Oes rhywbeth yn y dŵr? Canfod a mynd i’r afael â Chryptosporidiwm mewn defaid.

Grŵp o barasitiaid sy’n heintio llwybrau gastroberfeddol nifer o rywogaethau yw cryptosporidiwm, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, ieir, ceffylau a cheirw, ond gall hefyd gael effaith ar iechyd pobl. Gall lleihau amlder cryptosporidiwm mewn da byw fod yn fanteisiol ar ddwy lefel, gan wella iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid a lleihau halogiad yr amgylchedd, gan arwain at leihau risgiau i iechyd pobl.
Mae lefel isel o ddealltwriaeth ynghylch dycnwch, llwybrau trosglwyddo, ac opsiynau rheoli cryptosporidiwm mewn defaid.
Mae grŵp o saith ffermwr ym Mhowys wedi canfod cryptosboridiwm mewn lloi ac ŵyn ar eu ffermydd ac wedi dod ynghyd i weithio gyda’u milfeddygon, Moredun a Dŵr Cymru yn y prosiect hwn i gynyddu eu dealltwriaeth o’r llwybrau y caiff ei drosglwyddo drwyddynt ymhlith defaid a hefyd nodi camau y gellir eu cymryd i reoli afiechyd o fewn eu diadelloedd.

Canlyniadau’r Prosiect:

  • Canfuwyd cryptosboridiwm yn y rhan fwyaf o grynofeydd dŵr sy’n mynd i mewn ac allan o bob un o’r saith fferm, cafodd hefyd ei ddarganfod yn y dŵr o ddau o dri thwll turio a brofwyd.
  • Canfuwyd cryptosboridiwm mewn ŵyn ar bob fferm heblaw un. Mae ŵyn yn dod yn llai agored i afiechyd po hynaf y maent ond nid yw anifeiliaid a oedd wedi dod i gysylltiad â’r clefyd yn y gorffennol yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu hail-heintio.

Cynyddodd y prosiect ymwybyddiaeth a gwybodaeth ffermwyr am broblemau cryptosporidiwm ar ffermydd, ffynonellau posibl o heintiau yn ogystal â mesurau ataliol y gellir eu defnyddio i leihau lledaeniad pathogenau, amlder ac effeithiau ar gynhyrchiant.Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Glanhau adeiladau ag ager i ladd öosystau
  • Glanhau a diheintio siediau da byw yn aml; mae ymchwil wedi canfod mai diheintyddion hydrogen perocsid a rhai sy’n seiliedig ar hydrogen perocsid yw'r rhai mwyaf effeithiol o ran lleihau hyfywedd öosystau cryptosboridiwm. Mae diheintyddion yn llai effeithiol ar öosystau sydd mewn ysgarthion, felly fe'ch cynghorir i lanhau siediau'n drylwyr cyn diheintio.
  • Rhoi gwellt yn aml
  • Gosod anifeiliaid sy'n sgwrio dan gwarantin
  • Sicrhau bod ŵyn a lloi yn cael digon o golostrwm o ansawdd da yn gyflym