Ymunwch â Cyswllt Ffermio a’r ffermwyr moch, Kyle Holford a Lauren Smith o Forest Coalpit Farm i ddarganfod sut wnaethon nhw ddechrau ffermio moch ar ôl symud o Lundain i’w daliad o 20 erw yn y Bannau Brycheiniog yn 2014.

Mae Kyle a Lauren yn trafod sut aethon nhw o fod heb unrhyw brofiad amaethyddol blaenorol i gyflenwi porc i fwytai a chigyddion uchel eu clod o’u cenfaint o foch “Du Cymreig”.

Maent hefyd yn trafod sut mae Cofid-19, a chau bwytai wedi effeithio ar eu busnes, a sut maent wedi addasu i ganolbwyntio ar werthu blychau cig.

Mae cynrychiolydd o Menter Moch Cymru hefyd yn bresennol er mwyn rhoi trosolwg o’u gwasanaethau.


Related Newyddion a Digwyddiadau

GWEMINAR: Adolygiad Prosiect Porfa Cymru 2022
Prosiect Porfa Cymru - Adolygiad o'r Tymor Pori 2022 {"preview
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Cynllun Troi’n Organig - 12/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae’r Cynllun Troi’n
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion - 05/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae Grantiau Bach –