22 Ionawr2019

 

agri academycombi2019 0
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn arweinydd, arloeswr neu entrepreneur gwledig? A ydych yn benderfynol ac yn bendant am weithio mewn diwydiannau a gwaith proffesiynol ym maes amaethyddiaeth, coedwigaeth neu ddiwydiannau cysylltiedig?

Mae ymgyrch recriwtio Cyswllt Ffermio ar gyfer ymgeiswyr Academi Amaeth 2019 wedi cychwyn yn ffurfiol heddiw, Ionawr 22. 

Lansiwyd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn lansio rhaglen ddatblygiad personol bwysig Cyswllt Ffermio yn swyddogol, Academi Amaeth 2019, pan fydd yn mynd i frecwast blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd ar ddydd Mawrth, 22 Ionawr.

Mae’r Academi Amaeth, sydd yn agosáu at ei seithfed flwyddyn a gyda 200 o alumni, yn dwyn at ei gilydd rai o’r bobl fwyaf addawol sy’n datblygu eu gyrfa yn y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw, gan roi’r ysbrydoliaeth, hyder, sgiliau a chysylltiadau y mae arnynt eu hangen i ddod yn arweinwyr gwledig, pobl fusnes broffesiynol, arloeswyr ac entrepreneuriaid.

Yn cynnwys tair elfen benodol, mae rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth, ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru, yn anelu at ddatblygu a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr. Mae’r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn cynnig cyfle datblygu personol a busnes i helpu i wynebu sialensiau ffermio yn y dyfodol, tra Rhaglen yr Ifanc, a redir mewn partneriaeth â CFfI Cymru, wedi ei dargedu ar bobl ifanc 16-19 oed sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiannau bwyd a ffermio.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, a ddaeth i’r derbyniad arbennig yn y Ffair Aeaf llynedd, oedd yn cael ei westeio gan raddedigion o’r tair elfen o’r rhaglen:

“Mae gan yr Academi Amaeth hanes rhagorol o baratoi’r ffordd ar gyfer llwyddiant mewn busnes a gyrfa i gymaint o’r alumni.

“Mae’r unigolion yma, a ddewiswyd oherwydd eu hangerdd, ffocws ac ymrwymiad i faterion gwledig yng Nghymru, yn sicr yn ad-dalu ein buddsoddiad yn eu datblygiad personol, y gellir ei dadogi ar gyfuniad unigryw’r Academi Amaeth o fentora, hyfforddi, rhwydweithio ar lefel uchel wedi ei dargedu a theithiau astudio yng Nghymru ac Ewrop. 

“Mae llawer ohonynt yn awr yn helpu yn weithredol i wthio materion gwledig yn eu blaenau yng Nghymru, gan sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u barn yn hysbys. Gyda Brexit yn nesáu mae’n bwysicach nag erioed i ni gefnogi ein diwydiant amaeth ym mhob ffordd y gallwn ni. Bydd Cyswllt Ffermio yn allweddol wrth sicrhau bod y rhai sydd yn y diwydiant yn cael pob offeryn posibl i fod yn llwyddiannus yn y sialensiau y maent yn eu hwynebu.”  

Mae’r Academi Amaeth yn denu nifer gynyddol o geisiadau o flwyddyn i flwyddyn.  Wedi eu tynnu o amrywiaeth eang o sectorau amaethyddol, mae’r graddedigion yn cynnwys ffermwyr, coedwigwyr a garddwyr yn ogystal â nifer o unigolion yn cynrychioli’r proffesiynau gan gynnwys milfeddygon, meddygon, syrfewyr, cynllunwyr a chyfreithwyr sy’n gweithio mewn cymunedau gwledig.  

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2019 yn agor ar 22 Ionawr ac yn cau ar 31 Mawrth. Er mwyn bod yn gymwys rhaid bod yn bartneriaid busnes, aelodau o deulu agos (priod, meibion a merched) a gweithwyr (ar PAYE) busnesau sydd wedi eu cofrestru â Cyswllt Ffermio.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y