Bu Rhys yn gweithio fel contractwr amaethyddol yn dilyn cyfnodau o weithio ar ffermydd ond ei uchelgais oedd gallu dechrau ar yrfa o ffermio.

nick nichols rhys richards david nichols 0
Gyda chymorth gan raglen ‘Mentro’ Cyswllt Ffermio, mae wedi cyflawni’r nod hwnnw gan ffermio mewn partneriaeth â’r brodyr Nick a David Nichols, sy’n cadw 60 o wartheg bîff sugno croes Limousin a Simmental mewn system organig ar fferm 320 erw Gwernant ger Rhydlewis, Llandysul.

Mae’r ddau frawd yn eu chwedegau hwyr ac yn dymuno cwtogi ar eu hymrwymiadau ffermio dyddiol.

Roedd Rhys, Nick a David wedi cofrestru â ‘Mentro’ - rhaglen Cyswllt Ffermio sy’n paru perchnogion tir a ffermwyr â’r rheiny sy’n ceisio llwybr newydd i mewn i’r diwydiant - a chawsant eu cefnogi drwy’r broses o sefydlu cytundeb partneriaeth ar gyfer yr elfen o’r busnes yn ymwneud â da byw.

“Fe gawson ni gymorth ariannol i gael ein tywys drwy’r broses gan John Crimes o CARA Wales ac i gyfreithiwr lunio cytundeb partneriaeth a oedd yn ddarn o waith papur eang iawn,” meddai Nick.

“Fe symleiddiodd y broses gyfan ac roedd y cymorth ariannol a gawson ni’n dderbyniol iawn.’’

Mae Rhys wedi bod yn ffermio ar fferm Gwernant am bron i flwyddyn bellach ac mae’n dweud mai dyma’r penderfyniad gorau iddo ei wneud erioed.

“Mae mor anodd cael eich traed danoch mewn amaethyddiaeth, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle hwn.’’

Mae’r cytundeb yn darparu tŷ ar y fferm i Rhys yn ogystal ag incwm ac, o fewn pum mlynedd i ddechrau’r cytundeb, bydd wedi sicrhau perchnogaeth o ganran o’r da byw.

O ran y brodyr, mae’n golygu y gallan nhw ddirprwyo llawer o’u cyfrifoldebau i Rhys.

“Doedd arnon ni ddim eisiau gwerthu’r fferm ond roedd y gwaith corfforol yn mynd yn fwy anodd. Mae’r cytundeb hwn wedi lleihau’r pwysau arnom ni yn gorfforol ac yn feddyliol,” meddai David.

“Rydyn ni’n hynod falch o roi cyfle i rywun newydd ffermio. Mae gan Rhys ddiddordeb personol yn y cynnyrch terfynol felly mae yna ysgogiad iddo reoli’r gwartheg yn dda.’’

Mae Rhys yn cyflawni’r disgwyliadau. “Roedd y cyfnod lloia’n ardderchog y gwanwyn hwn heb unrhyw golledion,” meddai Nick.

Mae’r cytundeb wedi golygu gostyngiad mewn incwm i’r brodyr ond yn gyfnewid am hynny Rhys sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith corfforol a’r gwaith papur. “Mae’n gyfnewidiad rhesymol yn ein tyb ni,” yw rhesymeg Nick.

Mae’r rhaglen Mentro wedi denu dros 170 o ymgeiswyr ers ei lansio y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2015. Hyd yma, mae 29 pâr wedi’u canfod, mae 7 o fentrau ar y cyd newydd sbon wedi’u sefydlu ac mae ymgyrch recriwtio newydd yn yr hydref yn barod i gynyddu’r nifer hwnnw ymhellach. Dros yr ychydig wythnosau nesaf fe gynhelir cyfres o weithdai Mentro newydd i ddarparu gwybodaeth am gyfnodau allweddol sefydlu menter ar y cyd, a yw’n opsiwn addas i chi ac, yn bwysicach na dim, cyfarfod â phartneriaid busnes posibl yn yr ardal.

Unwaith y byddwch yn cofrestru â Mentro ac yn mynychu gweithdy, gall Cyswllt Ffermio ddarparu cymorth pwrpasol i’r ddwy ochr drwy ystod o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant, ynghyd â gwasanaethau cynghori cyfrinachol a mentora gyda llawer o’r rheiny naill ai wedi’u hariannu’n llawn neu’n rhannol.

Bydd pob un o weithdai’r hydref yn dechrau am 6:00yh ac yn gorffen am 9:30yh.

  • Dydd Mawrth 26 Medi - Gwesty Brecon Castle, Sgwâr y Castell, Aberhonddu,  Powys, LD3 9DB
  • Dydd Mercher 27 Medi - Marchnad Anifeiliaid y Trallwng, Buttington Cross, Y Trallwng, Powys, SY21 8SR
  • Dydd Mawrth 3 Hydref - Llety Cynin, Heol Llangynin, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, SA33 4JR
  • Dydd Mercher 4 Hydref - Feathers Hotel, Alban Square, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0AQ
  • Dydd Mawrth 10 Hydref – Gwesty’r Celtic Royal, Stryd Bangor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AY
  • Dydd Mercher 11 Hydref – Marchnad Anifeiliaid Rhuthun, Parc Glasdir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1PB

Mae’n rhaid archebu pob lle ymlaen llaw drwy ffonio Gwen Davies ar 01745 770039 neu e-bost gwen.davies@menterabusnes.co.uk

I dderbyn copi o lawlyfr ‘Mentro’ Cyswllt Ffermio, cysylltwch â Gwen Davies gan ddefnyddio’r manylion uchod.  

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu gwasanaethau trosglwyddo gwybodaeth a chyngor i bob sector amaethyddol ac mae’n cael ei ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites