Roedd y gweminar hwn yn rhan o'r wythnos Arloesi ac Arallgyfeirio rhithiol.
Siaradwr: Laura Lewis, Squirrel's Nest, Llandrindod
Ymunodd Laura Lewis â Cyswllt Ffermio i rannu ei phrofiad hi a’i theulu o arallgyfeirio a chreu busnes llwyddiannus Squirrel’s Nest. Gyda mwy na deuddeng mil o ddilynwyr ar Instagram, bu Laura yn trafod pwysigrwydd marchnata mewn busnes twristiaeth.
Bu Laura yn trafod y canlynol:
- Taith Squirrel’s Nest
- Pam wnaethon nhw ddewis arallgyfeirio?
- A wnaethon nhw wynebu unrhyw heriau wrth ddechrau ar eu taith i arallgyfeirio?
- Beth yw’r elfennau allweddol ar gyfer creu busnes twristiaeth llwyddiannus?
- Edrych tua’r dyfodol - beth yw nodau byr dymor a hirdymor y busnes?