Mae’r grŵp trafod hwn wedi canolbwyntio eu hamser yn ystod y flwyddyn gyntaf ar sicrhau bod eu priddoedd yn iawn a chanolbwyntio ar dwf glaswellt. Cynhaliodd y grŵp brawf twf glaswellt ar fferm un o aelodau’r grŵp rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2016. Bu’r prawf yn edrych ar bori cylchdro o’i gymharu â stocio sefydlog ar ardal 8 erw. Ar gyfer y lleiniau pori cylchdro, rhannwyd yr 8 erw yn 4 llain 2 erw. Roedd y canlyniadau’n glir o blaid pori cylchdro ac roedd aelodau’r grŵp trafod yn gallu gwneud penderfyniadau rheolaeth yn seiliedig ar ganfyddiadau cychwynnol ar fferm un o’r aelodau. Cafodd mamogiaid eu cyflwyno ddiwedd Ebrill hyd 20fed Mehefin.

 

graff trafod defaid 0

 

Canlyniadau allweddol:

Llwyddwyd i gynnal 57 yn fwy o ŵyn ar y llain pori cylchdro - cynhyrchwyd 1874.1kg yn fwy o gig oen ar y llain pori cylchdro sy’n gyfwerth â gwahaniaeth o £3,504.57 - 728 yn fwy o ddyddiau pori ar system bori cylchdro o’i gymharu â llain stoc sefydlog.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae cofnodi perfformiad wedi helpu fferm fynydd yng Nghymru i gael pris uwch o £6/fesul oen.
13 Mawrth 2026 Daeth Iwan Davies a'i rieni, Brian a Nicky, yn
Gwasanaeth Mentora Cyswllt Ffermio yn cefnogi entrepreneur ifanc o Bowys i dyfu busnes llwyddiannus yn dilyn heriau
07 Hydref 2025 Mae Charlie Cooper Harding yn unigolyn dynamig
Canfyddiadau asesiadau ôl troed carbon o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio - astudiaethau achos llaeth a chig coch
18 Awst 2025 Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio