28 Awst 2019
Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
Negeseuon i’w cofio:
- Mae stribedi byffro torlannol yn llecynnau ble ceir llystyfiant parhaol neu led-barhaol ar hyd torlannau systemau dŵr croyw, gan weithredu fel rhwystr rhwng caeau a chyrsiau dŵr cyfagos a lleihau effaith llygredd amaethyddol.
- Gall sefydlu stribedi byffro gynyddu’r gorchudd coed neu’r gorchudd llystyfiant coediog ar ffermydd ar yr un pryd, rhywbeth sy’n ofynnol i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, a lleihau’r posibilrwydd o lygredd amaethyddol.
- Gellir defnyddio stribedi byffro i dyfu cynhyrchion amgen megis cnydau bioynni neu rywogaethau sy’n cynhyrchu ffrwythau.
Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae effaith llygredd o weithgarwch amaethyddol ar ecosystemau dŵr croyw wedi cael ei gydnabod fel perygl difrifol o ran bioamrywiaeth dŵr croyw ac ansawdd cronfeydd dŵr wyneb a dŵr daear. Un her allweddol sy’n wynebu amaethyddiaeth yw sut i leihau effaith llygredd maetholion a gaiff ei gynhyrchu gan weithgarwch amaethyddol, yn enwedig yn achos llygredd o darddle amhenodol neu lygredd gwasgaredig. Dan amgylchiadau o’r fath, gall fod yn anodd canfod o ble yn union bydd y llygredd yn tarddu, ac felly gall fod yn anodd ei reoli. Gan amlaf, bydd llygredd gwasgaredig yn deillio o gae neu gyfres o gaeau ar hyd coridor afon, sy’n gwneud hynny’n fater sy’n effeithio ar y dirwedd gyfan.
Mae stribedi byffro torlannol yn goridorau o lystyfiant ar hyd glannau systemau dŵr croyw megis afonydd a nentydd, ac maent yn gweithredu fel rhwystr rhwng systemau caeau a systemau dŵr croyw. Mae stribedi byffro yn cynnwys llystyfiant yn elfen gyffredin o strategaethau sy’n ceisio lleihau cyfanswm y gwaddolion, y maetholion a’r plaladdwyr a gaiff eu cludo i mewn i ecosystemau dŵr croyw. Gall stribedi byffro leihau’r posibilrwydd y caiff maetholion eu cludo i mewn i systemau trwy ryng-gipio uniongyrchol, casglu a defnyddio maetholion, neu trwy gynnal amgylchiadau amgylcheddol sy’n atal llygredd trwy gyfrwng gweddnewidiadau cemegol megis dadnitreiddiad. Gall stribedi byffro llystyfiant coediog mawr gynorthwyo hefyd i sefydlogi glannau afonydd, trwy leihau’r potensial ar gyfer erydiad gan afonydd yn uniongyrchol a thrwy gyfyngu ar fynediad gan dda byw, sy’n lleihau’r difrod a wneir trwy sathru.
Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, caiff lled y stribedi byffro ei bennu’n fympwyol o ganlyniad i beth sy’n dderbyniol o safbwynt gwleidyddol, neu ar sail yr hyn a dybir sy’n dderbyniol i weithwyr proffesiynol amaethyddiaeth, er mwyn osgoi gwrthdaro neu amharodrwydd i sefydlu systemau o’r fath. Mae’r dull hwn yn ddiffygiol iawn a'r hyn sy’n deillio o hynny yw system sy’n aneffeithiol ac yn bodloni neb.
Buddion sefydlu stribedi byffro
Mae’r effeithiau buddiol sy’n gysylltiedig â stribedi byffro torlannol yn amrywiol ac yn ddadleuol. Gall lefel y buddion sy’n debygol o ddeillio o unrhyw stribedi byffro a gaiff eu plannu ddibynnu ar nifer o amrywiolion yn cynnwys lled y stribed, y math o bridd a’i nodweddion, a’r math o lystyfiant a blannir. Yn ychwanegol, gallai’r cyfanswm o faetholion a’r math o faetholion sy’n cael eu rhyng-gipio effeithio ar effeithlonedd.
Profwyd bod stribedi byffro yn hynod o effeithiol o ran lleihau cyfanswm y gwaddodion sy’n mynd i mewn i ecosystemau dyfrol, a gallant leihau cyfanswm y maetholion sy’n cael eu trosglwyddo pan fydd maetholion wedi glynu wrth ronynnau o bridd. Gall presenoldeb stribedi byffro gynorthwyo hefyd i gynnal ansawdd cynefinoedd ecosystemau dyfrol. Profwyd bod tymheredd dŵr yn is ble’r oedd llystyfiant stribedi byffro yn bresennol, yn enwedig ble’r oedd y gorchudd llystyfiant ar hyd glan yr afon yn ddi-dor ac yn ddigon uchel i fwrw cysgod. Profwyd bod cysylltiad rhwng tymheredd dŵr is a digonedd o rywogaethau pysgod penodol, yn enwedig salmonidau.
Gall stribedi byffro gynnwys gwahanol fathau o lystyfiant, yn amrywio o laswellt neu blanhigion llysieuol i lystyfiant coediog mawr, megis coed. Mae’r rhesymau dros ddewis rhwng mathau o lystyfiant yn amrywiol,
ond yn y bôn, y ffactor allweddol yw cyfanswm y gwaith rheoli sydd ei angen mewn cymhariaeth â defnydd. Er enghraifft, gorchudd coed yw’r mwyaf sefydlog yn y tymor hir a dyma sy’n gofyn am y cyfanswm lleiaf o reoli gweithredol, ond gallai llystyfiant llysieuol neu laswelltog gael ei gynnwys hefyd mewn cylchdro rheoli (h.y. gwair neu silwair sydd ddim yn cael ei gynaeafu’n aml).
Yng Nghymru, ble mae mwyafrif y tir amaethyddol yn borfa, gallai stribedi byffro yn cynnwys glaswellt neu blanhigion llysieuol fod yn haws i’w sefydlu nag unrhyw beth arall, oherwydd yr unig beth fyddai’n ofynnol fyddai cyfyngu ar fynediad i dda byw ar hyd glannau afonydd (gan sicrhau bod lled y stribedi yn briodol) a chyfyngiadau tebyg mewn mannau ble caiff gwrtaith ei chwalu. Mae datblygu stribedi byffro yn cynnig cyfle hefyd i arallgyfeirio’r cnydau a dyfir gan ffermydd, trwy dyfu deunyddiau ar gyfer biodanwydd (coed, miscanthus) neu rywogaethau sy’n cynhyrchu ffrwythau.
Lled a dyluniad stribedi byffro
Gall stribedi byffro sy’n cynnwys coed neu lystyfiant llysieuol fod yn effeithiol o ran clirio nitrogen (N), ond mae rhywfaint o amryfusedd ynghylch pa fath o lystyfiant sy’n well yn gyson. Dangosodd un astudiaeth bod stribedi byffro sy’n cynnwys coed yn perfformio’n well yn ystod y gaeaf na stribedi byffro sy’n cynnwys glaswellt, yn enwedig o ran dargadw nitradau, ond nid yw’r effaith hwn i’w weld yn gyson ym mhob astudiaeth. Fe wnaeth yr astudiaeth benodol hon awgrymu bod y budd yn debygol o ddeillio o wella cymuned ficrobau’r pridd oherwydd presenoldeb y coed, trwy gyflwyno carbon i fiomàs microbau’r pridd, ac fe wnaeth hynny ddylanwadu ar ddynameg N yn y pridd. Awgrymwyd mai system gymysg yw’r fath orau, ac mae hynny’n defnyddio stribed cul wrth yr ymyl uwchdirol i ddal gronynnau mewn daliad a ffosfforws (P), wedi’i ddilyn gan barth lletach o fiomas coediog i ddal N. Gallai system tair haen, yn defnyddio stribedi o laswellt, coed ifanc neu lwyni a choed â chanopi uchel gynnig hyd yn oed mwy o botensial oherwydd gall y ddau barth llystyfiant cyntaf gael eu cynaeafu er mwyn cynhyrchu bioynni, a llwyddo i gynnal parth byffro digonol ar yr un pryd.
Gellir disgwyl y bydd effeithiolrwydd stribedi byffro yn ddibynnol ar led y stribedi a nodweddion penodol safleoedd, yn cynnwys hydroleg. Nid oes unrhyw isafswn o ran lled stribedi byffro wedi cael eu nodi y gellir ei ddefnyddio yn unrhyw le i glirio gwaddodion, P neu N, a nodwyd cryn dipyn o ansicrwydd yn achos pob un. Yr hyn sy’n amwyrio yw lefel yr effeithlonedd. Er enghraifft, dangosodd un adolygiad o'r dystiolaeth bod lefel yr effeithlonrwydd o ran clirio gwaddodion yn amrywio o 30% i 90% yn achos stribedi byffro un medr o led, rhwng 55% a 90% yn achos stribedi byffrod tair medr o led, a rhwng 68% a 95% yn achos stribedi byffro chwe medr o led. Yn achos clirio P, roedd effeithlonrwydd stribedi byffro â lled o rhwng un medr a 3 medr rhwng 30% ac 85%, ac roedd effeithlonrwydd stribedi byffro â lled o 15 medr rhwng 30% ac 85%, Yn achos N, gall stribedi byffro â lled o 5 medr glirio oddeutu 50%, ac mae hynny’n cynyddu i 75% yn achos stribedi sy’n fwy na 25 medr o led. Mae lefel yr amrywiad mewn effeithlonrwydd yn dangos y gwahaniaeth a allai fod yn bresennol ar draws safleoedd gwahanol. Felly, yn achos yr astudiaethau a ystyrir yn y dadansoddiad hwn, er mwyn sicrhau bod eu heffeithlonrwydd yn hollgynhwysfawr, beth bynnag for’r math o lygrydd neu leoliad, mae’n debyg mai stribedi byffro llystyfiant sydd â lled o dros 30 medr sydd â’r potensial mwyaf.
Rheoli Tir yn y Dyfodol
Gall maint y stribedi byffro sy’n angenrheidiol i fod yn effeithiol fod yn ddadleuol, a bron iawn yn annerbyniol yn achos rhai busnesau ffermio. Serch hynny, mae angen cynyddol yn bodoli i gyfyngu ar gyfanswm y maetholion sy’n cael eu trosglwyddo o systemau ffermydd i systemau dŵr croyw. Mae’n hollol debygol y bydd yr angen i gyfyngu ar effaith yn cael ei ystyried yn bwysicach na’r angen i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol mewn mannau ger systemau dŵr croyw. Yn ychwanegol, o dan ddeddfwriaeth parthau peryglon nitradau yn y dyfodol a’r cosbau posibl sy’n gysylltiedig â methu cyfathrebu, efallai y bydd neilltuo tir ger systemau dŵr croyw, â’r arwynebedd sy’n ofynnol i weithredu fel parth byffro digonol, yn ddewis mwy cost effeithiol.
Gan gofio hyn, mae’n ddoeth cychwyn ystyried y dull hwn o reoli tir fel cyfle, yn hytrach na chosb neu anghyfleuster. Disgwylir ar hyn o bryd y bydd cymorthdaliadau amaethyddol yng Nghymru a’r DU yn debygol o newid i system sy’n rhoi gwerth ar gyflenwi ‘nwyddau cyhoeddus’, sef gwasanaethau a ddarperir gan amaethyddiaeth sy’n fuddiol i’r gymdeithas. Yn y cyd-destun hwn, mae’n debyg mai’r elfennau a fydd yn gwneud cyfraniad allweddol fydd darparu bioamrywiaeth neu dal a storio carbon. Un dull o gynyddu’r ddarpariaeth hon ar ffermydd yw cynyddu presenoldeb coed a chyfleoedd i sefydlu cynefinoedd. Yn y system reoli hon, mae stribedi byffro torlannol yn rhywbeth buddiol i bawb. Gallant leihau effaith llygredd amaethyddol (a’r oblygiadau posibl yn sgil hyn i fusnesau ffermydd), ac ar yr un pryd, cynyddu cyfanswm y biomàs coediog sydd ar gael i ddal carbon a darparu cynefinoedd er lles bioamrywiaeth.
Yn ychwanegol, bydd systemau sy’n defnyddio’r biomas coediog hwn i gynhyrchu tanwydd cynaliadwy, i’w werthu neu i’w ddefnyddio gan systemau Gwres a Phŵer Cyfunol ar ffermydd, cynhyrchu pren, neu’n mynd ati i blannu rhywogaethau coed sy’n cynhyrchu ffrwythau er mwyn cynnig cnydau amgen, yn cynnig cyfle neu fanteision ychwanegol i fusnesau ffermydd.
Crynodeb
Bydd sefydlu stribedi byffro cul (<3 metr) hyd yn oed ar glannau cyrsiau dŵr mewn tirweddau amaethyddol yn lleihau rhwyfaint o effaith llygredd amaethyddol ac yn ychwanegu buddion o ran sefydlogrwydd glannau afonydd a dal carbon mewn biomàs coediog, ble caiff coed eu defnyddio i fyffro. Fodd bynnag, yn gyffredinol, i leihau’r effaith hwn yn sylweddol a’i ddiddymu’n llwyr neu bron yn llwyr, mae angen stribedi byffro sydd dryn gipyn yn lletach. Mae’r dystiolaeth sy’n cael ei hadolygu yma yn awgrymu y byddai anelu at sefydlu stribedi byffro â lled o tua 30 medr yn strategaeth effeithiol yn y rhan fwyaf o amgylchiadau.
Er y gallai hyn olygu y byddai’n rhaid i ffermwyr beidio defnyddio cyfran sylweddol o dir i gynhyrchu, gallai gwneud hyn fod yn ofynnol er mwyn lleihau effaith amaethyddiaeth ar ecosystemau dŵr croyw, sy’n destun pryder cynyddol. Yn ychwanegol, gallai gweithredu yn y fath fodd gael ei ystyried yn gyfle i gynyddu biomàs coediog a gorchudd coed yn systemau ffermio Cymru, ble mae’r cyfraddau gorchudd coed yn isel ar hyn o bryd, a gallai sefydlu cyfle i gynhyrchu cnydau amgen, megis tyfu biomàs i gyflenwi’r marchnadoedd tanwydd solet neu fiodanwydd/ Yn y dyfodol, os bydd pwyslais cymorthdaliadau’r llywodraeth yn newid i system o daliadau sy’n seiliedig ar gyflenwi nwyddau cyhoeddus, gallai’r system rheoli hon gynnig cyfle i gynyddu gorchudd coed ar ffermydd Cymru, ac ar yr un pryd, gallai leihau’r potensial am lygredd. Mae camau gweithredu o’r fath yn debygol o fod â gwerth yng nghyd-destun cymorthdaliadau.
Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.