19 Tachwedd 2019

Mae glaswellt yn gnwd hollbwysig ar gyfer systemau cynhyrchu da byw, ond ni chaiff tua hanner y glaswellt a dyfir yng Nghymru ei ddefnyddio’n effeithlon. Gellir gwneud busnesau fferm yn llawer mwy effeithlon, ac felly’n fwy proffidiol, drwy deilwra mwy ar fewnbynnau fel gwrtaith. Fodd bynnag, er mwyn gwneud y gorau o’r mewnbynnau hyn mae gofyn datblygu dulliau gwell o ragweld twf a chynhyrchiant glaswellt er mwyn mesur yn fwy manwl faint sydd angen ei ddefnyddio.  Felly, mae gwella’r gallu i ragweld cynhyrchiant glaswellt yn un o’r strategaethau rheoli allweddol ar gyfer systemau sy’n pori da byw ar laswellt yng Nghymru. Gallai hyn wella gallu busnesau fferm yng Nghymru i ragweld adnoddau ac allbynnau busnes posibl ar gyfer y flwyddyn ddilynol, gan wneud y busnesau’n fwy effeithlon. 

Mae’r dulliau presennol o fesur cynhyrchiant glaswellt yn cymryd llawer o amser, yn ddwys o ran llafur, ac nid ydynt bob amser yn gywir. Fel arfer, mae’r rhain yn dibynnu ar gymryd mesuriadau yn y cae â mesurydd plât i gymryd darlleniadau uniongyrchol a chyfrifo’r twf. Mae’r datblygiadau diweddar mewn dulliau o arsylwi’r Ddaear, yn enwedig y data radar a gweledol rheolaidd sydd ar gael o loerennau, yn cael eu hystyried fel ffynhonnell wybodaeth bosibl ar gyfer asesu a monitro twf glaswellt. Gallai dulliau synhwyro o bell, fel data o loerennau, wella’r dulliau presennol o reoli glaswelltir drwy gynnig dull sy’n gyflym, yn rhad ar lafur, ac a fyddai’n gallu cadw golwg parhaus ar dwf planhigion gydol y tymor.
 

Caiff Sentinel-1, y gyntaf yn nheulu lloerennau Copernicus, ei defnyddio i fonitro sawl agwedd ar ein hamgylchedd, o ganfod a thracio arllwysiadau olew a mapio rhew yn y môr i fonitro symudiad mewn arwynebau tir a newidiadau mapio yn y ffordd y caiff tir ei ddefnyddio. Ffotograff © ESA/ATG medialab

Gan ddefnyddio’r data ar dwf glaswellt a gofnodwyd yn ystod y prosiect porfa, bu Cyswllt Ffermio yn archwilio potensial y dechnoleg hon i roi budd i ffermwyr yng Nghymru, drwy sefydlu model rhagfynegol neu raddnodiad, sy’n gallu ddehongli’r data a gaiff ei gynhyrchu drwy dechnoleg lloerennau synhwyro o bell a’i ddefnyddio ar gyfer ffermydd yng Nghymru. Y gobaith yw y gellid cynnig y model a fydd yn deillio o’r gwaith hwn i ffermwyr yng Nghymru i wella’r potensial i reoli glaswelltir yn effeithiol.
Mae canlyniadau cynnar y cynllun hwn yn addawol. Nid yw’r holl ddata o’r ffermydd a gofnodwyd gan y Prosiect Porfa wedi cyfatebu’n dda â’r data a gofnodwyd gan y lloeren, fodd bynnag, mae’r her o uno’r ddwy set ddata ynddi’i hun wedi bod yn addysgiadol. Mae’r dulliau rheoli glaswelltir yn amrywio’n fawr ar draws systemau ffermio a thirweddau. Cyn belled, mae’r canlyniadau’n awgrymu mai systemau pori defaid, yn enwedig systemau llai dwys, sydd fwyaf cydnaws â’r data a gofnodwyd, ond mae gofyn gwneud gwaith dadansoddi pellach ar hyn i fod yn sicr. Os gellir profi bod hyn yn wir, yna mae hwn yn gyfle gwirioneddol i ddefnyddio rhagor ar ddulliau rheoli manwl mewn amaethyddiaeth yng Nghymru, gan mai gyda systemau rheoli glaswelltir llai dwys y mae hi anoddaf i fabwysiadu technegau manwl, a hynny oherwydd yr her o asesu tirweddau eang systemau llai dwys drwy’r dulliau llafurddwys presennol. Mewn sefyllfa o’r fath, gallai data o loeren sy’n cael ei gofnodi yn oddefol ac yn barhaus, ddylanwadu ar ddulliau rheoli glaswelltiroedd a rheoli ffermydd ac ni fyddai’n golygu llawer iawn o waith i’r ffermwr.
Camau nesaf y prosiect, felly, yw profi a yw hyn, mewn gwirionedd, yn wir. I gyflawni hyn, caiff fferm arbrofi ei dewis a chaiff treial ei sefydlu i geisio defnyddio’r data o loerennau i arwain ei dull o reoli’r glaswelltir. O’r treial hwn, y gobaith yw y caiff yr heriau a’r cyfleoedd a welwn drwy’r dull hwn eu mesur a’u defnyddio i wella’r system. Os yw’n llwyddiannus, gellir wedyn gyhoeddi model a’i gynnig i ffermwyr Cymru, gan eu hannog ddefnyddio’r dulliau rheoli glaswelltiroedd manwl hwn â’r dechnoleg newydd hon.

 

Gorchudd cae bob pythefnos (Kg DM/Ha) ar gyfer system pori defaid yng Nghymru. Mae’n dangos fel y mae data o loeren yn gallu monitro gorchudd glaswellt yn systematig fesul cae.   Yn yr esiampl hon, mae dau gae sydd â gorchudd cae cyferbyniol wedi cael eu plotio a’u tracio drwy 2019. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn llongyfarch ‘y gorau o’r goreuon’ ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024
17 Ionawr 2025 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut