18 Chwefror 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae rhedyn yn broblem sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod felly ers blynyddoedd lawer.
  • Mae rhedyn yn drech na llystyfiant arall gan leihau bioamrywiaeth a chael effaith ar y defnydd posibl o’r dirwedd ar gyfer strategaethau fel pori neu liniaru carbon.
  • Cysylltir rhedyn ymhellach â throgod sy’n effeithio ar anifeiliaid a phobl a chynhyrchu cyfansoddion gwenwynig i anifeiliaid, ac felly mae lleihau ei ledaeniad yn allweddol
  • Er mwyn i strategaethau rheoli fod yn llwyddiannus mae’n rhaid iddynt sefydlu tyfiant gwahanol sydd â gwytnwch tymor hir i atal y rhedyn rhag ymsefydlu eto

 

Rhedyn: safbwynt y Deyrnas Unedig

Mae rhedyn yn blanhigyn lluosflwydd sy’n tra-arglwyddiaethu ac yn llwyddiannus wrth gystadlu. Y brif rywogaeth a welir trwy Brydain yw Pteridium aquilinum ac yn fwy penodol yr isrywogaeth aquilinum (er bod nifer o isrywogaethau eraill gan gynnwys atlanticum, fulvum, pinetorum ac osmundaceum hefyd yn bresennol). Mae rhedyn yn ymledun effeithiol oherwydd nifer o addasiadau biolegol sy’n ei gynorthwyo i oroesi a’i lwyddiant ar draul rhywogaethau eraill o blanhigion. Mae rhedyn yn ffurfio dail llydan iawn sy’n arwain at gorun trwchus iawn sy’n achosi cysgod difrifol i’r rhywogaethau o blanhigion dan y rhedyn, gan gyfyngu ar y goleuni hanfodol sydd ar gael. Oherwydd ei fod yn cynhyrchu llawer o wasarn mae’n cyfyngu ar allu rhywogaethau eraill o blanhigion i gael troedle i ymsefydlu. Yn ychwanegol, mae gan redyn systemau rhisomau tanddaearol eang sy’n cadw llawer iawn o garbohydradau a maetholion a gallant gynhyrchu cyfansoddion amddiffynnol gwenwynig  i atal llysfwytawyr, heintiadau afiechyd ac amharu yn uniongyrchol neu atal twf planhigion eraill yn agos ato.

 

Gall rhedyn yn hawdd iawn dra-arglwyddiaethu ar dirweddau gan leihau neu atal pori cynhyrchiol (oherwydd y diffyg planhigion pori a’r cyfansoddion gwenwynig a charsinogenig) a choedwigaeth (oherwydd y gystadleuaeth i’r tyfiant cyntaf oroesi), yn ogystal â chael effaith ar fioamrywiaeth yn gyffredinol (trwy atal bywyd planhigion heterogenaidd sy’n effeithio ar amrywiaeth ecosystem). Felly mae llawer iawn o ymchwil wedi ei wneud i redyn gyda 634 o bapurau wedi eu canfod trwy’r byd, traean ohonynt wedi eu cynhyrchu dros y 10 mlynedd diwethaf yn unig. Yn benodol, mae lleoliad yr ymchwil yn dangos ei bod yn broblem neilltuol ar gyfer y dirwedd yn y Deyrnas Unedig.  

Nifer y Cylchgronau ymchwil yn y 10 mlynedd diwethaf ar sail lleoliad

 

Yn ogystal â phroblemau defnydd tir uniongyrchol yn ymwneud â llawer o redyn a’i ymlediad mae awgrym bod cysylltiadau rhyngddynt â mwy o ddigwyddiadau o drogod ar anifeiliaid (gan gynnwys grugieir) ac yn benodol defaid mewn ardaloedd lle mae rhedyn yn gryf. Y brif drogen ar anifeiliaid a phobl yn y Deyrnas Unedig yw Ixodes ricinus a all achosi nifer o fathau o salwch oherwydd eu bod yn cludo bacteria sy’n achosi afiechyd (sydd yn aml yn cynnwys cronfeydd ceirw) fel afiechyd Lyme.

O ystyried bod yr achosion cysylltiedig â phobl o afiechyd Lyme wedi cynyddu o 258% rhwng 2001 a 2011, dylid ystyried bod unrhyw leihad yn y cynefinoedd yn fuddiol. Mae astudiaethau dro ar ôl tro yn amlygu bod yr haenau o fatiau/gwasarn sy’n cael eu ffurfio gan redyn yn gweithredu i gynnal y nymffau drogod ac felly cynghorir yn gryf y dylid torri a chlirio rhedyn. Mae hyn yn bwysig mewn ardaloedd o goetir a reolir fel dull o leihau’r lefelau o ddrogod lle mae pobl yn dueddol o gerdded yn gyson yn eu hamser hamdden. Ymhellach, mae’n hysbys bod drogod yn cael effaith sylweddol trwy’r byd ar economeg a chynhyrchiant anifeiliaid. Dangosodd astudiaeth o bresenoldeb trogod yn y Deyrnas Unedig bod cyfartaledd y presenoldeb trogod ar ffermydd defaid yn 13%, a 6% i ffermydd gwartheg, a bod ffigyrau afiechyd sy’n cael eu cludo gan drogod yn amrywio o 6% ar gyfer ffermydd defaid a 2% ar gyfer ffermydd gwartheg. Ond, mewn rhanbarthau problemus (Gogledd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr a’r Alban, gan gynnwys ffermydd ucheldir yn benodol) gall y ffigyrau ar gyfer amlygrwydd trogod godi i 48-100% ac ar ffermydd sy’n rhoi adroddiad cadarnhaol o drogod, cododd y ffigyrau afiechyd sy’n cael ei gludo gan drogod i 44% i ffermydd defaid a 33% i ffermydd gwartheg. Gallai rheoli cynefinoedd trogod sy’n hysbys yn effeithiol, felly, gynnig buddion mawr i’r sector cig coch.

 

Strategaethau rheoli presennol

Mae system rhisom rhedyn yn storio llawer iawn o garbohydradau a maetholion gan wneud y planhigion hyn yn anodd eu rheoli, oherwydd os na chaiff y storfeydd yma eu dinistrio, eu symud neu eu gwanhau gall y planhigyn adfer yn gyflym. Mae’r strategaethau rheoli presennol yn disgyn i’r meysydd a drafodir isod. Amlygwyd defnydd ymarferol o’r strategaethau hyn mewn taflen ddefnyddiol. Mae’n werth nodi, er bod y chwynladdwr asulam, a werthid fel Asulox, wedi ei wahardd, mae fel arfer yn cael cymeradwyaeth argyfwng yn flynyddol trwy reoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd. Yn ychwanegol, mae’n mynd trwy ailgofrestru a gyflwynwyd yn 2014 a disgwylir, os bydd yn llwyddiannus, iddo ddod i rym rywbryd yn 2022 yn y Deyrnas Unedig.

Torri

Torri yw’r ffurf gynharaf a gofnodwyd o reoli rhedyn a dyma’r unig ddull hyd at yr 1930au. Roedd hyn yn cael ei gyflawni trwy dorri’n gyson â phladur i amharu’n barhaus ar allu’r planhigyn i gyflawni ffotosynthesis trwy ei ddail, gan atal deunyddiau rhag cael eu cludo i’r rhisom ac ohono gan arwain at farwolaeth y rhisom. Er mwyn nodi pa mor galed yw rhedyn, fe nodwyd, i’r dull hwn fod yn effeithiol bod angen pladuro ddwywaith y flwyddyn am 6 mlynedd, ond, ystyrir bod torri yn dal yn effeithiol. Cymerodd datblygiadau technolegol le’r torri â phladur gyda pheiriannau torri i leihau dwyster y gwaith ac, er ei fod yn effeithiol, fe nodwyd wedyn mewn cynllun treialu 18 mlynedd nad oedd wedi cael gwared â’r holl redyn yn y plotiau treialu.

Torri/trin

Gall dulliau aredig a thrin fod yn effeithiol yn yr amgylchedd cywir cyn belled â bod rhisomau yn cael eu datgelu’n effeithiol trwy rychau dwfn a’u gadael dros y gaeaf i’r rhew eu diraddio. Ar ôl aredig mae hau yn y gwanwyn yn hanfodol i atal cymunedau o redyn rhag ail-sefydlu. Ond, fel y mae wedi ei gofnodi ar draws yr ymchwil, gall aredig fod yn niweidiol i ficrobiomau’r pridd a chynefinoedd lleol oherwydd yr amharu mawr y mae’n ei achosi gydag oblygiadau o ran rhyddhau nitrogen sydd wedi ei storio (N) a carbon (C) o’r pridd gan gael effaith negyddol ar y balans o allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mathru, rhowlio, torri

Ar ôl torri dynodwyd bod mathru, a elwir hefyd yn rhowlio, torri neu gleisio rhedyn yn ddewis llawer haws yn arbennig ar y math o diroedd y mae rhedyn wedi ymledu arno. Er bod y dull wedi bod yn boblogaidd, yn arbennig lle byddai’r tir yn achosi difrod i beiriannau torri fel arall, mae dadlau yn yr ymchwil o ran effeithiolrwydd mathru. Mae rhai papurau’n dangos ychydig i ddim effaith o fathru ac eraill yn dangos effeithiau sylweddol. Ar y sail bod y dull wrth fathru yn debyg i dorri mae’n debygol bod y gwahaniaethau’n digwydd ar sail pa mor dda y mae strwythur y rhedyn yn cael ei ddifrodi gan y dechneg fathru benodol.

Chwistrellu

Mae chwistrellu chwynladdwr ar redyn hefyd yn ddull effeithiol iawn wrth waredu rhedyn ond mae cyfres o ddadleuon o blaid ac yn erbyn y rhain. Yn fanteisiol, gall chwistrellu waredu rhedyn ar unwaith yn y tymor byr ac, am eu bod yn hawdd i’w rhoi, mae angen llawer llai o waith na’r dulliau eraill. Gwelwyd mai dau brif fath o gyfansoddion chwynladdwr oedd fwyaf llwyddiannus wrth reoli rhedyn yn dilyn cyfoeth o arbrofi o’r 1940au i’r 1970au , sef glyffosad ac asulam. O’r ddau mae asulam yn well gan ei fod yn llawer mwy penodol i redyn a dail tafol tra bod glyphosad (yn gyffredin yn rhan o’r chwynladdwyr Roundup®) yn cael effaith lawer mwy eang yn niweidio a lladd glaswelltau a phlanhigion lleol eraill. Mae glyffosad hefyd yn destun llawer o weithgarwch deddfwriaethol o ran ei ddefnydd yn ddiweddar. Dangoswyd bod asulam, er ei fod yn cael effaith wrth ei roi unwaith, yn fwyaf effeithiol wrth ei roi sawl gwaith  a thriniaeth yn ôl yr angen ar fannau penodol. Ond, oherwydd ei fod wedi ei dargedu, gall asulam gael effeithiau ar rywogaethau eraill o redyn gydag ymchwil yn awgrymu bod angen llain glustogi o 50m i ddiogelu rhedyn arall sensitif rhag i’r chwistrell gael ei chwythu ar y gwynt. Yn ychwanegol, oherwydd bod asulam yn doddadwy iawn mewn dŵr, dangoswyd ei fod yn parhau’n rhwydd yn amgylchedd pridd, arweiniodd hyn at yr angen i ddatblygu technolegau synhwyro penodol  i asesu i ba raddau y mae yn y pridd. Mae asulam a’r amrywiolyn asulam-sodiwm wedi dod yn ystyriaethau allweddol ar sail adroddiadau gan yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd yn neilltuol o ran eco-wenwyno, gan ddangos effeithiau ar lefelau amrywiol ar adar a mamaliaid, organebau dyfrol (sydd wedi arwain at leiniau clustogi a strategaethau lliniaru’r dŵr sy’n rhedeg oddi ar y tir), gwenyn, trin carthffosiaeth a phlanhigion nad ydynt yn cael eu targedu. Er bod y rhan fwyaf o effeithiau yn cael eu hystyried yn rhai risg isel, mae tystiolaeth o astudiaethau tymor hir yn awgrymu bod y rhain wedi eu tanbrisio.

Yn 2020 yn y Deyrnas Unedig, dim ond ar gyfer chwistrellu o’r awyr y rhoddwyd cymeradwyaeth argyfwng i Asulox, gan ddynodi bod ei chwistrellu fel hyn yn cael ei ystyried yn fwy derbyniol. Mae hyn ar y cyd â’r gyfran uchel o ranbarthau lle mae rhedyn yn drwchus ar dir sydd yn draddodiadol yn anodd mynd iddo yn awgrymu y gallai hyn fod yn ardal lle dylai deddfwriaeth yn y dyfodol ystyried llacio gwaharddiadau penodol i’r Deyrnas Unedig ar ddefnydd UAV ar gyfer chwistrellu.

Amrywiol

Y dulliau eraill a drafodir, dros ysgwydd braidd, yw llosgi a rheoli trwy bori. O ran llosgi, ychydig o dystiolaeth ymchwil sydd ar gael o ran ei effeithiau, heblaw ei ddefnyddio fel strategaeth i gael gwared ar wasarn rhedyn a chyfeiriad hefyd bod llosgi yn cael gwared ar lystyfiant sy’n cystadlu gan ganiatáu i rywogaethau rhedyn ailsefydlu’n rhwydd. Yn yr un modd wrth ystyried pori gyda phorwyr dethol iawn, fel defaid, mae hyn yn arwain at gael gwared ar y llystyfiant arall sy’n cystadlu ac yn hwyluso’r ffordd i redyn ledaenu rhagor. Mae gwartheg yn borwyr llai dethol ac yn achosi amhariad ffisegol mwy sylweddol, am eu bod yn fwy a thrwy hynny yn mathru a bagio mwy o lystyfiant. Mae’n debyg y byddai gwartheg yn well na defaid, neu y dylid eu defnyddio gyda’i gilydd gan roi cefnogaeth i strategaethau pori cymysg ar gyfer yr ucheldir. Mae prosiectau bioamrywiaeth yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd yn ceisio defnyddio’r fantais hon o bori gwartheg trwy baratoi tirweddau trwy falu rhedyn gan wirfoddolwyr ac yna rholiwr yn cael ei lusgo gan geffyl yn gwastatau’r rhedyn cyn cyflwyno gwartheg ar y tir. Mae prosiectau tebyg yn mynd ymlaen mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

 

Pa bynnag strategaeth reoli a ddefnyddir, er mwyn osgoi’r angen parhaus am gael gwared ar redyn rhaid i’r cynllun rheoli gynnwys neu annog sefydlu planhigion gwahanol yn lle’r rhedyn sydd wedi ei waredu. Dylai’r dewis o blanhigion ystyried eu gwytnwch yn y tymor hir a’u sefydlogrwydd yn y dirwedd i osgoi gweld y rhedyn yn ail sefydlu dros amser. 

 

Ystyriaethau eraill

Mae rhedyn yn chwarae rhan sylweddol mewn olyniaeth mewn tirwedd. Mae olyniaeth yn cyfeirio at sut y mae cymuned fiolegol yn newid dros amser wrth i fwy o rywogaethau gyrraedd.

Nododd ymchwil yn y 2000au cynnar bod rhedyn, fel yr amheuwyd, yn cael effaith gref ar olyniaeth ddilynol y rhywogaethau eraill trwy gystadlu’n well na nhw. Ond, un grŵp o blanhigion yr awgrymwyd bod ganddo swyddogaeth bosibl wrth leihau tra-arglwyddiaeth rhedyn yw coed. Bydd coed ifanc wrth ymsefydlu yn cael eu llesteirio gan redyn trwchus, ac felly, dim ond yn gynnar yn y gymuned olynol, neu cyn i redyn sefydlu y gallant lwyddo. Ar y llaw arall, dylai presenoldeb rhedyn, dros dro o leiaf, gael ei leihau er mwyn i’r coed ifanc ymsefydlu. Mae hyn yn awgrymu swyddogaeth bosibl i ranbarthau lle mae rhedyn yn ddwys trwy ymgorffori coed, a fydd ar ôl sefydlu, yn cystadlu am adnoddau gyda’r rhedyn ac o bosibl yn lleihau ei dra-arglwyddiaeth. Wrth gwrs, ar gyfer sefydlu’r coed i gychwyn byddai angen defnyddio un o’r prosesau rheoli ffisegol uchod i gael gwared ar y rhedyn sy’n cystadlu ar y dechrau ond ar ôl iddynt ymsefydlu gallai hyn arwain at strategaeth ddefnydd tir yn y tymor hwy. Er na chanfuwyd unrhyw lenyddiaeth uniongyrchol yn dynodi bod sefydlu coed yn gweithio fel dull o reoli rhedyn, ac mae’n debygol nad ydynt ar y sail bod rhedyn mewn ardaloedd coediog, fe allai wneud tir llawn rhedyn yn fwy proffidiol (os yw hyn yn ymwneud â chynnyrch uniongyrchol neu gredydau carbon ac ati). Ar hyn o bryd mae ymchwil i blannu coed mewn rhedyn trwchus yn cael ei gynnal gan brosiect Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd (EIP) yng Nghymru  prosiect sydd i gychwyn yn ceisio pennu’r dull clirio rhedyn gorau ar dir serth sy’n gyffredin yn yr ardal. Er bod yr ymchwil cynnar wedi ei lesteirio gan dywydd eithafol, bydd rhai arferion clirio diddorol ac arloesol yn cael eu treialu, gan gynnwys peiriannau torri ysgafn yn cael eu rheoli o bell gan y bydd hyn yn osgoi rhai o’r problemau mynediad a pherygl i bobl wrth ddefnyddio peiriannau mawr ar ardaloedd serth o redyn trwchus. Wrth gwrs, gall y strategaeth hon gael sgil-fanteision o ran gweld coed yn gweithredu fel strategaeth liniaru amgylcheddol dda trwy storio carbon a gellid hyd yn oed ei ymgorffori gyda chynnyrch newydd fel surop bedw  neu gynhyrchion unigryw tebyg fel ffynhonnell incwm ychwanegol. Yn dilyn y gostyngiad cychwynnol yn y rhedyn a all ganiatáu mwy o amrywiaeth o blanhigion yn yr ardaloedd hyn, efallai y bydd mwy o bosibilrwydd i’w defnyddio fel systemau amaethgoedwigaeth syn cyfuno coed a phori. Yn benodol gyda gwartheg am y rhesymau a nodir uchod.  

Yn olaf, mae dulliau rheoli sy’n hwyluso torri a chasglu biomas rhedyn fel rhan o’u strategaethau ag oblygiadau hefyd o ran defnyddio cynnyrch gwastraff posibl. Gall rhedyn gael ei ddefnyddio mewn compost fel ffynhonnell potash dda, gan fod y cemegolion a all fod yn broblemus sydd ynddo yn cael eu diraddio trwy’r broses gompostio. Trafodwyd hyn o’r blaen ar gyfer ei ymgorffori ochr yn ochr â gwlân defaid fel cynnyrch gwahanol. Ochr yn ochr â swyddogaeth uniongyrchol fel compost, dangoswyd y gall ffurfio siarcol o redyn arwain at well proffiliau maeth ar y cyd â chompostau. Un fantais o ystyried bio-siarcol rhedyn yn hytrach na chompostio, yn gyffredinol, fyddai bod y gwres yn sicrhau bod y cyfansoddion carsinogenig mewn rhedyn yn gostwng i lefelau diogel mewn amser llawer llai.

 

Crynodeb

Mae rhedyn yn “chwyn” arwyddocaol yn fyd-eang ac yn neilltuol felly yn hinsawdd y Deyrnas Unedig. Defnyddiwyd ac astudiwyd strategaethau i geisio rheoli ei ymlediad ers dros ganrif gyda llawer ohonynt wedi parhau'r un fath yn sylfaenol hyd y dydd heddiw. Mae rhedyn yn niweidiol i dirwedd y Deyrnas Unedig gan ei fod yn cystadlu’n weithredol ac yn atal planhigion lleol gan leihau bioamrywiaeth a golygu nad yw tir yn cael ei ddefnyddio a fyddai fel arall yn cyflenwi adnoddau fel storio mwy o garbon neu fod ar gael i’w bori i’w drosi yn brotein. Yn ychwanegol, mae rhedyn yn cynhyrchu cemegolion carsinogenig a gwenwynig a all effeithio ar bobl ac anifeiliaid, a gweithredu fel cynefin allweddol yng nghylchred bywyd trogod sy’n gysylltiedig â milheintiau. Mae angen i gynlluniau a strategaethau rheoli ymgorffori cyfnewid rhedyn gyda phlanhigion gwydn eraill (fel coed) i osgoi gweld y rhedyn yn ailsefydlu’n gyson ac ymledu ymhellach. 

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth