24 Ebrill 2019

 

andrew rees noel gowan abigail james and jamie mccoy 0
Gallai ffermydd tir glas Cymru wneud hyd at £235 yr hectar (ha) yn fwy o elw net wrth wneud mwy o ddefnydd o borfa – hyd yn oed wrth ddefnyddio cyn lleied ag un dunnell fetrig o gynnwys sych (DM)/ha yn fwy.

Yn Moor Farm, Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio ger Hwlffordd, mae’r teulu Rees wedi buddsoddi mewn llwybrau buchod i ymestyn y tymor pori yn gynnar yn y gwanwyn a diwedd yr hydref, a chynyddu'r defnydd o'r glaswellt y gall y fferm ei dyfu.

Mae yna gysylltiad cryf iawn rhwng y defnydd o laswellt ac elw –  bydd y ffermydd mwyaf proffidiol yn defnyddio 80-85%. Dyna glywodd ffermwyr mewn diwrnod agored a  drefnwyd gan cyswllt Ffermio ac AHDB yn Moor Farm yn ddiweddar.

Er bod llawer o ffermwyr yn llwyddo i dyfu mwy o laswellt, gall defnyddio'r glaswellt hwnnw fod yn faen tramgwydd, yn ôl Dr Noel Gowen o Grasstec.

Ei gyngor i ffermwyr yw gwneud y defnydd mwyaf posibl o laswellt trwy fynnu: ‘Os gallaf ei bori, yna fe wnaf.’ “Os yw cyflwr y ddaear yn ddigon da i bori, peidiwch ag oedi,” meddai.

“Os byddwch chi’n cynyddu'r defnydd o chwe thunnell yr hectar i saith, bydd eich elw net yn cynyddu £235/ha. Ar fferm 100ha, mae hynny'n golygu £23,500 yn fwy o elw net y flwyddyn.

Dywed Mr Gowen fod effaith gwneud mwy o ddefnydd o laswellt ar elw yn cael ei amcangyfrif trwy ddefnyddio data o ffermydd monitro PastureBase Ireland a  Monitor Elw Teagasc.  Mae PastureBase Ireland yn rhoi cymorth i Teagasc wneud penderfyniadau ynghylch rheoli tir glas, ac fe’i defnyddir i gasglu data fferm.

Bydd seilwaith pori, gan gynnwys llwybrau buchod a systemau dŵr, yn helpu i hwyluso’r defnydd ohono.

Roedd Andrew Rees, sy’n ffermio Moor Farm gyda'i fam, Jean, yn gallu pori gwartheg yn ystod y dydd ar 11 Chwefror eleni oherwydd gwell rheolaeth tir glas a rhwydwaith newydd o lwybrau.

Roedd y fuches o 288 o fuchod Friesian Prydeinig yn pori cyfartaledd o 2,500kgDM/ha.

Bydd Mr Rees yn mesur glaswellt hyd at 40 gwaith y flwyddyn, ac yn bwydo’r data i feddalwedd Agrinet i ganfod faint o laswellt y mae pob cae yn ei gynhyrchu. Caiff y data eu rhannu hefyd â ffermydd eraill ar wefan Prosiect Porfeydd Cymru Cyswllt Ffermio.

Ar ddiwedd y tymor pori, mae rhaglen Agrinet Mr Rees yn cynhyrchu graff sy'n dangos sawl tunnell o laswellt y mae pob cae wedi’i gynhyrchu yn ystod y flwyddyn, ac mae hyn yn ei gwneud yn haws i wneud penderfyniadau rheolaeth fel ail-hau.

Bydd yn anelu at bori am 70-80 diwrnod i ddechrau ac yna am 24 diwrnod ym mhob cylchdro pori dilynol. Yn ôl 4.4 buwch/ha mae’n rhaid darparu bwyd ychwanegol – ganol Ebrill cafodd pob buwch 6kg o ddwysfwyd, 2kg o indrawn a 2kg o silwair yn ddyddiol.

Dylai ffermwyr anelu at gymeriant glaswellt dyddiol o 16-17kg DM/buwch ar bob cyfle, meddai Dr Gowen.

Y glaswellt sy'n cael ei bori yn y cylchdro cyntaf yw'r porthiant rhataf - gall gostio cyn lleied â £10- £20/t/DM - ond os na chaiff ei ddefnyddio am nad yw gwartheg yn cael eu troi allan yn ddigon cynnar, yna collir y cyfle i gael bwyd rhad a bydd ansawdd porthiant a chynnyrch cylchdroadau dilynol yn waeth.

“Yr unig bryd y dylech roi porthiant ychwanegol i fuchod yw pan nad ydynt yn gallu cael eu cymeriant o laswellt,” meddai Dr Gowen.

Er mwyn manteisio ar gynnyrch ac ansawdd glaswellt, anogodd ffermwyr i roi ystyriaeth ofalus i’r gymysgedd hadau pan fyddan nhw’n cynllunio rhaglenni ail-hau.

“Rheolwch y cymysgedd y byddwch yn ei ddefnyddio trwy ddewis dim ond dau neu dri o'r mathau gorau yn ôl rhestrau'r NIAB yn y DU,  neu’r Mynegai Elw Porfeydd o Iwerddon. Gofynnwch i'ch gwerthwr gymysgu’r hadau fel bod gennych un cymysgedd,” meddai.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar botensial glaswellt, boed ar ôl ail-hau neu ar dir glas sy'n bodoli eisoes, dylai pH y pridd fod yn 6.2-6.5, ychwanegodd Dr Gowen.

Dywedodd fod pH o dan 6 yn golygu bod hanner y ffosfforws sy’n cael ei hau ar gaeau yn ddiwerth. “Mae gwrteithiau NPK nodweddiadol yn costio bron £290 y dunnell, ond o ystyried effaith pH isel ar y ffosfforws, bydd yn costio bron £600 os nad yw'r pH yn iawn.

Dylai gwartheg bori tir glas hyd nes bod 3.5 - 4cm o laswellt ar ôl - o ddiwedd mis Ebrill bydd y glaswellt yn dechrau mynd i had; fe welwch nodylau ar y coesynnau.  “Chwiliwch am y chwydd ar y coesyn; mae'r hadlestr ychydig uwchben y nodwl uchaf.”

open day at moor farm 0
Mae ansawdd porthiant y llystyfiant o dan yr hadlestr yn wael, ac felly mae Dr Gowen yn argymell pori’n isel i gael gwared ar yr hadlestr ar bob cyfle, er mwyn cymell tyfiant newydd a chael llai o laswellt o ansawdd gwael yn niet y buchod.

Pan fo’r stocio’n drwm, weithiau mae’r ail dyfiant yn cael ei bori'n rhy gynnar – a bydd hynny’n arafu tyfiant y glaswellt, rhybuddiodd Dr Gowen. Fel arfer ni ddylid pori rhygwellt parhaol am o leiaf 20 niwrnod.

Cafwyd crynodeb o brif negesau’r diwrnod gan Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio yn Ne-orllewin Cymru, Abigail James, un o drefnwyr y diwrnod agored.

“Mae angen gwneud y gorau o ffrwythlondeb y pridd, gwella’r seilwaith pori ac ail-hau yn  ddigonol er mwyn cynhyrchu a defnyddio glaswellt yn well,’’ meddai.

Ariannwyd y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint