrych yn daer am loches ar gyfer ei fuches dros y gaeaf ar ôl gorfod gadael ei ddaliad presennol.

Mae’n rhaid i James Davies adael ei fferm yn Sir Benfro lle mae’n rhedeg ei fuches o 170 o wartheg a heffrod cyflo a 100 o wartheg bîff oherwydd newid annisgwyl yn amgylchiadau perchennog y fferm.

Os nad yw’n dod o hyd i lety arall yn fuan, bydd rhaid iddo werthu’r stoc.

Caiff ei sefyllfa ei gymlethu ymhellach gan statws TB y fuches – mae’n destun i waharddiad symud ar hyn o bryd.

“Byddwn yn cynnal prawf ar y 5ed o Dachwedd ac yn gobeithio y bydd yn glir,” meddai James. “Rwyf ar ddeall y gellir symud y gwartheg i loches dros y gaeaf gyda thrwydded symud, asesiad risg filfeddygol gan APHA ac os nad oes gwartheg arall yn bresennol ar y fferm.”

Mae’n awyddus i sicrhau dyfodol ar gyfer ei fusnes.

Symudodd James, sy’n 29, ei fuches i Sir Benfro o Gernyw ym mis Mawrth gan odro’r gwartheg ar fferm laeth ger Hwlffordd.

Cafodd ei fagu ar fferm laeth yng Nghei Newydd, Ceredigion, ac mae wastad wedi bod eisiau ffermio ar ei liwt eu hun.

Mae James yn derbyn cefnogaeth gan raglen Mentro Cyswllt Ffermio sydd wedi’i lunio i baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n barod i gamu’n ôl o’r diwydiant gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gychwyn ffermio 

Nid yw James wedi canfod cyfle addas dan y rhaglen hyd yma ac oherwydd ei sefyllfa anodd bresennol, mae’n cychwyn rhedeg allan o opsiynau.

“Rwy’n gobeithio bod rhywun allan yno a all fy helpu. Rwyf wedi mentro er mwyn cyrraedd lle ydw i heddiw a ‘dw i ddim eisiau rhoi’r gorau nawr. ‘Dw i ddim eisiau rhoi’r gorau i odro.”

Mae’r pecyn o gefnogaeth a gynigir gan Cyswllt Ffermio yn cynnwys mentora un i un ac mae ei fentor dynodedig, Lilwen Joynson, wedi bod yn rhan allweddol o gefnogi James i ystyried ei opsiynau a gosod pwyntiau gweithredu. Dywedodd Einir Davies, sy’n rheoli rhaglenni Mentro a Mentora Cyswllt Ffermio, “Mae penderfynoldeb James i oresgyn y sefyllfa anodd hon er gwaethaf popeth yn ysbrydoledig a dylid edmygu ei frwdfrydedd a’i ymrwymiad i lwyddo.”

Gall unrhyw un sydd mewn sefyllfa i helpu James gysylltu ag ef ar 07809 183208 neu daviespenyrallt@hotmail.co.uk. Fel arall, cysylltwch â tîm Mentro Cyswllt Ffermio trwy edrych ar ein gwefan neu ffonio 08456 000813.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter