21 Mawrth 2018

 

Mae'n syrfëwr siartredig ac yn brisiwr gwledig, yn ysgolor Nuffield, yn gyflwynydd radio lleol ac mewn cylchoedd

aled rhys jones 0

amaethyddol mae galw mawr arno hefyd yn y wlad hon ac ar draws y byd fel siaradwr cyhoeddus! Mae Aled Rhys Jones BSc (Anrhydedd) MRICS FAAV NSch, a fagwyd ar fferm bîff a defaid y teulu yng Nghwrt-y-Cadno, yn ychwanegu at y rhestr hon trwy ymuno â Chyswllt Ffermio ar ôl cael ei benodi’n ddiweddar fel arweinydd Rhaglen yr Ifanc Academi Amaeth.

Mae'n ymddangos bod Aled, sy’n siaradwr Cymraeg, ac a fu rhwng 2013 a diwedd 2017 yn brif weithredwr cynorthwyol Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, wedi cyflawni mwy mewn 31 o flynyddoedd nag y mae llawer o bobl yn ei wneud drwy gydol eu hoes! Ond dywed Aled mai’r swydd ddiweddaraf gyda’r Academi Amaeth, lle bydd yn ysbrydoli ac yn mentora pobl fanc rhwng 16 a 19 oed sy’n gobeithio cael gyrfa yn y diwydiant bwyd, ffermio neu reolaeth tir, o bosibl fydd yn rhoi’r mwyaf o bleser iddo eto.    

“Fel cyn ymgeisydd Academi Amaeth, a gyda’r dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr eleni ymhen ychydig o wythnosau ar 30 Mawrth, rwy’n awyddus iawn i gyfleu’r neges i bobl ifanc o gefndir gwledig yng Nghymru, fod y profiad i mi’n bersonol wedi bod yn un o’r cerrig camu pwysicaf a mwyaf dylanwadol o ran datblygiad personol a hybu gyrfa.” meddai Aled.  

Gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Reading, lle enillodd y wobr ‘ymarfer gwledig gorau’ i fyfyrwyr fel rhan o’i radd rheolaeth tir, roedd Aled yn un o’r syrfëwyr siartredig cymwysedig ieuengaf yn y Deyrnas Unedig pan lwyddodd i sicrhau’r statws yn 23 oed. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno ac ar ôl sefyll arholiad arall, daeth yn Gymrawd Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol. 

Yn ôl Einir Davies, rheolwr rhaglen mentora a datblygu Cyswllt Ffermio mae Aled yn dod â chyfoeth o brofiad a sgiliau i’r swydd.

“Mae Rhaglen yr Ifanc yr Academi Amaeth, sy’n gynllun ar y cyd â CFfI Cymru, eisoes wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i nifer o bobl ifanc o Gymru. 

“Rydym mor ffodus o gael rhywun o safon Aled nid yn unig i ddewis ymgeiswyr eleni ond i gynllunio’r rhaglen fentora, yr hyfforddiant a’r teithiau astudio yn 2018, fydd fel yn y blynyddoedd blaenorol, hefyd yn cynnwys lleoliad profiad gwaith i bob un o’r rhai fydd yn rhan o’r rhaglen,” meddai Ms. Davies. 

“Mae Aled yn unigolyn hynod o broffesiynol a phoblogaidd sy’n ysbrydoli eraill, eto mae’n barod i gydnabod mai ei brofiad ef ei hun gyda’r Academi Amaeth, a’r rhwydwaith newydd o ffrindiau a chysylltiadau a wnaeth ar y pryd, a’i harweiniodd i ymgeisio am Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield.”  

Yn ystod ei ysgoloriaeth Nuffield edrychodd Aled ar rôl cymdeithasau a sioeau amaethyddol ar draws y byd. Llwyddodd i ennill tarian am y cyflwyniad gorau yng nghynhadledd Nuffield y DU a gynhaliwyd yn Newcastle yn 2016, ac mae’r llwyddiant hwnnw wedi arwain at gael ei wahodd i siarad mewn cymdeithasau drwy’r byd. Cyflwynodd bapur yng Nghynhadledd Amaethyddol y Gymanwlad (27ain) yn Singapore yn 2016 fe’i gwahoddwyd i fod yn ymddiriedolwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol y Gymanwlad ac ef fydd yn arwain Cynhadledd y Genhedlaeth Nesaf yng Nghynhadledd Amaethyddol y Gymanwlad (yr28ain)  yn Edmonton,  Alberta Canada, yn ddiweddarach eleni. 

Dywed Aled, sy’n byw gyda’i wraig Lisa yn Llandeilo, mai ei brif ddiddordebau yw cadw’n heini a rhedeg – mae'n rhedeg yn gyson mewn sawl marathon – mae'n canu gyda grŵp o fechgyn o’r enw ‘Ar Wasgar’ sy’n gyn-aelodau o’r CFfI er mwyn pleser. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi a mentora ymgeiswyr eleni, a byddaf yn gwneud popeth a allaf i helpu i’w hybu a’u harwain wrth iddynt gynllunio llwybrau eu gyrfaoedd yn y dyfodol. 

“Yr unigolion yma yw dyfodol ein diwydiant, bydd paratoi’n dda’n allweddol i’w ffyniant yn y dyfodol ac i ffyniant ffermio yng Nghymru.” 

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Mae cyfle i wneud cais am dair rhaglen Academi Amaeth 2018 (Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig a  Rhaglen yr Ifanc hyd at hanner nos ddydd Gwener, 30 Mawrth. Am wybodaeth bellach ac i lawrlwytho ffurflenni cais cliciwch yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn helpu fferm deuluol i lunio busnes sy’n ‘addas at y dyfodol’
29 Ebrill 2024 Mae awydd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd yn
Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm