28 November 2024
Mae’r chwe blynedd diwethaf wedi bod yn daith anhygoel i Cheryl Reeves ers iddi ddefnyddio rhaglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio am y tro cyntaf i archwilio egin syniad ar gyfer arallgyfeirio ei busnes fferm.
Mae’r busnes hwnnw, sef y cwmni buddiannau cymunedol Agri-cation, y mae hi’n ei reoli gyda’i gŵr Andrew ar eu fferm ym Mangor Is-coed, bellach wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers pedair blynedd, ac maen nhw newydd ennill gwobr bwysig.
Wrth iddi edrych yn ôl ar ei thaith, mae Cheryl yn rhoi clod i raglen Agrisgôp am fod yn sbardun pwysig i’w helpu i wireddu ei syniad busnes.
“Roedd hyn yn help mawr i ddatblygu’r broses o feddwl am syniadau,” meddai.
Roedd Cheryl yn un o wyth o aelodau yn y grŵp sy’n cael ei redeg fel rhan o raglen Cyswllt Ffermio gan Gwen Davies, ffermwr grawnwin yn Nyffryn Clwyd.
Roedd yn canolbwyntio ar addysg fferm a chefn gwlad, gan helpu Cheryl i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau technegol a busnes, ynghyd â’r hyder i ddatblygu’r busnes, yn ogystal â datblygu fel unigolyn.
“Fe wnaethom ni ymweld â busnesau eraill a rhoddodd hynny drosolwg pwysig i mi o’r hyn yr oedd angen i mi ei ystyried, o’r polisïau iechyd a diogelwch angenrheidiol wrth i chi agor giatiau’r fferm i’r cyhoedd, i gyfarwyddiaeth cwmni, a phopeth yn y canol,” meddai.
Mae Agri-cation, sydd wedi’i leoli ar fferm y teulu Reeves, sef Woodcroft, lle maent yn magu 300 o loi bob blwyddyn, yn ddarparwr addysg sy’n cyfuno amaethyddiaeth ac addysg i ddarparu’r sgiliau bywyd a’r cymwysterau hanfodol sy’n gallu agor y drws i gyfleoedd cyflogaeth.
Mae’r cysyniad hwn yn pontio’r bwlch rhwng pobl yn chwilio am waith a byd amaeth, gan eu cysylltu gyda’r tir, yr amgylchedd ac ystod o wersi bywyd gwerthfawr, meddai Cheryl, sy’n cyflogi dau aelod o staff rhan amser, sef Emma Lee ac Isaac Goodwin.
“Mae ein cleientiaid yn dod i’r fferm ac yn helpu gyda’r tasgau yr ydym ni’n eu gwneud bob dydd, gan ddysgu, cymryd cyfrifoldeb a magu hyder.
“Rwy’n credu bod y ffaith fy mod yn fenyw ym myd amaeth hefyd yn helpu, efallai eu bod yn teimlo eu bod eisiau gwneud ychydig mwy oherwydd hynny.”
Yn ogystal â gweithio gyda grwpiau cymorth, ysgolion ac elusennau, mae Agri-cation hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddatblygu rhaglenni wedi’u teilwra i helpu unigolion symud yn ôl i fyd gwaith.
Mae gwaith allgymorth y fenter hefyd yn ymestyn i Garchar Berwyn, gan ymgysylltu gyda charcharorion gyda chefndir neu ddiddordeb mewn amaeth a darparu cyfleoedd i ail integreiddio.
Mae Agri-cation bellach wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol drwy ennill gwobr Busnes Arallgyfeirio'r Flwyddyn yn y categori Bach/Canolig yng Ngwobrau Ffermio Prydain 2024.
“Roeddwn i wrth fy modd yn cyrraedd y rhestr fer o bump, a doeddwn i ddim yn gallu credu pan gyhoeddwyd enw’r enillydd, sef ni – nid ydych byth yn disgwyl iddyn nhw alw eich enw,’’ meddai Cheryl.
“Ond ni fyddai’r fenter arallgyfeirio hon wedi bod mor llwyddiannus heb gefnogaeth fy ngŵr."
Gan edrych tua’r dyfodol, mae’n bwriadu archwilio twf pellach drwy dargedu’r sector corfforaethol; mae lleoliad y fferm, ryw bum milltir o un o barciau diwydiannol mwyaf y DU, yn ddelfrydol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gyda diwydiant.
Mae Cheryl yn Fentor gyda Cyswllt Ffermio ac mae hi hefyd wedi elwa o’r rhaglen fentora, wrth sefydlu a datblygu ei busnes.
Mae’n ychwanegu bod Agrisgôp wedi ei galluogi i gael trafodaeth agored gyda phobl o’r un anian, gyda phawb yn helpu ei gilydd i ddatblygu strategaethau busnes.
“Mae’r rhaglen wedi creu perthnasau hirdymor gydag unigolion a fu’n mynychu’r sesiynau grŵp ac mae hynny wedi bod yn werthfawr iawn i dwf ein busnes.”
Mae hi hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chwblhau hyfforddiant drwy raglen Cyswllt Ffermio gyda chyrsiau a oedd wedi’u hariannu 80%.
“Fe wnes i gwblhau pum cwrs ym maes rheoli busnes gyda Julie Thomas, Simply the Best, yn ogystal â chyrsiau arweinyddiaeth, ac roedd pob un o’r rhain yn bwysig iawn.’’
Mae Cheryl hefyd wedi ennill gwobr ‘Dysgwr y Flwyddyn’ Lantra Cymru yn y gorffennol.
I Cheryl, agwedd bwysig arall o fod yn rhan o Agrisgôp oedd y cyfleoedd rhwydweithio.
Ymysg y bobl y mae hi wedi cyfarfod â nhw ar hyd y daith, ac sydd wedi’i hysbrydoli i symud ei chynlluniau busnes yn eu blaen, mae Abi Reader, ffermwr llaeth, sydd bellach yn ddirprwy lywydd NFU Cymru, a’r bobl sy’n arwain busnesau gan gynnwys Treflach Farm, Croesoswallt, Ystâd Rhug, Corwen, a Clynfyw Care Farm yn Sir Benfro.
Mae Cheryl yn annog eraill i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael drwy Agrisgôp, sef rhaglen ddatblygu busnes sy’n annog ffermwyr a thyfwyr cymwys i ddod ynghyd, nid yn unig i ddatblygu eu busnesau, ond hefyd i fagu hyder a datblygu sgiliau drwy broses o ddysgu gweithredol.
“Mae’n bendant yn werth rhoi cynnig arni. I mi, rhwydweithio oedd y ffordd orau o wneud cynnydd o safbwynt personol ac o ran fy musnes.’’