Os ydych chi’n awyddus i ddatblygu neu dyfu eich busnes fferm neu goedwigaeth, mae buddsoddi amser yn eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) eich hun neu eich teulu neu weithwyr yn hanfodol.   Gall diffyg cynllunio ymlaen llaw ar gyfer amcanion personol yn ogystal ag amcanion busnes gael sgil-effeithiau sy’n cyfyngu neu hyd yn oed yn niweidio eich dyheadau busnes at y dyfodol.  

Kevin Thomas yw prif weithredwr Lantra Cymru, sy’n darparu elfen datblygu sgiliau a dysgu gydol oes rhaglen newydd Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Mr Thomas, gallai gwasanaeth Cynllun Datblygu Personol (CDP) ar lein newydd Cyswllt Ffermio fod yn un o’r camau pwysicaf i’ch cynorthwyo i gyflawni eich nodau personol, ac yn ei dro i sicrhau bod y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol gennych i gyflawni eich amcanion busnes.

“Mae’r gwasanaeth CDP newydd hwn ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd. Mae wedi'i ariannu'n llawn, a gall drawsnewid y ffordd yr ydych yn gweithio ac yn rhedeg eich busnes," meddai Mr. Thomas.

“Mae bron i bob galwedigaeth a sector bellach yn mynnu bod eu haelodau neu weithwyr yn rhan o gynllun datblygiad proffesiynol parhaus (CPD), gan nad yw parhau i wneud popeth yn yr un modd yn  golygu’r ffordd orau i symud ymlaen mewn marchnad sy’n mynd yn fwy a mwy heriol a chystadleuol - cysyniad y mae nifer o’n busnesau mwyaf blaengar eisoes wedi ei fabwysiadu,” meddai Mr. Thomas.  

Bydd gwasanaeth Cynllun Datblygu Personol newydd Cyswllt Ffermio yn eich galluogi i ystyried eich sefyllfa bresennol a lle'r hoffech fod o fewn blwyddyn, pum mlynedd neu hyd yn oed deng mlynedd. 

“Trwy gwblhau ffurflen CDP syml ar lein, byddwch yn cael ei hannog i ystyried eich sgiliau personol, byddwch yn adnabod eich cryfderau ynghyd ag unrhyw wendidau, a thrwy osod amcanion, byddwch yn datblygu syniad clir o'r cyfeiriad i anelu ato yn fuan iawn." 

Mae’r gwasanaeth hefyd ar gael ar gyfer aelodau o’r teulu sy’n gweithio yn y busnes ynghyd â gweithwyr PAYE.

“Fe'ch anogir chi i osod cynllun gweithredu ac amserlen ar gyfer datblygu sgiliau neu wybodaeth newydd a all eich cynorthwyo i drawsnewid y modd yr ydych yn gweithio neu'n rhedeg eich busnes, ac sy’n eich cynorthwyo i wneud y mwyaf o unrhyw gyfleoedd busnes yn y dyfodol.

Mae’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd yn darparu ystod eang o sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd mentora, sy'n amrywio o becynnau e-ddysgu wedi'u hariannu'n llawn a ellir eu cwblhau o'r cartref neu'r swyddfa, hyd at gyrsiau hyfforddiant yn ymwneud â phynciau busnes yn ogystal â phynciau technegol, ac mae busnesau sydd wedi cofrestru’n gallu ymgeisio am gymhorthdal o 80% tuag at y gost.

Yn ogystal â chymorthfeydd galw heibio CDP a gynhelir ledled Cymru yn ystod mis Ebrill, bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn parhau i ddarparu cefnogaeth  i gynorthwyo ffermwyr i gwblhau eu CDP ar lein.  Am fwy o fanylion, ewch i'r dudalen CDP neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o