2 Hydref 2018

 

 

richard hughes eating snails in italy 2

Oni bai am don wres bob yn awr ac yn y man fel a welwyd dros yr haf, gallwn ddibynnu ar dywydd Cymru i gynnig yr amodau llaith, glawog sy’n berffaith ar gyfer malwod. Mae’r rhan fwyaf o arddwyr yn ymwybodol iawn o’r ffaith gostus honno!

Ond, diolch i raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, mae Richard Hughes, ffermwr bîff a defaid, yn gobeithio y gallai ei gynnig i fridio malwod bwytadwy y tu allan ar ei fferm ger Pwllheli arwain at ffrwd incwm proffidiol. Mae malwod, sy’n aml yn cael ei gweini mewn menyn a garlleg, wedi cael eu hystyried yn ddanteithfwyd ers amser gan gogyddion uchel ei bri. Mae’n debyg hefyd, y gallai casglu eu llysnafedd, sef mwcin neu serwm i roi ei enw iawn iddo, fod yn fodd arall i greu elw oherwydd ei briodweddau gwrth-heneiddio ar gyfer y croen!

Mae Richard, sy’n ffermio ym Mhenfras Uchaf, Llwyndyrys ger Pwllheli, newydd ddychwelyd o Gyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio yn Cherasco yn yr Eidal ble bu’n mynychu cwrs a gynhaliwyd gan Istituto Internazionale di Elicicoltura, sef academi bridio malwod sy’n adnabyddus yn rhyngwladol.

“Gydag ansicrwydd Brexit a grantiau amaethyddol, mae angen i ni ystyried pob math o fentrau arallgyfeirio er mwyn diogelu dyfodol fferm y teulu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai Richard.

“Roeddwn i wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil ar ôl bod ar wyliau gyda’r teulu yn Ffrainc ac roedd malwod, neu ‘escargot’ sy’n uchel mewn protein ond yn isel mewn calorïau ar fwydlen bron i bob bwyty.

“Erbyn i mi wneud cais am ymweliad Cyfnewidfa Rheolaeth roeddwn yn weddol hyderus fod yna gyfle i greu menter falwod llwyddiannus yma yng Nghymru, yn bennaf oherwydd yr hinsawdd yma.”

Mae gan Richard a’i wraig Eleri, sydd wedi ymddeol o’i swydd fel gweithiwr cymdeithasol, dri o feibion sy’n bobl fusnes llwyddiannus eu hunain. Ynghyd â datblygu eu gyrfaoedd eu hunain mae’r tri mab, sy’n byw yn lleol, wedi buddsoddi amser yn y busnes fferm deuluol. Mae’r tri’n diolch i’w tad am drosglwyddo’r cariad am y tir a’r ysgogiad i ddiogelu eu hetifeddiaeth deuluol iddynt yn ogystal ag agwedd mentrus.

Mae’r fferm bellach yn ymestyn i 200 erw, ond prynodd Richard yr uned 70 erw gwreiddiol ym 1974 wedi iddo roi ei fryd ar fod yn berchennog y fferm y bu cenedlaethau o’i deulu yn ffermio fel tenantiaid am dros 300 mlynedd.

“Roedd hi’n fwriad trwy fy oes i ddatblygu’r busnes i’r bechgyn trwy brynu tir ffermio ac adeiladau a fu gynt yn fywoliaeth ac yn gartrefi i aelodau eraill o’r teulu,” dywedodd Richard.

Diolch i gynllun eu tad ar gyfer ehangu ar ôl derbyn cyngor busnes gan Cyswllt Ffermio flynyddoedd yn ôl ac ar ôl bod yn rhan o nifer o fentrau arallgyfeirio yn eu plentyndod, mae’r tri bellach yn gweithio’n agos gyda’r busnes teuluol. Maen nhw o’r farn mai’r fenter falwod yw’r syniad diweddaraf ymhlith nifer a allai fod yn brosiect proffidiol.

“Mae ffermio llaeth, mentrau bîff a defaid, magu moch, darparu llety ar y fferm, sefydlu safle glampio a throi adeiladau fferm yn safle i’w rhentu a chyflogaeth oddi ar y fferm wedi darparu incwm gwerthfawr dros y blynyddoedd ond rydym ni bob amser wedi bod yn barod i addasu i ofynion y farchnad er mwyn sicrhau fod pob elfen o’r busnes yn perfformio ar ei orau,” meddai Richard.

Dywedodd fod yn rhaid i’r teulu wneud llawer mwy o waith ymchwil, yn enwedig o ran samplu pridd y llain sydd wedi cael ei ddynodi ar gyfer y fenter falwod ac yna hefyd, os yw popeth yn gweithio yn ôl y cynllun, taenu gwrtaith ac yna glanhau’r pridd er mwyn sicrhau na allai unrhyw bryfaid na chwilod effeithio ar y preswylwyr newydd!

“Un o’r camau nesaf fydd gwneud cais am arweiniad cynllunio rheoli maetholion sydd ar gael trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio,” dywedodd Richard.  

Mae Richard a’i feibion yn obeithiol iawn y bydd eu cynllun diweddaraf ar gyfer arallgyfeirio i ffermio malwod am wariant cyfalaf gweddol isel yn syniad llwyddiannus arall a fydd yn cydfynd yn dda gyda’r fenter dwristiaeth bresennol.

Yn ystod ei ymweliad i Cherasco, dysgodd Richard a grŵp bychan o fyfyrwyr rhyngwladol sut i adeiladu ‘ffens’ allanol a fyddai’n rhwystro creaduriaid eraill fel llygod rhag aflonyddu’r malwod yn cadw malwod ‘gwyllt’ allan hefyd.

“Bydd ffos yn cael ei gloddio i ddechrau cyn gosod pyst 400mm i mewn i’r pridd a  gosod plastig/ gwydr ffibr yn y gofod.

“Ar ôl adeiladu’r ffens allanol, bydd angen adeiladu corlannau tua 45m x 3.5m ar gyfer y malwod gyda ffens rhwyd blastig arbennig wedi’i osod o amgylch y corlannau. 

“Bydd pob corlan yn cael ei rannu’n ddau, 40% ar gyfer bridio a 60% ar gyfer tyfu/pesgi.

“Bydd ochrau corlan yn cael eu hau gyda meillion gwyn i ddechrau ac yna ysgellog, betys neu fresych gaeaf fel ysgallddail gyda’r hau cyntaf yn digwydd ym mis Mawrth (40% ardal fridio) a’r gweddill ym mis Gorffennaf – dyma’r diet maen nhw’n ei hoffi ac mae’n magu malwod ansawdd da.”

Dywedodd Richard fod ganddo nifer o brynwyr ar gael yn dilyn cysylltiadau a wnaeth ar ei ymweliad i Cherasco, sy’n awyddus iddo ddechrau ei raglen fridio gan fod y galw ar hyn o bryd yn uwch na’r cyflenwad, ond nid y malwod yn unig sydd â’r potensial i wneud elw.

Mae llysnafedd malwod yn llawn maetholion sydd â phriodweddau gwrth-heneiddio, a gyda’r offer priodol mae modd ei gasglu, ei storio a’i werthu i gynhyrchwyr colur. Gellir ‘cynaeafu’ poteli o wyau malwod a’u gwerthu fel ‘caviar’ malwod tra bod y malwod eu hunain yn medru cael eu gwerthu fel bwyd i nadroedd ac ymlusgiaid eraill.

“Roedd hi’n amlwg fod y gwaith yn Cherasco yn creu marchnad i ymwelwyr gan fod twristiaid a grwpiau o blant ysgol lleol sy’n awyddus i gael profiad angyffredin, a phobl o bob cwr sydd eisiau dysgu am ffermio malwod yn cael eu denu yno.

“Mae Cherasco a’r ardal yn enwog ledled y byd am y “Slow Food Movement”. Mae wedi dod yn enwog am ei gynnyrch arbenigol ac rwy’n meddwl y byddai’n bosib hyrwyddo fferm falwod i ymwelwyr sydd eisiau dysgu rhywbeth sy’n hwyl ac yn ddiddorol, ac yn hollol wahanol yma yng Nghymru.”

Mae Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio yn annog ffermwyr a choedwigwyr i ddysgu am ffyrdd newydd neu well o weithio; i ymchwilio a phrofi rhai o’r systemau gweithredu mwyaf llwyddiannus ledled Ewrop ar hyn o bryd drostynt eu hunain. Mae hyd at £4000 o gyllid yn cael ei gynnig i ymchwilio ffyrdd o weithio sy’n arloesol neu’n fwy effeithlon a fydd yn ehangu eu gwybodaeth, gallu technegol ac arbennigedd rheolaeth drwy deithio i fusnesau ffermio a choedwigaeth enghreifftiol o fewn yr UE. Bydd y rheiny sy’n cael eu dewis yn cael cyfle i dderbyn ymwelydd sy’n rheolwr busnes fferm neu goedwig profiadol sydd â’r hyfforddiant addas sy’n gweithio yn yr UE ar eu daliad eu hunain.

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer Cyfnewidfa Rheolaeth 2019 yn cynnwys dau gam eleni am y tro cyntaf. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Cam 1 yn dechrau ar 1 Hydref hyd 30 Tachwedd 2018. Bydd y broses newydd yn galluogi ymgeiswyr i wneud cais cychwynnol sy’n amlinellu’r pwnc a ddewiswyd ganddynt, eu rhesymau dros ddewis y pwnc hwnnw a’u cynlluniau ar gyfer rhannu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu o’r daith gyfnewid gyda’r diwydiant ehangach. Os byddan nhw’n derbyn cymeradwyaeth, byddan nhw wedyn yn symud ymlaen i’r 2il gam, gyda’r cyfnod ymgeisio ar agor rhwng 1 Rhagfyr a 31 Ionawr. Mae’r cam hwn yn gofyn am gynnig mwy manwl, a bydd mentora ar gael wedi’i ariannu’n llawn.

Gellir lawr lwytho ffurflenni cais ar y wefan neu gallwch gysylltu â Gwenno Griffiths, Menter a Busnes ar 01970 631414 neu anfon e-bost at gwenno.griffiths@menterabusnes.co.uk am ragor o fanylion.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites