19 Mai 2020

 

Astudiaeth Achos: Ynysgain, Criccieth

 

Ym mis Gorffennaf 2019, bu Cyswllt Ffermio yn cydweithio gyda Hufenfa De Arfon i ddylunio a gweithredu arbrawf i edrych ar ddulliau effeithlon o fynd i’r afael â phroblemau ansawdd llaeth fel prosiect peilot. Penodwyd Kite Consulting, ynghyd â phartneriaid Advanced Milking, i gwblhau gwerthusiad o berfformiad y fferm yn seiliedig ar risgiau, gan ddefnyddio dadansoddiad o ddata fferm a labordy i gynnal ymweliad hanner diwrnod ar y fferm. Crëwyd cynlluniau gweithredu wedi’u teilwra ar gyfer pob fferm i flaenoriaethu’r prif ddulliau o wella ansawdd llaeth yn dilyn pob ymweliad.

Mae’r teulu Hughes yn godro 125 o wartheg Holstein gan gynhyrchu cyfartaledd o dros 10,000 litr mewn 305 diwrnod. Mae’r fuches yn ehangu trwy ddefnyddio anifeiliaid cyfnewid a fagwyd ar y fferm, gyda tharged o odro 160 o wartheg sy’n lloia yn yr Hydref. Mae’r fuches hon yn cael ei rheoli’n dda ac mae’r ffermwyr bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella. O ganlyniad, roedd John a Sion Hughes yn awyddus i fanteisio ar ymweliad gan Advance Milking fel rhan o brosiect peilot a ariannwyd yn llawn gan Cyswllt Ffermio i wella ansawdd llaeth.

 

Asesiad:

Bu Dan Humphries o Advance Milking yn ymweld â’r teulu Hughes i gynnal archwiliad cynhwysfawr o’r holl ffactorau sy’n effeithio ar iechyd y pwrs/cadair.  Ar adeg yr ymweliad, roedd nifer yr achosion mastitis yn isel, sef 10 achos ym mhob 100 o wartheg y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd y misoedd diwethaf wedi gweld cynnydd yn y cyfrif celloedd somatig (SCC) yn y tanc llaeth, gyda chyfartaledd o 226,000 cell/ml dros dri mis. Roedd hyn yn mynd â’r teulu Hughes ychydig y tu allan i’r taliadau band uchaf gan Hufenfa De Arfon. 

Gan edrych yn fanwl ar ddata cyfrif celloedd gwartheg unigol, gellir gweld bod y cyfrif celloedd uwch yn deillio o wartheg gyda chyfrif celloedd uchel cronig. Diffiniad o gyfrif celloedd SCC uchel cronig yw pan fod data’r fuwch honno dros 200,000 cell dros y ddau gofnod diwethaf neu fwy. Roedd 11% o’r fuches ar fferm Ynysgain yn dangos cyfrif celloedd uchel cronig. Byddai llai na 10% o wartheg cronig yn darged cyraeddadwy, a byddai targed o lai na 5% yn darged da.

Nid oedd gwerthusiad manwl o’r amgylchedd, y siediau a phrotocolau rheolaeth cyffredinol yn amlygu unrhyw feysydd risg sylweddol. Roedd awyriad, deunydd gorwedd a hylendid yn cael eu rheoli’n dda yn y siediau godro a’r siediau gwartheg sych. Roedd dyluniad yr adeiladau a’r ardaloedd gorffwys ymhell uwchben y safonau isaf ac roedd y gyfradd stocio ar 86%. Roedd iechyd cyffredinol y gwartheg yn dda gyda’r fuches yn cael ei brechu’n rheolaidd rhag BVD a Leptospirosis. Mae’r rhain yn gyflyrau heintus sy’n gallu ‘agor y drws’ i broblemau iechyd y pwrs/cadair. Roedd lefelau Cetosis yn isel ac roedd y gyfradd hypocalcaemia yn rhesymol ar 2.4%, gan leihau’r risg ychwanegol ar gyfer haint y pwrs/cadair sy’n cyd-fynd â’r cyflyrau hyn.

Roedd y prif risgiau a nodwyd yn ystod yr ymweliad i’w gweld yn y peiriant godro a’r broses odro. Mae’r fuches yn cael ei godro gan ddefnyddio offer Dairymaster 20:40 “swingover” a osodwyd 12 mis yn ôl. Roedd y peiriant wedi cael ei osod yn gywir ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda, fodd bynnag, roedd  y prawf amser godro (prawf ‘dynamig’) yn dangos bod addasiadau sylweddol y gellir eu gwneud er mwyn gwella perfformiad.

Ffigwr 1. Parlwr godro Ynysgain

Er bod y peiriant godro’n newydd, roedd y prawf amser godro ‘dynamig’ yn dangos bod modd gwneud gwelliannau trwy fireinio’r broses.

Mae’r gosodiadau presennol ar yr offer awtomatig i dynnu’r clwstwr oddi ar y tethi (ACR) yn galluogi’r gwartheg i gael eu godro’n ormodol - problem sy’n cynyddu’r perygl o hyperkeratosis (blaenau’r deth yn mynd yn arw) a chwydd ar y tethi. Mae hyn yn anghyfforddus i’r fuwch gan olygu ei bod yn lleihau faint o laeth mae’n ei ollwng, ond mae hefyd yn cynyddu’r posibilrwydd o haint ar y pwrs/cadair. 

Roedd lle i wella hefyd o ran y ffit rhwng y leinin a’r deth, gyda’r profion gwactod yn ystod amser godro’n dangos bod gwactod ar waelod y deth (yng ngheg yr offer) yn llawer uwch na’r ystod targed mewn nifer o wartheg. Mae’r gwactod uchel o amgylch rhan uchaf y deth yn peri risg o chwyddo, rhywbeth a welwyd mewn cyfran uchel o’r tethi ar ôl tynnu’r uned i ffwrdd.

Yn ogystal â’r ddwy broblem beirianyddol yma, roedd y llif llaeth o’r pwrs/cadair yn is nag y gallai fod. Roedd hyn o ganlyniad i’r ffaith nad oedd amseriad tasgau yn y broses odro yn addas ar gyfer sicrhau bod cymaint o laeth â phosibl yn cael ei ryddhau gan y fuches. Mae’r arfer bresennol o ddipio, sychu a gosod cwpanau ar ugain buwch yn arwain at ormod o amser rhwng cael ei symbylu a gosod yr uned odro. Mae hyn yn arwain at lif llaeth deuwedd (biphasic) gyda mwy o gyfnodau llif isel, yr uned yn aros ar y deth am gyfnodau hwy a mwy o rym trawmatig yn cael ei roi ar y tethi.

 

Cynllun Gweithredu:

Trafodwyd canlyniadau pob elfen o’r asesiad er mwyn canfod y prif feysydd i ganolbwyntio arnynt er mwyn gwneud gwelliannau i iechyd y pwrs/cadair. Cytunwyd ar gynllun a oedd yn blaenoriaethu gwaredu’r tagfeydd a oedd yn cyfyngu ar berfformiad, gan hefyd geisio glynu at gamau gweithredu fforddiadwy a oedd yn hawdd i’w gweithredu.

Yn y lle cyntaf, cynyddwyd y sbardun er mwyn tynnu’r clwstwr yn awtomatig i 500ml/mun o 250ml/mun. Roedd hyn yn lleihau’r posibilrwydd o odro’n ormodol. Argymhellwyd cynnydd pellach (i 600ml/mun) unwaith bod y broses odro wedi cael ei addasu i wella patrymau llif llaeth

Yn ail, cyflwynwyd protocol godro ‘Dipio 10; Sychu 10; Cysylltu 10’. Gan weithio gyda grwpiau o 10 buwch, mae modd sicrhau bod yr uned yn cael ei chysylltu 90 eiliad ar ôl symbylu’r fuwch, gan sicrhau’r cyfraddau llif llaeth gorau posibl a lleihau cyfle i facteria fynd i mewn i’r deth.

Un o’r cynlluniau tymor hwy oedd ymchwilio i ddefnyddio leinin llai sy’n addas ar gyfer buches Holstein (diamedr o oddeutu 22cm). Bydd sicrhau gwell ffit rhwng y leinin a’r deth yn lleihau’r gwactod sylweddol ar ochr uchaf y deth, gan arwain at dethi iachach, gwartheg mwy cyfforddus a llai o heintiadau pwrs/cadair.

 

Ffigwr 2. Cofnodion amser godro o du mewn i’r leinin yn dangos bod gwactod uchel anaddas ar waelod y deth, arwydd o leinin nad yw’n ffitio’n dda.

Argymhellwyd hefyd y dylai’r teulu Hughes gasglu samplau llaeth er mwyn edrych ar facterioleg o ganlyniad i achosion o fastitis clinigol a gwartheg gyda chyfrif celloedd somatig yn ddiweddar. Rhoddodd Advance Milking brotocol ar gyfer dethol gwartheg ac adnabod pa chwarter sy’n cael ei effeithio. Bydd archwiliad bacterioleg yn adnabod y bacteria sy’n achosi’r problemau ac yn galluogi i unrhyw fesurau rheoli gael eu teilwra i’r sefyllfa ar ffermydd penodol.
Ar ôl derbyn y canlyniadau  bacterioleg, cynghorwyd John a Sion i weithio gyda’u milfeddyg lleol i adolygu protocolau triniaeth a sychu. Bydd hyn yn eu galluogi i ddewis y triniaethau mwyaf cost effeithiol a datblygu protocolau cadarn ar gyfer therapi buchod sych dethol, er mwyn helpu i reoli’r gwartheg gyda chyfrif celloedd uchel cronig drwy gynyddu’r siawns o’u gwella dros y cyfnod sych


Canlyniadau:

Roedd John a Sion yn rhagweithiol wrth roi’r argymhellion ar waith. O ganlyniad, gwelwyd gwelliannau’n fuan iawn o ran ansawdd y llaeth yn dilyn yr ymweliad ym mis Gorffennaf. Roed y cyfrif celloedd somatig cyfartalog yn y tanc llaeth ar gyfer y tri mis yn dilyn yr ymweliad yn 197,000 cell/ml. Roedd hyn yn welliant o 37,000 cell/ml o’i gymharu â’r cyfartaledd yn y tanc llaeth dros y tri mis blaenorol. 
Roedd y gwelliant hwn yn arbennig o braf i’w weld gan fod iechyd y pwrs/cadair ar draws gogledd Cymru’n dirywio yn ystod y cyfnod hwn, gan awgrymu bod nifer o ffermwyr yn cael anawsterau i ymdopi â ffactorau allanol megis y tywydd yn ystod y cyfnod.
Cyn yr ymweliad, roedd y cyfartaledd misol wedi mynd tu hwnt i drothwy’r proseswyr o 225,000 cell/ml am dri mis yn olynol. Yn dilyn yr ymweliad, roedd yr holl gofnodion misol o fewn y trothwy taliad uchaf ar gyfer cyfrif celloedd somatig. Nid yn unig mae’r gwelliannau hyn yn cynyddu refeniw posibl fesul litr, ond ar lefel y fuches, mae lleihad o 37,000 cell/ml yn gyfystyr â chynnydd sylweddol mewn cynnyrch llaeth.

Ffigwr 3. Cyfrif Celloedd Somatig Misol (SCC) ar gyfer Ynysgain

Mae dadansoddiad o’r data cyfrif celloedd ar ôl wyth mis yn dangos bod y gwelliannau hyn wedi cael parhau drwy’r cyfnod. Ar gyfer y cyfnod yn dilyn yr adolygiad o iechyd y pwrs/cadair, roedd y cyfrif celloedd somatig yn 149,000 cell fesul ml ar gyfartaledd, i lawr o 185,000 am yr un cyfnod cyn y newidiadau. Cyflawnwyd hyn drwy leihau canran y gwartheg godro gyda chyfrif celloedd uchel i fod yn is na’r targed o 15%. Yn yr wyth mis yn dilyn yr adolygiad o iechyd y pwrs/cadair, llwyddodd y fuches i gwrdd â’r targed 6 gwaith, o’i gymharu â dwywaith yn unig yn yr wyth mis blaenorol. Mae’r gwelliant hwn yn deillio o leihad mewn heintiadau newydd a heintiadau cronig.

Cafwyd gwelliant arall amlwg o ran perfformiad buchod sych. Dros y cyfnod lloia prysur yn yr hydref, cafwyd cynnydd sylweddol mewn cyfraddau gwella yn ystod y cyfnod sych o 51% y tymor diwethaf i 81% y tymor hwn.

Mae’r canlyniadau hyn yn arbennig o braf i’w gweld o ystyried bod y fuches eisoes yn perfformio’n gymharol dda gyda chyfraddau mastitis isel. Cyflawnwyd y cynnydd pellach hwn o ganlyniad i waith caled y teulu Hughes a’u sylw i’r manylion.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter