17 Rhagfyr 2018

 

Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn amrywiol tu hwnt, ac mae wedi bod yn un o’r tymhorau fwyaf heriol o fewn cof, gyda ffermwyr a da byw yn cael eu gwthio i’r pen o ran rheoli tir glas. Fel mae’r graff isod yn dangos, dechreuodd y flwyddyn gydag amodau gwlyb ac oer iawn, a fu’n gyfrifol am ohirio troi’r anifeiliaid allan ar y ffermydd cynharaf hyd yn oed, gyda ffermydd â chyfraddau twf isel yn cael eu pori nawr ac yn y man ymhell i fis Ebrill. Roedd cyfraddau twf mewn ardaloedd cysgodol ac arfordirol hyd yn oed yn cael trafferth ar oddeutu 2-3Kg/DM/Ha/Dydd. O’r diwedd, wedi i’r tywydd setlo ac i’r priddoedd gynhesu digon tua diwedd Ebrill, dechreuodd y glaswellt dyfu’n iawn eto gydag aildyfiant Mai yn gryf iawn, gyda chyfraddau twf dros 100KgDM/Ha/Dydd ar ambell fferm. Cafwyd cynhaeaf cyntaf da yn ystod cyfnod o dywydd sefydlog ym mis Mehefin. Datblygodd y tywydd poeth a sych  i beri pryder, wrth i adlodd y toriad cyntaf fethu ag adfer a llethrau’n sychu’n grimp yn y tywydd sych. Yn ogystal, roedd glawiad yn nifer o rannau o ddwyrain Cymru 35% yn is na blynyddoedd blaenorol. Cafodd clampiau silwair eu hail-agor yn fuan iawn, ac roedd gweld llwythi o wair a stoc silwair y flwyddyn flaenorol yn cael eu cludo ar drelar yn olygfa gyfarwydd iawn ar ffyrdd gwledig, wrth i nifer o gynhyrchwyr benderfynu prynu porthiant, difa neu sychu gwartheg yn ystod y misoedd a fyddai fel arfer yn cynnig digonedd o fwyd.

 

                                         

pasture project llun 1

Graff 1. Tymheredd cymedr y DU yn ystod Gwanwyn 2018 o’i gymharu â’r cyfartaledd hanesyddol

 

Mae mapiau’r Swyddfa Dywydd a atodir isod yn dangos rhai ardaloedd yng Nghymru sydd wedi dioddef mwy o sychder o’i gymharu ag eraill. Roedd gogledd ddwyrain Cymru wedi dioddef yn sylweddol, gyda llai o law a mwy o oriau o heulwen boeth o’i gymharu ag ardaloedd yn ne orllewin Cymru. Gwelwyd hyn drwy gyfraddau twf isel a gorchudd fferm isel ar gyfartaledd yn ystod mis Gorffennaf ac Awst. Pan ddaeth y glaw ym mis Medi, roedd ardaloedd dwyreiniol yn parhau i ddioddef, gyda ffermydd y prosiect yng Ngwynedd a Sir Benfro yn tyfu 50-60KgDM/Ha/dydd o’i gymharu â ffermydd yn Sir Ddinbych a Sir Fynwy yn tyfu rhwng 20-30kgDM. Yn ymarferol, arweiniodd hyn at orfod bwydo porthiant ychwanegol am bythefnos o leiaf, gyda phorfa’n parhau i fod yn rhan fechan o nifer o ddietau.

 

                                                       

pasture project llun 2

Llun 1. Enghraifft o bridd clai sych (tynnwyd y llun ar 23 Hydref)

 

Fodd bynnag, mantais ar ffermydd dwyreiniol oedd y byddai tir trwm hyd yn oed yn ddigon sych i gadw anifeiliaid tu allan ymhell i fis Tachwedd fel mae llun 1 uchod yn ei ddangos, sef un fferm yn Sir y Fflint gyda phriddoedd cleiog, yn dal i fod yn hollol sych ac yn gallu amsugno llawer mwy o leithder. Bydd tir cleiog trwm hefyd wedi cracio ac agor o ganlyniad i’r tywydd poeth a fydd wedi gwella problemau cywasgu a achoswyd gan y gwanwyn gwlyb. Mae glaswellt yn dal i fod wedi tyfu’n dda ar y rhan fwyaf o ffermydd ym mis Tachwedd o ganlyniad i amodau mwyn a llaith, a’r unig ffactor a oedd yn effeithio oedd hyd y dydd. Bydd hyn yn rhywbeth i’w groesawu gan y bydd stoc wedi cael eu cadw allan am gyfnod hwy, gan arbed silwair a slyri. Mae Graff 2 yn dangos bod twf diwedd y flwyddyn eleni cystal â 2017, ond mae amodau sych eleni wedi golygu bod defnydd yn llawer gwell o ran pori a mwy o doriadau silwair yn hwyrach. Bydd nifer o ffermwyr gwartheg hefyd wedi cael eu synnu o’r ochr orau o ran trwch yr ail-dyfiant deiliog a welwyd yng ngwyndonnydd yr hydref, sef canlyniad pori tynn dros yr haf. Ar yr un pryd, byddai chwyn megis gwlydd a rhywogaethau eraill sy’n lledaenu ar y wyneb, sydd wedi bod yn cystadlu’n dda ymysg gorchudd glaswellt, wedi dod yn fwy amlwg nag o’r blaen.

 

                                 

pasture project llun 3

Graff 2. Cromlin twf glaswellt ar ffermydd llaeth 2017/2018

 

Ac i gloi, bydd y gaeaf yn dod â’r hyn a fynno. Mewn byd delfrydol, byddai gwanwyn cynnar yn fuddiol, yn enwedig os bydd stoc porthiant prin yn gorfod cael ei ymestyn. Dylai ffermwyr ifanc gael eu cysuro y bydd amodau eithafol 2018 yn eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol gyda’r profiad a gafwyd a’r penderfyniadau a wnaed, gyda chanlyniadau, da neu ddrwg, yn cynnig sylfaen gref iddynt ar gyfer gweddill eu gyrfaoedd fel ffermwyr ac yn cael ei gofio am flynyddoedd i ddod, yn gadarnhaol neu beidio fel ‘1976’ eu cenhedlaeth.

 

Bydd gwaith mesur ar gyfer Prosiect Porfa Cymru yn ail ddechrau ym mis Chwefror 2019

ATODIAD (Ffynhonnell: Y Swyddfa Dywydd)

pasture project map1
pasture project map2
pasture project map3

 

Map 1.  UK sunshine hours % of average  Map 2. % Cyfartaledd glawiad y DU   Map 3.  Tymheredd cymedr o’i gymharu â’r cyfartaledd


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y