Problemau ffrwythlondeb yn y fuches laeth yw’r ffactor mwyaf cyffredin o ran diffyg effeithlonrwydd ar unedau llaeth, ac mae’n effeithio’n uniongyrchol ar gostau cynhyrchu, cynnyrch llaeth, cyfraddau difa a niferoedd stoc ifanc.

Bu’r cyfarfodydd cychwynnol yn canfod ac yn meintioli lefelau perfformiad ffrwythlondeb presennol ar ffermydd yr aelodau, a mesur effaith ariannol y perfformiad hwnnw. Trefnir cyfres o gyfarfodydd trosglwyddo gwybodaeth reolaidd bob blwyddyn gan y Swyddog Datblygu lleol er mwyn ceisio cefnogi’r ffermydd sy’n rhan o’r grŵp i gyflawni eu hamcanion ac i fonitro cynnydd.

Mae data’n cael ei gasglu o gofnodion llaeth aelodau’r grŵp ac yn cael ei adolygu a’i ddadansoddi gan ymgynghorydd.

Mae’r dangosyddion perfformiad allweddol (KPI’s) canlynol yn cael eu monitro’n barhaus o fewn y grŵp, ynghyd ag ystadegau eraill:-

• Bwlch lloia

• Cyfradd gyflo 100 diwrnod

Mae’r ystadegau isod yn dangos cynnydd y grŵp ers ei sefydlu hyd heddiw yn erbyn y dangosyddion allweddol yma.

 

graff lloia

Mae ffigyrau’r diwydiant yn dangos bod pob diwrnod ychwanegol yn y bwlch lloia’n costio o leiaf £3.00 y fuwch y dydd i’r ffermwr.

Mae Fferm A wedi sicrhau lleihad o 24 diwrnod yn y bwlch lloia ac felly wedi gwella perfformiad y fuches gydag arbediad posibl o £72.00 y fuwch.

Fferm A = 142 buwch x £72.00 = Arbediad posibl o £10,224

Mae Fferm B wedi llwyddo i sicrhau lleihad o 33 diwrnod yn y bwlch lloia, felly mae’r arbediad posibl yn £99.00 y fuwch.

Fferm B = 578 buwch (maint cyfartalog y fuches dros y cyfnod monitro) x £99.00 = arbediad posibl o £57,222.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter