25 Ionawr 2022
Dr David Cutress and Dr Gwen Rees: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Mae rhywogaethau Cryptosporidiwm yn peri risg sylweddol i iechyd a lles pobl ac anifeiliaid
- Gall y parasitiaid protosoaidd hyn drosglwyddo o anifail i anifail ac o anifail i bobl gan ddibynnu ar y rhywogaeth sy’n bresennol
- Mae nifer o strategaethau arfer dda a bioddiogelwch yn bodoli i reoli’r haint a throsglwyddiad cryptosporidiwm a chludwyr clefydau eraill ar yr un pryd
- Dylid ystyried opsiynau rheoli slyri’n ofalus er mwyn atal ail-heintio, trosglwyddo a halogi’r amgylchedd gyda chryptosporidiwm
Trosolwg
Mae rhywogaethau Cryptosporidiwm yn barasitiaid protosoaidd sy’n gallu heintio llwybrau gastroberfeddol nifer o rywogaethau, gan gynnwys gwartheg, moch, defaid, geifr, ieir, ceffylau a cheirw. Mae nifer o rywogaethau cryptosporidiwm hefyd yn gallu heintio pobl (milhaint). Y prif symptom clinigol a achosir gan gryptosporidiwm yw dolur rhydd, a dyma’r prif ffactor sy’n achosi haint gastroberfeddol mewn pobl yn y DU. Mae Cryptosporidiwm yn cael ei drosglwyddo ar ffurf öosystau trwy garthion y gwesteiwr sydd wedi’i heintio, a gall aros ynghwsg am oddeutu blwyddyn mewn amodau ffafriol sy’n oer a thywyll neu mewn dŵr o ganlyniad i’w cregyn allanol gwydn. Gall rheoli’r öosystau hyn gyda’u cregyn gwydn fod yn anodd gan eu bod yn gallu gwrthsefyll nifer o’r diheintyddion fferm cyffredin a’r triniaethau clorineiddio a ddefnyddir. Gall dos o’r haint fod cyn lleied â 10 öosyst mewn rhai rhywogaethau. Ymysg pobl, gall difrifoldeb yr haint amrywio’n seiliedig ar oedran, statws imiwnedd, a phroblemau iechyd eraill, gyda’r nifer uchaf o achosion ymysg plant dan 5 oed. Mae pobl sy’n gweithio’n agos gydag anifeiliaid fferm hefyd mewn mwy o berygl o gael eu heintio, megis ffermwyr, milfeddygon a gweithwyr lladd-dy.
Gall cryptosporidiosis arwain at effeithiau sylweddol o ran iechyd anifeiliaid ac effeithiau economaidd ar bob math o ffermio da byw. Yn ogystal, digwyddodd un o’r achosion mwyaf sylweddol o cryptospiridiosis i effeithio ar bobl yn ddiweddar yn Iwerddon yn 2007 gan arwain at effaith economaidd sy’n gyfwerth â ~£19.5 miliwn yn arian heddiw (o ystyried chwyddiant). Dros bum mis yr achos hwn, cafodd 242 o achosion eu cadarnhau a’u cysylltu gyda dŵr halogedig. Arweiniodd hyn at orfod gwneud buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau trin dŵr. O ystyried effaith y clefyd hwn ar iechyd pobl ac anifeiliaid a’r costau cysylltiedig, mae’n dangos yn glir y dylai rheoli cryptosporidiwm fod yn flaenoriaeth i’r sector amaeth.
Darlun wedi’i addasu o bapur sefydliad ymchwil Moredun <https://veterinaryresearch.biomedcentral.com/articles/10.1186/s13567-01…; (2017)
Effeithiau ar dda byw
Gall Cryptosporidiosis achosi colledion o ran cynhyrchiant a cholledion economaidd ymysg anifeiliaid fferm. O ystyried bod yr allbynnau uchaf eu gwerth o ran cynhyrchiant da byw yn y DU yn deillio o wartheg (trwy laeth a chig) ac yna dofednod, moch ac yna defaid, mae cryptosporidiosis felly’n ystyriaeth bwysig. Mewn da byw, mae heintiau cryptosporidiwm i’w gweld amlaf ymysg anifeiliaid ifanc sy’n gallu dangos arwyddion cryptosporidiosis yn fuan ar ôl genedigaeth, gyda chyfnodau allweddol ar gyfer yr haint yn digwydd rhwng 1-3 wythnos oed. Mae nifer o wahanol rywogaethau cryptosporidiwm yn bodoli gyda gwahanol lefelau o bresenoldeb mewn gwahanol fathau o dda byw a phobl, a gall y rhain effeithio ar wahanol ardaloedd o’r corff (mae cryptosporidiwm andersoni yn effeithio'r abomaswm mewn gwartheg er enghraifft, ac mae nifer o rywogaethau eraill sy’n effeithio ar wartheg yn effeithio ar y coluddyn bach).
Ymysg gwartheg a defaid fel ei gilydd, y brif rywogaeth sy’n achosi clefydau yw C. parvum yn y DU gydag astudiaethau blaenorol yn dangos bod presenoldeb haint ymysg lloi cyn diddyfnu yn y DU yn amrywio o 28 i 80%. Mewn defaid, mae astudiaethau wedi dangos presenoldeb C. parvum rhwng 6 - 6.4% o famogiaid llawr gwlad a 9 - 12.9% o ŵyn heb eu diddyfnu.
Ymysg moch, mae presenoldeb rhywogaethau cryptosporidiwm yn amrywio’n sylweddol gydag amcangyfrifon yn ymestyn rhwng 1-100%. Yn Sweden, mae cynhyrchu moch mewn modd sy’n gwella llesiant anifeiliaid yn golygu newidiadau’n ymwneud â lleihau canran y lloriau delltog a gwneud systemau cadw dan do yn arferol. Mae astudiaethau o fewn y systemau hyn wedi darganfod presenoldeb posibl o 25% gyda lleihad yn y lloriau delltog a’r systemau gwasarn a ddefnyddir o bosibl yn cynyddu baich yr haint. O’i gymharu â da byw eraill, nodir fod moch yn dioddef llai o effeithiau cynhyrchiant yn gysylltiedig â haint clinigol ac is-glinigol. Gallai hyn olygu y dylai cymhelliant ar gyfer rheoli clefydau mewn systemau cynhyrchu moch ymwneud mwy ag egwyddorion bioddiogelwch cyffredinol (er mwyn lleihau trosglwyddiad milheintiol neu drosglwyddiad i anifeiliaid eraill mewn amgylcheddau gyda rhywogaethau cymysg) a diogelu amgylcheddol yn hytrach nag effeithiau economaidd ar y sector ei hun.
O fewn systemau ffermio dofednod, nodwyd bod potensial i nifer o rywogaethau gael eu heintio gan rywogaethau cryptosporidiwm gan gynnwys hwyaid, tyrcwn, ieir, gwyddau, soflieir, peunod a ffesantod. Mae gwahanol rywogaethau o gryptosporidiwm wedi cael eu dangos i heintio gwahanol rywogaethau dofednod gyda gwahanol ganlyniadau, gyda rhai’n arwain at heintiau anadlol, rhai’n achosi heintiau perfeddol ac eraill nad oeddent yn dangos unrhyw arwyddion clinigol nodedig. Nodwyd fod heintiau anadlol yn gysylltiedig â’r lefelau marwoldeb uchaf (hyd at 90% mewn soflieir ifanc er enghraifft) gyda thystiolaeth bod cryptosporidosis yn gyffredinol yn arwain at effeithiau negyddol ar dwf a graddio cig i’w werthu. Gyda phresenoldeb ymysg heidiau’n amrywio rhwng 22-50% ar draws detholiad o astudiaethau byd-eang, mae’n debygol bod heintiadau’n arwain at effeithiau economaidd sylweddol ledled y byd.
Trosglwyddiad a pherygl milheintiol
Mae cryptosporidiwm fel arfer yn trosglwyddo trwy garthion. Gall hyn ddigwydd naill ai’n uniongyrchol (trwy gyswllt gyda charthion) neu’n anuniongyrchol trwy fwyta neu yfed o gyflenwadau bwyd neu ddŵr halogedig. Mae astudiaethau yng Nghymru a Lloegr wedi ceisio ymchwilio i heintiadau ymysg ŵyn ifanc sy’n gysylltiedig gydag adroddiadau o heintiadau dynol gyda C. parvum ac maent wedi dod i’r casgliad bod ’atyniadau fferm megis ffermydd lle gall pobl gael cyswllt gyda’r anifeiliaid yn peri risg uchel i bobl. Mae astudiaethau eraill wedi dangos bod y perygl o heintio’r boblogaeth ddynol yn uchel iawn o loi ifanc ond mae’r risg o drosglwyddiad o gnofilod, adar, gwastraff fferm a phridd hefyd yn uchel. Ceir tystiolaeth bod llo unigol yn gallu bwrw dros 100 miliwn öosyst yn ystod haint. O ystyried y gall cyn lleied â 10 öosyst arwain at haint, mae hynny’n golygu bod potensial i un llo heintiedig i heintio hyd at 10 miliwn o bobl neu anifeiliaid.
Yn ddiweddar, mae dadansoddiad genoteip wedi galluogi’r broses o olrhain heintiadau penodol yng Nghymru a Lloegr o 2009-2017 o amrywiaeth o ffynonellau ac is-deipiau, ac mae’r ymchwil wedi darganfod fod 46% o achosion cryptosporidiwm mewn pobl wedi deillio o ddŵr hamdden nad yw’n gysylltiedig â da byw, ac roedd 42% o’r achosion weddi digwydd yn dilyn cyswllt gydag anifeiliaid. Dim ond 4% ac 1% o’r heintiadau a oedd yn gysylltiedig gyda chyswllt amgylcheddol a halogiad cyflenwad dŵr yn y drefn honno, gan awgrymu bod rheoliadau diogelu a monitro dŵr a gyflwynwyd ym 1999 wedi bod yn effeithiol wrth liniaru’r risg o ddyfroedd halogedig. Er hyn, mae’n dal i fod yn glir bod da byw’n peri risg sylweddol o ran heintiad dynol, ac felly i barhad cylchoedd heintio cryptosporidiwm yn gyffredinol.
Er bod heintiad amgylcheddol yn llai o risg o ran trosglwyddiad i bobl, mae’n dal i fod yn risg o ran trosglwyddiad o anifail i anifail. Mae da byw’n rhyddhau öosystau yn eu carthion sydd wedyn yn cael eu cynnwys mewn tail a slyri sy’n cael ei wasgaru ar dir amaethyddol fel gwrteithiau. Gall y broses hon achosi risg uchel o haint yn gysylltiedig â phriddoedd a phorfeydd (i anifeiliaid sy’n pori a bywyd gwyllt), a thrwy gyfuno hyn gyda pheidio ag amseru gwasgaru slyri’n effeithiol a thywydd gwlyb, gallai arwain at ddŵr ffo yn llifo ar y wyneb a halogi’r system ddŵr i lawr yr afon.
Er bod da byw’n ffynhonnell sylweddol o halogiad amgylcheddol gyda rhywogaethau Cryptosporidiwm, mae’n bosibl y gallai nifer o rywogaethau bywyd gwyllt eraill chwarae rhan allweddol. Mae astudiaethau wedi awgrymu bod poblogaethau ceirw gwyllt a gwyddau mewn ardaloedd lle y cafodd haint cryptosporidiwm ei ganfod yn y dŵr yn flaenorol, gan awgrymu effeithiau amgen neu ganolradd yn ymwneud ag anifeiliaid gwyllt. Gall pryfed hefyd gludo cryptosporidiwm yn allanol ac yn fewnol a allai hefyd effeithio ar y trosglwyddiad rhwng rhywogaethau.
Diagnosis
Un o’r agweddau allweddol er mwyn deal a rheoli perygl haint yw’r gallu i wneud diagnosis cywir o’r haint yn y lle cyntaf. Mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei wneud gyda chymorth arbenigwyr milfeddygol. Er y gellid hefyd arsylwi symptomau clinigol, yn aml iawn, nid yw’r rhain yn benodol i gryptosporidiwm yn unig, ac o ganlyniad, dylid cynnal profion diagnostig pendant. Yn gyffredinol, gellir perfformio diagnosis trwy ddefnyddio microsgopeg ar garthion anifeiliaid a staenio penodol, ond mae angen anfon samplau i’r labordy er mwyn gallu gwneud hyn. Mae profion sy’n seiliedig ar lif unffordd sy’n cael eu gwneud yn y man gofal ar y fferm yn llai sensitif ond yn llawer cynt, a gall fod yn fuddiol defnyddio’r rhain yn rheolaidd er mwyn rheoli’r risg o heintiadau ar draws ffermydd. Er mwyn pennu’r rhywogaethau cryptosporidiwm penodol sy’n bresennol, mae amrywiaeth o dechnegau PCR ar gael ar ôl echdynnu DNA, ond eto, mae angen profion labordy er mwyn gwneud hyn.
Llwybrau trosglwyddo Cryptosporidiwm. Allan o Innes et al., (2020)
Strategaethau rheoli a thrin cyffredinol
Yn gyffredinol, bydd bioddiogelwch a gwelliannau ac arferion gorau o ran hylendid hefyd yn lleihau risg cryptosporidiosis mewn da byw. Mae cynlluniau iechyd y fuches ar ddiadell sy’n cael eu creu gan filfeddygon yn un o’r adnoddau pwysicaf er mwyn rheoli cryptosporidiosis yn ogystal â nifer o glefydau eraill, ynghyd â gwella llesiant yn gyffredinol. Ystyrir mai da byw ifanc yw un o ffynonellau allweddol yr haint gan eu bod yn bwrw nifer fawr o öosystau mewn carthion. Felly, mae atal heintiadau yn ystod genedigaeth a’r cyfnod dilynol yn hanfodol. Mae cylch bywyd y parasit yn ei alluogi i luosogi’n sydyn gan fod lloi sydd wedi’u heintio’n bwrw miliynau o barasitiaid i’r amgylchedd. Gall hyn arwain at lefelau uchel iawn o öosystau yn yr amgylchedd sy’n ffynhonnell ar gyfer heintio’r anifeiliaid ifanc sydd yn yr amgylchedd hwnnw. Gan fod y parasit yn goroesi’n well yn yr amgylchedd ac nad yw’n cael ei ladd gan y rhan fwyaf o ddiheintyddion safonol, glanhau gyda stêm yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiheintio. Gall cymysgu lloi waethygu’r clefyd, gyda lloi iau’n cael eu heintio, felly cynghorir y dylid glanhau siediau’n rheolaidd gyda stêm ac osgoi cymysgu grwpiau oedran lle bo hynny’n bosibl. Mae hylendid o fewn adeiladau fferm, yn enwedig llociau genedigaeth, yn hanfodol ynghyd â gwahanu anifeiliaid oddi wrth ffynonellau halogiad posibl. Gall yr ystyriaethau syml hyn helpu i leihau effaith cryptosporidiwm ar ffermydd. Mae hylendid o amgylch ffynonellau bwyd a dŵr hefyd yn hanfodol, er mwyn gwaredu’r rhain fel risg haint posibl ac fel cronfa ar gyfer y öosystau gyda chregyn gwydn. Ar hyn o bryd, mae triniaethau trwyddedig ar gyfer cryptosporidiwm yn cynnwys halfuginone ar gyfer gwartheg sy’n lleihau symptomau a nifer yr öosystau sy’n cael eu bwrw, ond nid yw’n effeithiol oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio’n fuan ar ôl i’r symptomau ddechrau, ac yn gyffredinol, dim ond ar gyfer lefelau uchel o achosion o fewn buches y mae’n cael ei argymell. Wrth ystyried cynnyrch diheintio, mae nifer o’r cynhyrchion a ddefnyddir yn gyffredin yn aneffeithiol ac mae ymchwil wedi amlygu mai’r rhai sy’n cynnwys hydrogen perocsid sy’n cael yr effaith fwyaf ar ladd öosystau, tra bod gwaith ymchwil arall wedi dangos buddion yn ymwneud â diheintio corlannau gyda chalch hydredig At hynny, gall glanhau gyda stêm gyrraedd y tymereddau angenrheidiol i wneud öosystau’n anweithredol, felly dylid ystyried gwneud hyn, yn enwedig yn ystod cyfnodau ŵyna/lloia. Pan mae’n hysbys bod anifeiliaid wedi’u heintio, neu os amheuir eu bod wedi’u heintio, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu gwahanu am fwy o amser nag sydd angen i’r symptomau ddod i ben (fel arfer hyd at bythefnos ar ôl y symptomau), gan eu bod yn dal i fwrw öosystau yn ystod y cyfnod asymptomatig hwn. Oherwydd yr effaith gynyddol ar anifeiliaid gyda diffygion yn eu systemau imiwnedd, un agwedd allweddol o ran rheoli cryptosporidiwm yw sicrhau bod imiwnedd yn cael ei ddiogelu’n ddigonol a bod yr anifail yn derbyn digon o faeth trwy reoli colostrwm yn gynnar. Mae rhai astudiaethau hyd yn oed wedi dangos bod anifeiliaid sydd wedi cael eu himiwneiddio gyda phroteinau cryptosporidiwm yn gallu cynhyrchu colostrwm gor imiwn a allai weithredu fel strategaeth reolaeth hyfyw yn y dyfodol. Mae’n werth nodi, mae prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop yn ceisio amlygu’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chryptosporidiwm a bioddiogelwch, halogiad dŵr, hylendid cyffredinol ac effaith maetholion ar lefelau heintio a’r risgiau mewn defaid ac ŵyn i ffermwyr ledled Cymru.
Strategaethau trin a rheoli newydd
Yn ogystal â sicrhau nad yw slyri’n cael ei wasgaru yn ystod cyfnodau gwlyb, er mwyn osgoi unrhyw ddŵr ffo posibl a halogi’r amgylchedd trwy slyri sy’n cynnwys öosystau cryptosporidiwm, mae astudiaethau wedi asesu dulliau o leihau goroesiad öosystau o fewn y slyri ei hun. Mae compostio’n gywir er mwyn sicrhau gwres uwch na 60°C a gwerthoedd pH isel yn helpu i wneud öosystau’n anweithredol gan wneud treulio anaerobig yn opsiwn addawol. Mae un astudiaeth wedi dod i’r casgliad bod ychwanegu lefelau isel o amonia at slyri yn gallu lleihau goroesiad bacteria andwyol a dichonoldeb cryptosporidiwm, er y gallai hyn arwain at oblygiadau negyddol o ran effaith amgylcheddol yn yr hirdymor. Mae astudiaethau eraill wedi nodi y gallai sgil-gynhyrchion o’r diwydiant bragu gynnig gweithgaredd gwrth-gryptosporidiol a allai gael eu hymgorffori mewn slyri neu’n uniongyrchol i mewn i borthiant anifeiliaid sydd mewn perygl. Mae’n ddiddorol nodi bod stribedi byffro torlannol hefyd wedi cael eu dangos i chwarae rôl bosibl mewn arafu neu atal trosglwyddiad öosystau (a phathogenau eraill) i ffynonellau dŵr yn ogystal â’r nifer o effeithiau amgylcheddol buddiol eraill maen nhw’n eu cynnig.
Effeithiau economaidd
Mae nifer o astudiaethau’n nodi’r potensial ar gyfer baich economaidd sylweddol yn gysylltiedig â’r clefyd, ymyrraeth filfeddygol a cholledion cynhyrchiant sy’n gysylltiedig â cryptosporidiosis mewn da byw. Fodd bynnag, nid oes gwaith ymchwil cywir a manwl ar gael yn eang yn edrych ar oblygiadau cost yn ymwneud â’r clefyd er y gallai rhywfaint o ddata sydd ar y gweill gan Sefydliad Ymchwil Moredun daflu rhywfaint o oleuni ar hyn ymhen amser. Mae gwaith ymchwil blaenorol yn nodi er nad marwoldeb yw’r baich economaidd mwyaf yn ymwneud â rhywogaethau Cryptosporidiwm o safbwynt gwartheg, gwelwyd fod cyfraddau marwolaeth yn ymwneud â syndrom dolur rhydd newydd-enedigol mewn lloi (sy’n gysylltiedig yn agos gyda haint rhywogaethau cryptosporidiwm) rhwng 5-10%. Gan ddefnyddio ffigyrau presenoldeb a marwoldeb, gellir awgrymu y gallai effaith marwoldeb yn unig o ganlyniad i haint cryptosporidiwm arwain at leihad o rhwng 28,500 - 163,000 mewn niferoedd gwartheg uwchraddol bob blwyddyn. Mae’r colledion hyn mewn cig yn seiliedig ar brisiau bustych ar hyn o bryd a phwysau carcas cyfartalog a geir yn y DU yn cyfateb â cholledion economaidd o rhwng 2-9% o gyfanswm y DU O £2.8 biliwn yn y gadwyn gyflenwi cig eidion flynyddol
O ystyried ffigyrau cig oen yn y DU yn 2020 a defnyddio’r cyfraddau marwoldeb rhwng 30-50% a awgrymir ar gyfer cryptosporidiwm mewn geifr a lloi (gan nad oes digon o astudiaethau o lefelau marwoldeb mewn defaid), mae hyn yn cyfateb â marwolaeth posibl rhwng 207,900 - 496,650 o ŵyn y flwyddyn gyda gwerth economaidd o ~£40 - £100 miliwn o bunnoedd os byddai’r holl ŵyn yn cyrraedd pwysau o 41.5kg ar brisiau cyfredol y DU. Hyd yn oed os nad yw cyfraddau marwoldeb mor uchel ar gyfer defaid (sy'n ddadleuol gan fod gwaith ymchwil blaenorol wedi nodi bod marwoldeb yn dueddol o fod yn uwch ymysg ŵyn na lloi), ceir tystiolaeth helaeth bod haint cryptosporidiwm yn gallu arwain at gostau rheolaeth cysylltiedig mewn systemau magu ŵyn, ynghyd ag effeithiau hirdymor ar gynnydd pwysau a chynhyrchiant ŵyn a fydd oll yn ffactor o ran baich economaidd.
Crynodeb
Mae heintiau Cryptosporidiwm yn peri risg uchel i iechyd anifeiliaid a phobl ac maent yn debygol o fod yn achosi effeithiau economaidd sylweddol ar nifer o sectorau da byw. Er mwyn lleihau dioddefaint posibl i unrhyw dda byw a chynyddu potensial economaidd ar ffermydd, dylid ystyried nifer o ddulliau rheoli:
- Rheoli hylendid yn dda, yn enwedig yn ystod genedigaeth ac anifeiliaid ifanc
- Gwella bioddiogelwch – gan gynnwys ffensys diogel i osgoi’r risg o haint gan anifeiliaid gwyllt a’r risg o haint o ffynonellau dŵr
- Hylendid da dan do - gan gynnwys ffynonellau dŵr a bwyd, ystyriaeth o’r cynnyrch diheintio a ddefnyddir a glanhau gyda stêm
- Rheoli colostrwm yn effeithiol
- Gweithredu gweithdrefnau cwarantîn a sicrhau bod cyfleusterau ar gael i wneud hyn
- Gwasgaru slyri yn y ffordd fwyaf effeithiol – defnyddio rhagolygon y tywydd a chanllawiau cyfnodau gwasgaru
Mewn achosion lle mae ffermydd ar agor i’r cyhoedd, ac yn enwedig i blant, mae'n hanfodol bod yr uchod yn cael eu hystyried, a bod bioddiogelwch cynyddol yn cael ei ystyried o safbwynt golchi dwylo ac osgoi rhyngweithio rhwng pobl ac anifeiliaid ifanc yn benodol.
Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk