25 Ionawr 2018
Yn ystod 2017, cymerodd un deg pedwar fferm ledled Cymru ran ym Mhrosiect Porfa Cymru ac roedd hi’n flwyddyn eithriadol o dda ar gyfer twf porfa, yn enwedig ar ffermydd gyda phridd trymach. Roedd y cyfnod sych ar ddechrau’r flwyddyn wedi galluogi’r borfa i dyfu’n gynnar wrth i dymheredd y pridd godi a’r diwrnodau fynd yn hirach. Yn wahanol i 2016, gallai’r stoc fynd i’r caeau o’r dechrau un gan fod cyflwr y pridd yn addas ar gyfer pori a’r borfa wedi ymateb yn dda i’r gwrtaith a gafodd ei ddefnyddio’n gynharach nag arfer.
Graff 1. Cromlin twf y borfa yn Prosiect Porfa Cymru ar gyfer ffermwyr sy’n cyfrannu
Rydym ni’n gweld patrwm a chyfradd twf tebyg rhwng cynhyrchwyr Llaeth, Bîff a Defaid trwy gydol mis Mawrth, Ebrill a Mai ond lleihau yn gyflym wnaeth y twf ar y ffermydd oedd yn stocio’r anifeiliaid yn sefydlog o’i gymharu â’r rheiny oedd yn gweithredu cyfnod pori cylchdro byrrach gan dargedu’r defnydd o Nitrogen. Roedd gan rai o’r ffermydd ysgafnach gyfradd tyfu is ym mis Mai yn enwedig ar ôl y cynhaeaf cyntaf oherwydd bod cyn lleied o law.
Wrth i’r glaw gyrraedd o’r diwedd, parhaodd y rhan fwyaf o ffermydd gyda chyfradd tyfu wythnosol da o dros 90 KgDM/Ha/y diwrnod trwy gydol mis Mehefin, Gorffennaf a mis Awst. Er bod mis Awst a mis Medi yn gynnes gyda lefelau lleithder da yn y pridd, nid oedd ansawdd y borfa cystal â’r trwch o borfa oedd ar gael oherwydd y diwrnodau cymylog a chyn lleied o heulwen ar y planhigion. Parhaodd y borfa i dyfu ym mis Hydref, ond roedd tymor hydref gwlyb iawn yn golygu pori glân a’i bod yn anodd cynhaeafu’r silwair hwyr. Byddai rhai o’r ffermydd llaeth, yn enwedig y rhai ar dir gwlypach, wedi gweld cyfartaledd uwch o drwch porfa ar ddiwedd y tymor nag y byddan nhw’n ei heisiau a byddai angen rheoli’r borfa yn ofalus cyn pori yng ngwanwyn 2018.
Roedd ystod eang o brofiadau mesur a rheoli porfa gan yr 14 fferm a gymerodd ran yn y prosiect ac un o’r ffermydd a oedd yn mesur am y tro cyntaf oedd Nant yr Efail, Betws yn Rhos. Bydd y fferm bellach yn medru creu proffil cywir o gyfradd twf a chyfanswm y tunelli a oedd yn tyfu mewn darn o dir oedd yn cael ei rentu gerllaw. Mae Graff 2 isod yn dangos cyfanswm y tunelli a dyfodd ym mhob cae a chyfartaledd y cyfan a oedd wedi’i fesur yn 9.39 tunnell yr hectar. Dywedodd Gethin Owen, ffermwr bîff a defaid o Nant yr Efail y byddai’n medru defnyddio’r wybodaeth a’r profiad a gafodd drwy’r prosiect er mwyn optimeiddio ei gyfradd stocio, yr amser i droi’r stoc i bori ac i reoli’r defaid yn well wrth bori dros y gaeaf cyn dechrau tymor tyfu 2018. Byddai hyn yn ei alluogi i deilwra’r borfa ac yn caniatau troi’r gwartheg stôr at y borfa yn gynharach. Dywedodd Gethin am ei brofiad, “Roedd mesur yn 2017 wedi fy ngalluogi i ddeall y caeau’n well, gwneud penderfyniadau gwell ac rwy’n gwybod nawr beth sydd angen ei wneud i wella’r ffensio a’r isadeiledd dŵr cyn 2018.”
Graff 2. Cyfanswm twf ar gyfer Nant yr Efail o 24/2/2017– 27/11/2017
Mae un o’r buchesi llaeth sy’n lloia yn y gwanwyn, sydd wedi cymryd rhan yn nwy flynedd y prosiect, wedi llwyddo i dyfu cyfartaledd o 15.5 t/Ha o borfa ar 290 Ha o ddaear yn 2017, gyda bron yr holl ddaear yn cael ei bori mewn system sy’n seiliedig ar gylchdroi caeau. Mae’r data sydd wedi cael ei gasglu ym Mhrosiect Porfa Cymru yn dangos yn glir fod yna botensial i dyfu porfa o safon dda yng Nghymru ar gyfer pob math o dda byw ac yn lleihau’r ddibyniaeth ar brynu bwydydd a chyfansoddion drud.
Mae pob tymor tyfu porfa yn wahanol, ond mae mesur a chofnodi yn golygu rheolaeth dda sy’n galluogi’r defnydd gorau posib o’r borfa sydd ar gael beth bynnag bydd y twf porfa flynyddol yn ei daflu atoch chi. Bydd mesur ar gyfer y prosiect yn dechrau ym mis Chwefror 2018.
Atodiad
Tabl 1. Glawiad, tymheredd a heulwen yng Nghymru 2016-17 (Ffynhonnell: Met office statistics)
Blwyddyn | Gaeaf (Rhagfyr–Chwefror) | Gwanwyn (Mawrth–Mai) | Haf (Mehefin–Awst) | Hydref (Medi–Tachwedd) |
Glawiad 2016 (mm) | 725.7 | 276.9 | 320.7 | 298.6 |
Glawiad 2017 (mm) | 302.0 | 263.8 | 386.6 | 442.0 |
Cymedr Tymheredd 2016 (Gradd C) | 6.4 | 8.02 | 15.11 | 10.06 |
Cymedr Tymheredd 2017 (Gradd C) | 5.46 | 9.36 | 14.81 | 10.34 |
Cyfanswm yr oriau o heulwen 2016 | 137.2 | 521.6 | 485.2 | 302.4 |
Cyfanswm yr oriau o heulwen 2017 | 134.6 | 490.7 | 498.4 | 226.4 |
Linc i wefan 1. Map tymheredd y pridd Cyswllt Ffermio
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/cronfa-wybodaeth/tymheredd-pridd
Linc i wefan 2. Gwefan Prosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/prosiect-porfa-cymru