I ddau ffermwr o Ganolbarth Cymru, ymuno â rhaglen datblygu bersonol blaengar Cyswllt Ffermio, yr Academi Amaeth, pan lansiwyd y fenter gan Lywodraeth Cymru yn 2012, oedd dechrau cyfnod positif a mwy proffidiol yn eu bywydau, ac maent yn dal i elwa hyd heddiw. Mae’r ddau’n rhoi clod i'r Academi Amaeth a’r cyfeillgarwch a’r rhwydweithiau cefnogi a ddaeth yn ei sgìl am nifer o'u cyraeddiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywed Mark Williams, ffermwr bîff a defaid sy'n ffermio oddeutu 800 erw mewn lleoliadau rhwng y Trallwng a Llanidloes, bod y rhaglen ddwys o fentora, hyfforddiant ac arweiniad wedi rhoi llawer o hyder a brwdfrydedd iddo. 

“Roedd profiad yr Academi Amaeth, a oedd yn cynnwys cyfarfodydd ar lefel uchel gyda Gweinidogion,Aelodau Cynulliad ac arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a gyda swyddogion yr UE ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd ym Mrwsel yn ddylanwad enfawr, ac yn dilyn hynny fe dderbyniais rôl cadeirydd sirol UAC Meirionnydd; cefais wahoddiad i gyflwyno achos ffermwyr Cymru yn ystod ymweliad Andrea Leadsom, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, â Chymru’n dilyn Brexit. Canlyniad arall nad oeddwn wedi'i ragweld oedd fy mod, erbyn heddiw, yn gwneud arbedion ariannol sylweddol ar fy fferm," meddai Mark.

arweinyddiaeth wledig snip 2

Mae gan Keith Williams, sydd hefyd yn ffermwr bîff a defaid, sydd â daliad 400 erw yn Hundred House ger Llandrindod, stori ddigon tebyg i’w hadrodd. Fel Mark, ymunodd Keith â'r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn 2012.

"Rhoddodd yr Academi Amaeth yr hyder i mi allu siarad yn gyhoeddus ynglŷn â materion sy'n effeithio'r diwydiant, ac rwy'n teimlo'n barod i roi rhywbeth yn ôl i'r diwydiant sydd wedi rhoi cymaint i mi. 

Dechreuais ymwneud â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod barn ffermwyr Cymru’n cael ei leisio ac yn cael ei ystyried; derbyniais rôl ar bwyllgor fy sioe leol ac rwyf wedi ymwneud llawer mwy gyda Cyswllt Ffermio, gan gynnal nifer o ddigwyddiadau ar y fferm deuluol, ac yn fwy diweddar, trwy ymuno â’r rhestr mentoriaid sydd wedi'u cymeradwyo gan Cyswllt Ffermio.  

"Roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau ymwneud mwy â materion gwledig, ac roeddwn yn teimlo bod gen i gyfraniad pwysig i'w wneud, ond diolch i'r Academi Amaeth, mae'r uchelgais a'r hyder gen i bellach i weithredu ar hynny," meddai Keith.

Ac fel Mark, dywed Keith ei fod hefyd yn rhedeg busnes mwy proffidiol nag yn 2012. 

 

academi amaeth arweinyddiaeth wledig agri academy rural leadership
Mae’r manteision ariannol a’r gwelliannau y mae’r ddau ffermwr yn son amdanynt yn deillio’n bennaf o’r gefnogaeth a’r mentora sydd ar gael gan ymgeiswyr eraill, sy’n dal i gyfarfod pan fo'r cyfle'n codi ac sydd fel arfer yno'n llu pan fydd Cyswllt Ffermio'n trefnu un o'u digwyddiadau ar gyfer cyn aelodau'r Academi Amaeth. 

“Fel arfer mae rhywun yn y grŵp yn debygol o feddu ar yr wybodaeth neu’r cyngor sydd arnoch ei angen. Rhwng pawb, mae gennym ystod eang o sgiliau a meysydd arbenigol," meddai Keith.

Mae’r ddau ffermwr hefyd yn gwneud arbedion ariannol trwy drin y tir cyn lleied á phosib er mwyn sefydlu cnydau bresych, techneg a ddysgwyd ganddynt wedi iddynt ymuno ag ymgeisydd arall o’r Academi Amaeth i gystadlu yng Nghystadleuaeth Menter Ffermwyr Cyswllt Ffermio. 

“Mae’r manteision yn parhau.  Roedd yn gyfle unigryw a roddodd foddhad mawr, a byddem yn cynghori unrhyw unigolion uchelgeisiol cymwys i ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth eleni, er mwyn iddynt hwythau ddylanwadu ar yr agenda gwledig yn y cyfnod hollbwysig yma,” meddai Mark.

Mae tair elfen i’r Academi:

  • Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig - menter ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
  • Rhaglen Busnes ac Arloesedd
  • Rhaglen yr Ifanc - menter ar y cyd gyda CFfI Cymru i rai sydd rhwng 16 a 19 mlwydd oed.

Am fwy o fanylion, cliciwch yma neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites