Mae Tom Greenham, Advance Milking yn trafod prosiect diweddar gafodd ei wneud gyda Cyswllt Ffermio.
Yn 2019, comisiynwyd astudiaeth ar ansawdd llaeth gan Cyswllt Ffermio mewn partneriaeth â Kite Consulting, Hufenfa De Arfon ac Advance Milking. Nod yr arbrawf oedd gweld a fyddai ‘adnabod risg’ yn ystod un ymweliad hanner diwrnod yn gallu arwain at welliannau mewn ansawdd llaeth.
Mae Tom Greenham yn trafod:
- Sut cafodd y prosiect ei redeg?
- Y prif risgiau gafodd eu canfod ar y 29 o ffermydd oedd yn rhan o’r prosiect.
- Pa newidiadau yn ansawdd llaeth a welwyd dros gyfnod y prosiect?