Sefydlu coed mewn rhedyn trwchus

Y Broblem

Mae rhedyn yn blanhigyn ymosodol iawn sy’n gallu tyfu’n wyllt yn gyflym dros ardaloedd mawr o dir os na chaiff ei reoli. Mae’r canopi trwchus yn ei gwneud yn anodd iawn i’r planhigion sy’n bodoli eisoes gystadlu ac mae hefyd yn atal hadau rhag egino. Mae twf rhedyn trwchus yn cael dwy effaith negyddol fawr ar sefydlu coed. Yn gyntaf, mae’r cysgod y mae’n ei greu yn arafu twf coed ifanc, ac yn ail, ar ddiwedd y tymor tyfu, mae’r ffrondau wrth iddynt gwympo yn tueddu i fflatio a chladdu’r coed ifanc. Fodd bynnag, ar ôl i’r coed sefydlu, byddant yn trechu’r rhedyn a bydd hwnnw yn ei dro yn marw. Y prif ddull a ddefnyddir ar hyn o bryd i drin rhedyn cyn plannu yw chwistrellu’r chwynladdwr Azulox, o hofrennydd fel arfer. Mae hyn yn achosi problemau oherwydd bod y cynnyrch yn gallu bod yn beryglus iawn ac mae’n debygol o gael ei dynnu oddi ar y farchnad yn y dyfodol agos. Ceir sefyllfaoedd hefyd lle na chaniateir ei ddefnyddio, megis ar dir organig a / neu ger cyrsiau dŵr neu gyflenwadau dŵr.

 

Y Prosiect

Gellir rheoli rhedyn drwy drin (a neu aredig) y tir. Anaml iawn mae’r dull hwn yn cael ei ddefnyddio ar ffermydd oherwydd ei bod yn anodd iawn gweithio ar dir serth ac oherwydd y gost. Fodd bynnag, mae peiriant arbenigol y gellid ei ddefnyddio at y diben hwn. Oherwydd bod coed yn cael eu plannu 2m i 3m oddi wrth ei gilydd, dylid bod modd paratoi’r tir mewn stribedi yn hytrach nag aredig y llethr cyfan. 
Bydd y prosiect hwn yn treialu technegau i drin stribedi o amrywiol led gan ddefnyddio gwahanol fathau o beiriannau sy’n addas i weithio ar dir serth. Yna, caiff coed eu plannu yn y stribedi a chaiff eu twf ei fonitro.
Bydd y prosiect yn rhedeg ar ddau safle dros ddwy flynedd a hanner a bydd yn cynnwys paratoi’r tir gan ddefnyddio tyrchwr bach i wneud rhychau bas, tyrchwr bach ag offer tyrchu yn sownd wrtho, tractor bach ar draciau ag offer tyrchu, ynghyd â pheiriant digroeni coedwigoedd a pheiriant ‘robocut’ ag offer tyrchu. Defnyddir hefyd wahanol dechnegau o chwynnu cyn plannu er mwyn cymharu, technegau fel strimio, a churo ag offer llaw.

Bydd pedair o rywogaethau coed ifanc yn cael eu plannu:

1)    Derw dail digoes
2)    Bedw cyffredin
3)    Criafol
4)    Pyrwydd Sitca

Bydd y rhan fwyaf o’r coed ifanc hyn yn 45-60 cm o hyd, sef maint safonol y diwydiant. Caiff coed ifanc mwy eu plannu mewn un plot 1 metr yn syth yng nghanol rhedyn heb ei drin er mwyn gweld a fyddai talu mwy am blanhigion mwy a pholion yn ddewis mwy effeithiol o ran cost na’r arbrofion sy’n defnyddio dulliau rheoli mecanyddol.
Caiff llwyddiant pob techneg ei fonitro yn ôl cyfraddau goroesi a thwf y coed. Cyfrifir cost a budd pob techneg hefyd a byddwn yn bwrw amcangyfrif o gostau tebygol pob techneg pan gânt eu defnyddio ar raddfa fwy. Ar ôl i’r coed gryfhau a thyfu’n uwch na’r rhedyn, bydd effaith y rhedyn yn cael ei lleihau’n aruthrol. Yn y flwyddyn neu ddwy gyntaf ar ôl plannu y mae’r gystadleuaeth oddi wrth redyn fwyaf tyngedfennol.
Bydd y canlyniadau yn berthnasol i ffermydd confensiynol a ffermydd organig a chyn belled ag y bo’r technegau arfaethedig yn effeithiol, maent yn debygol o gael eu defnyddio’n eang ar ffermydd. Ar gyfer plannu coetir ar raddfa fawr, mae costau’r technegau mecanyddol o’u cymharu â chostau chwistrellu â hofrennydd yn debygol o fod yn ffactor mwy tyngedfennol. Fodd bynnag, mae paratoi’r tir drwy ddulliau mecanyddol yn esgor ar fanteision eraill heblaw am reoli rhedyn yn unig ac nid yw’n anochel o bell ffordd na fyddai dull rheoli mecanyddol yn ddewis mwy cost-effeithiol.