Mae gan Amaethyddiaeth Cymru stori amgylcheddol dda i’w ddweud, ond mae mwy i'w wneud.
Mae deall sut y gall datblygiadau geneteg, rheoli glaswellt, gwella iechyd anifeiliaid, plannu coed, gwneud gwell defnydd o wrtaith, a llu o fesurau eraill arwain at fusnesau sy’n fwy proffidiol, ond hefyd yn well i’r amgylchedd, yn hynod gyffrous.
Mae Cyswllt Ffermio a Dr Prysor Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor yn trafod pam bod angen i Gymru fod ar flaen y gad i'r her.